MYFYR MAI.

Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.

Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,

Wisga'n fore ar ei bron,

Mae'n gwresawu pob pelydryn

Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,

Natur fu yn paentio'i aeliau

Gyda phluen awel rydd,

Wrth ymolchi mewn pelydrau

Gwyna amrant llygad dydd.

Lygad siriol lawn cyfaredd

Yn agored o fy mlaen;

Ei fychander yw ei fawredd,

A'i holl rwysg yw bod yn blaen;

Try i ffurf a lliw yr huan

Wrth gwmnia gydag ef,

Er dadblygu'u lygad gloew-lan,

Aros wna yn nhês y nef.

Lygad effro, nad yw'n hepian

Nes yr huna anian dlos,

Yn ei wynder, wrtho'i hunan,

Gwena'r dydd a chysga'r nos;

Dysgwn wers y glân flodeuyn,

Yn y gwlith ei lygad ylch,

Fel na chenfydd un brycheuyn

Yn y llygaid sydd o'i gylch.

Lygad dydd, a chanwyll eurliw

Yn ei ganol, megis tân,

Ai nid heulrod glaswellt ydyw

Egyr ag ymylwe mân?

Er ei fod yn nghanol tyrfa

O'i wyn-frodyr ar y waen,

Wrth yr un ni chenfigena,

Mae ei burdeb yn ddi-staen.

Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa

Ben y clawdd am sylw'r byd,

Mewn dinodedd y cartrefa,

Gyda'r blodau lleia'i gyd;

Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwydd

Ddysga wersi i lawer un,

A ddisgynodd i ddinodedd

Wrth wneud duw o hono'i hun.

Dena lygad rhyw forwynig,

Sycha'i sendyl yn y gwlith,

Wrth dramwyo'r llwybr unig

Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;

Plyga'n wylaidd i anwylo

Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'

Am fod arall yn blodeuo

Ar hoff fedd ei thad a'i mam.

Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,

Gan ei adael ar y ddôl,

Wrth fiarwelio, 'rwyf yn credu

Ei fod yn syllu ar fy ol;

O! am fyw ei fywyd gloew,

Gyda chalon onest, rydd,

Fel y gallwn, cyn fy marw,

Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 19 / 29 题