LLEWELYN JONES.

Y Llynfell.

Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw

Castell Craig-y-nos.

Fuoch chwi wrth Danyrogof?

Welsoch chwi y temlau cain?

Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell

Fel organ gref yn llanw rhain?

Welsoch chwi wrth droed y clogwyn

Fel y rhuthra ffrwd mor falch

I oleuni o dywyllwch

Llwybrau cudd y cerrig calch?

Bu yn hir yn nwfn gysgodion

Bro y gwyll--heb wawr na rhos;

Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau

Unig yn rodfeydd y nos.

Carwn wybod peth o hanes

Gwlad heb flodyn ynddi hi,

Heb un deryn bach yn canu;

Heb un ganghen uwch ei lli.

Ond fe geidw ei chyfrinach,

Ni fyn son am ddim sy'n ol;

'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;

'Aros' ydyw hanes dol.

Dywedir fod ei dyfroedd gloew

Yn newid lliw cyn delo gwlaw;

Dyma broffwyd llwyd y Blaenau--

Wêl y ddrycin cyn y daw.

Ni wyr hi ddim am dymhorau,

Welodd hi erioed mor ha';

Ni fu gauaf yn ei rhwymo

Yng nghadwynau oer yr ia.

Y mae rhamant yn ei hanes,

Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,

Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd

Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.

Afon fechan, megis tithau,

Minau garwn deithio'n rydd,

Drwy gysgodion, i oleuni

Pen y daith yng Ngwlad y dydd.

_Corrig Haffes._

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 18 / 29 题