HOWELL POWELL.

Ffaldau Moel Feity.

Wrth droed y Foel arddunol,

Ger murmur Tawe fwyn,

Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,

Rhwng meini braf a brwyn;

O'u cylch mae'r bryniau uchel

Yn gwenu uwch eu pen,

A'r Fan yn spio arnynt

Drwy gymyl yn y nen.

Mor swynol ydyw canfod,

Ar foreu hafddydd gwyn,

Y defaid dirifedi

Yn britho'r bryniau hyn;

Y'mysg y cerrig garw

Sy'n gestyll rhag y gwynt,

Llochesant rhag ystormydd

Dramwyant ar eu hynt.

Amaethwyr Crai a Llywel,

Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,

A foreugyrchant yma,

Mi welir neb yn ol;

Daw hefyd wyr Llanddeusant

Ar eu ceffylau bach

I geisio'r defaid crwydrol,

A'u dwyn hwy adre'n iach.

Ceir gweled gwyr Glyntawe

A'u gyroedd yma'n dod,

Ni fu y fath brysurdeb

Mewn unrhyw fan erio'd:

Pob un a'i gi a welir

Yn casglu'r praidd o'r bron,

A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,

Rhwng muriau cedyrn hon.

Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,

Bydd pawb yn brysur iawn,

Pob un yn dal ei eiddo

I'w Ffald ei hun a gawn;

Os digwydd ambell ddafad

Estronol yma ddod,

Bydd llawer llygad arni

Yn ceisio gwneud ei 'nhod.'

Wrth droi a thrafod llawer

Fe welir ambell un

O'r defaid, dros y muriau,

Yn cym'ryd ffordd ei hun;

Ac ar eu hol yn sydyn

Bydd tyrfa fawr o gwn,

A'r lle yn haleliwia

Byddarol gan y swn.

Doethineb cenedlaethau

O ffermwyr yma fu,

Yn traethu am hanesion

Helyntion Mynydd Du;

Adroddent am wrhydri

Yr hen fugeiliaid gynt,

Ac enwau'r cwn a glywir

O hyd yn myn'd drwy'r gwynt.

Mor ddedwydd ydyw bywyd

Cyffredin gwyr y wlad,

Yn heddwch y mynyddoedd

Mae iddynt wir fwynhad;

Fe gollir y bugeiliaid,

Rhai newydd ddaw o hyd,

Ond erys y mynyddoedd

Heb newid oesau'r byd.

_Ystradgynlais._

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 17 / 29 题