PWY YW'R AWDWR?

Ffrydiau Twrch.

Mae'r testyn wedi'i enwi

Ffrydiau Twrch,

A'r gronfa wedi tori

Ffrydiau Twrch;

Mae'r dyfroedd rhwng y cerig

Yn ffrydio'n grych berwedig

O rywle anweledig

Ym mol y bryn mynyddig

Uwchlaw'r Cellie hyllig,

A'i dwrf fel taran ffyrnig

Ar godiad tir rhwygedig,

A chreigiau maluriedig

Sydd yno'n rhesi unig

O gedyrn arfogedig

Yn gwylio'r dderwen dewfrig

Eistedda'n llwyn caeadfrig,

A'r pigau melldigedig,

A'r blodau caboledig,

A noda fan synedig

Ffrydiau Twrch.

A welsoch chwi y Ffrydiau?

Ffrydiau Twrch;

A daniwyd chwi gan donau

Ffrydiau Twrch?

Os naddo, ewch i'w gweled

Yn gyru dros y gwa'red

Yn ewyn gwyn i waered

Gan boeri ar eu pared,

A lluchio'r meini'n lluched

O hirbell yn ddiarbed;

Y cenllif gwyllt wrth fyned

Sy'n llamu bob yn llymed,

Gan rhwygo mal rhyw oged

Y tiroedd, gan ddweyd, Tyred

I'r moroedd er ymwared,

Fe chwala'r bryn cewch weled,

A'i feini ânt mor faned

A hoelion Tudur Aled;

Mac Twrch yn methu cerdded

O achos ei mawr syched,

A chwter James, er gwyched,

A safant oll nes yfed

Ffrydiau Twrch.

O'r Mynydd Du daw allan

Ffrydiau Twrch,

Yn fwrlwm gloew purlan,

Ffrydiau Twrch,

Gan rhuo, rhuo beunydd

A llu o ladron lledrydd

A'n gwlwm gyda'u gilydd

I chwilio am gorlenydd

Y defaid dofion beunydd,

A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,

A'u crogi rhwng y creigydd,

A'u gwerthu er eu gwarthrudd,

A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,

Ac arswyd yn y corsydd

Na ddaw eu gwir berchenydd

I wybod yn dragywydd

Am wal y drwg ymwelydd;

O! na bai i'r llifogydd

I beidio bod yn llonydd

Nes llifo dros eu glenydd,

A rhoddi pobo fedydd,

A boddi'r lladron llwydrudd,

Mi alwn hyn yn grefydd

Ffrydiau Twrch.

[Illustration: FFYNON-Y-CWAR.]

[Illustration: PONT-YNYS-TWLC.]

Parhâ i darddu'n gyson,

Ffrydiau Twrch,

Na syched byth dy ffynon,

Ffrydiau Twrch,

Ymlaen â thi, gan olchi

Y llygredd a'r budreddi

Sydd yn Nghwmtwrch yn croni,

Ac wrth y _George_ boed iti

I aros o dosturi;

Hen Waterlw y cewri

Boed iti i ddifodi

Hen olion gwaed oddiarni,

A chario byth i golli

Yr hen esgidiau mawrfri

A gawsant eu pedoli

Fel carnau meirch Napoli

I gicio llawer bwli--

Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,

A llawer wedi tewi;

O ganol eu drygioni

Boed iti loewi a gloewi

Y llefydd ffordd y llifi,

Nes bo Cwmtwrch yn codi

Ar unwaith o'i drueni

Mor lân, mor bur a chenlli

Ffrydiau Twrch.

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 23 / 29 题