O'r Niwl i'r Nef.
[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar
ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu
ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol
tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr
oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau
crefyddol.]
Rwy'n mynd, fy nhad a mam,
I wlad na ddof yn ol;
'Rol teithio llawer cam
Dros lawer bryn a dôl.
Rwyf wedi blino'n lân,
Fy nerth sydd yn gwanhau,
Mae afon o fy mlaen,
A niwl o'm cylch yn cau.
Tuhwnt i'r Mynydd Du,
Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,
A thuag atti hi
Rwy'n mynd, fy mam a nhad.
Rwyf wedi colli 'm ffordd,
Fy ffryndiau sydd ar goll,
A minnau yn y nos
Yn chwilio am danynt oll.
Ond nid oes un a ddaw
I'm cwrdd yr ochr hyn,
Ond mae yr ochr draw
Yn llawn o engyl gwyn.
Ac fel yn dweud i gyd,
Na chaf fi unrhyw gam,
Rwy'n mynd i'r bythol fyd,
Ffarwel, fy nhad a mam.
Mae afon o fy mlaen,
Rwy'n clywed swn y don;
Rwy'n gweld y rhai sy'n byw
Tuhwnt i ffrydiau hon.
Mae melus hun yn dod,
'Rol dydd o ludded maith,
A minnau 'n teimlo fod
Gorphwysfa ar ben y daith.
I groesi 'rochr draw,
Nid oes ond megis cam,
Rwy'n mynd i'r byd a ddaw,
Ffarwel, ffarwel fy mam.