Gwilym Shon.
Mae Gwilym Shôn yn awr yn hen,
Mae'r eira ar ei ben,
Yn araf ddisgyn dros ei en
Nes gwneyd ei farf yn wen;
Ar fin y nant mae'i fwthyn tlawd
Yng nghwmwd godreu'r bryn,
Ni wyr rhwysgfawredd pell a ffawd
Ddim am y bwthyn hyn.
Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,
A chysgu'n esmwyth wna,
Hyd nes daw'r wawrddydd drwy y dellt
I ddywedyd "Bore da;"
Ac yn ei goleu daw i lawr,
Ac ar ei liniau trwm
Gweddio wna yn ngoleu'r wawr
Gerllaw ei wely llwm.
Un hoff o'r mynydd yw efe,
Bydd yno'n fore iawn
O olwg pobman ond y Ne',
Rhwng y twmpathau mawn;
Heb wybod am rwysgfawredd dyn,
Na moethau'r palas gwych,
Mae yno'n siarad wrtho'i hun,
A bwyta'i damaid sych.
Bu ef mewn gweddi lawer gwaith
Yng nghysgod llwyn o frwyn,
A bu yr awel ar ei thaith
Yn ewrando ar ei gwyn.
Fe safodd ganwaith ar y bryn
I gofio'r dyddiau gynt,
Ac mewn myfyrdod elai'n syn
Cyn cychwyn ar ei hynt.
Yn fore, bore, bydd ar daith
Yn rhodio'i lwybr cam,
A chadd foreufwyd lawer gwaith
Yn mwthyn bach fy mam;
Fe wyddai mam heb unrhyw gais
Pa bryd oedd Shôn am fwyd,
Hi adnabyddai wrth ei lais,
Ac wrth ei wyneb llwyd.
A phan yn bwyta'i damaid mwyn,
A ninnau'r plant gerllaw,
Murmurai Shôn mewn banner cwya
Am bethau'r byd a ddaw.
Wrth rodio'r caeau 'nol a blaen
Nid yw am gwrdd a'r un;
Fe groesa ef ar draws y waen
Er cael bod wrtho'i hun;
A siarad mae pan ar ei daith
O hyd mewn distaw dôn,
Nes wy'n dychmygu ambell waith
Fod angel gyda Shôn.
Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,
Yn cilio tua'r pant,
Ac yntau dianc fry i'r bryn,
Yn cilio rhag y plant.
Diniwed yw, yn ofni'r byd
Ei wawdio ar ei hynt,
Tra'n gafael mae ei serch o hyd
'Nol yn yr amser gynt.
'Does ganddo awrlais yn y byd,
Na modd ychwaith i'w chael,
Ond adnabydda ef o hyd
Yr amser wrth yr haul;
Proffwydo'r tywydd teg o draw,
Ni fethodd ef erio'd,
A chanfod mae y gawod wlaw
Ddiwrnodau cyn ei dod.
Mae yn y capel erbyn pryd
Ar fore Sabboth Duw,
Y mae ei weddi dawel, fud,
Yn gwneyd ei fawl yn fyw;
Ac os dechreua cennad Iôn
Ddarlunio gwerth y gwaed,
Er heb Amen, canfyddir Shôn
Yn codi ar ei draed.
Aeth dynion ieuainc caled, hy',
Er cael difyrrwch ffol
Un hwyr i wawdio wrth ei dy,--
Ond troisant yn eu hol
A braw a gwelwder ar bob gwedd,
Can's torrodd ar eu clyw--
Swn Shôn o ymyl gwlad yr hedd
Yn galw ar ei Dduw.
Fry yn yr unig anial gwm
Dan goedydd cnau ac ynn,
Y mae adfeilion bwthyn llwm
Yng nghanol drain a chwyn;
A Gwilym Shôn a ddaw bob dydd
I'r waen uwchlaw y ty,
Ac edrych ar yr adfail bydd
A chofio'r dyddiau fu.
Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,
Am ofyn im paham,--
O! gwel yn adfail dan y llwyn,--
Hen fwth ei dad a'i fam.
Bu yna'n chwareu'n blentyn llon,
Fe dyfodd yna'n ddyn,
Mae gweld y lle yn glwyf i'w fron,
Galara wrtho'i hun.
Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,
A'r drysni lle bu'r tân,
Bu yno'n gwrando swn y gwynt,
Bu yno'n canu cân,
A chyda'r teulu lawer gwaith
Bu'n plygu ar ei lin,
Cyn gwybod am ofidiau'r daith
Ar amgylchiadau blin.
Dan ormes colli wnaeth ei dad,
Y cartref llawn o hedd;
Yn fuan ei rieni mad
Orweddent yn y bedd.
Fe garai eneth dros y bryn
A chariad bore oes,--
Canfyddodd hithau'n mynd 'r glyn
A'i gafael yn y groes.
Ei galon dan y saethau dwys
A dorrai fel ei rudd,
Ei fywyd oll o dau y pwys
Ai beunydd yn fwy prudd,
Ond daw drwy'r storom waetha 'rioed
Ar fore gauaf llwm
I weld yr adfail dan y coed,
Ac wylo tua'r cwm;
A dyry dro i ben y bryn
Yn llaw clwyfedig serch,
I weld o draw y bwthyn gwyn,
Hen gartre'i gariad ferch.