Llynau'r Giedd.
Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,
A chanaf i dy Lynau,
Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes,
Fu rhai'n ar hyd yr oesau;
Bum innau'n chwareu lawer tro,
A nofio yn eu dyfroedd,
A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,
Oedd imi'n haner nefoedd.
Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"
A brwd oedd plant am dano,
Nid oedd ei debyg yn y wlad
I chware' tra'd a dwylo';
Ei waelod welodd llawer un,
A blin fu'r ymdrech droion
I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon
I farchog ton yr afon.
"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych
Pan fyddo sych yr afon,
A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun
Addolai'i hun yn gyson;
Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn
Yn ewyn gwyn cynddaredd,
Yn synu pawb bydd dyfroedd iach
Niagra fach Cwmgiedd.
Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,
Er cymaint son am dano,
Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon
Sy'n llifo'n gyson iddo;
Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin
Yn mhoethder hin yr hafau,
Pan sych yr afon yn mhob man,
Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.
"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,
Mewn creigle mae ei wely,
A physg yr afon dd'ont yn llon
O dan ei don i gysgu;
Mae Dafydd Morgan yn ei fedd,
A Giedd eto'n llifo,
Ond aros mae y llyn o hyd,
A'r byd yn myned heibio.
"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,
Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,
Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif
Yn adfail er's canrifoedd;
Bu llawer rhod o dan ei don
Yn gyson ei throadau,
A holi'n segur mae o hyd--
Pa le mae yd y tadau?
Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,
Cymydog yw i'r mynydd,
A'r miloedd defaid yn yr ha'
A olchir yma'n ddedwydd;
Os du ei don, daw'r praidd yn wyn
I'r cnaif o'r llyn yn gyson,
A thra bo'r Mynydd Du, parhâ
Yr "Olchfa" yn yr afon.
Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,
Ar ffordd y Fan a'r Carnau,
Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch,
A glyw y croch raiadrau,
Dyfnder yn galw dyfnder sy'
Yn gry' ar hyd y mynydd,
A Giedd lama'n ewyn gwyn
O lyn i lyn i'r Werydd.
_Cwmgiedd._
RHYS POWEL (_Yorath_).
Shon Wil Rhys.
'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,
Ac yn gwisgo'r blewyn brith,
Hen gymeriad hynod ydwyf,
Wedi'i fagu yn eich plith;
Nid oes neb sydd yn trigianu
Yn nghyffiniau afon Gwys
Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach
Yn y wlad na Shon Wil Rhys.
Caled i mi a fu bywyd,
O'i gychwyniad hyd yn hyn,
Megys myrtwydd heb wên heulwen
Dan gysgodau dwfn y glyn;
Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion,
Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,
Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo,
Ac heb daro'n erbyn craig.
Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,
Os mai llwydaidd yw fy ngwisg,
Nid yw'n deg i neb i farnu
Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;
Haera rhai na ches fy nghrasu'n
Ddigon caled, medde'n nhw,
Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r
Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.
Llawer coegyn sydd am wneuthur
Ffwl o honwyf lawer pryd,
Peidiwch chwi er hyn camsynied,
Y mae Shoni yma'i gyd;
Os yr ydwyf yn ddiniwed,
Nid wyf fi i gyd yn ffol,
Nid y fi yw'r unig berson
Fu fel Dafydd yn nillad Saul.
Pan yn nghryfder nerth ac iechyd
Teithiais lawer ar fy hynt,
Trwy gul gymoedd a thros fryniau
I gyrddau mawr yr amser gynt;
Yno wylo, neidio, a moli,
A rhoi proc i'r hen Amen,
Rhoddais _oil_ ar _wheel_ y bregeth
Ganwaith cyn y doi i'r pen.
Mae'r pregethwyr doniol hyny
Bron i gyd yn llwch y llawr,
Yn adgofio am eu haeledd
Y mae llawer hen got fawr;
Nid oedd un pregethwr enwog
Yn y de na'r gogledd draw
Na fum i ryw dro yn rhywle
Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.
Hen bregethwyr tanllyd Cymru,
Yn y wlad ac yn y dref,
Oedd y dyddiau gwlithog hyny
Yn gynefin iawn am llef;
Os pregethwyr mwy dysgedig
A gyfodwyd yn ein plith,
Hen bregethwyr cynt, er hyny,
I Shon Rhys am fêl a blith.
'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,
Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,
Os yw'r llwybr yn gerygog,
Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;
Os yw cefnfor f'oes yn arw,
Yn ddiangol af i'r lan,
Daw y porthladd clyd, dymunol,
I fy ngolwg yn y man.
Parch. D. ONLLWYN BRACE.
Pen y Cribarth.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth uchel?
I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,
Ar war y clogwyn tawel,
Ac yfed iechyd dros ei fin,
O gwpan gwin yr awel.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth Talfrig?
I edrych ar y fywiog fro
Sydd dano yn weledig,
Ardaloedd eang hyd y môr
Yw'r oror estynedig.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth eto?
I dremio draw i ben y Fan,
'Does dim ond anian yno--
Yn fynydd mawr, a defaid mân,
A nentydd glân yn llifo.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth golau?
Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn
Ddaeargryn yu y creigiau,
Cawn ddarllen ar bob careg bron
Hanesion o'r hen oesau.
Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth beunydd,
Ac uno ym mheroriaeth lon
Alawon yr ehedydd;
Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw,
Pwy na ddaw yn addolydd?
_Maesyderi, Abercrave._
T. J. DAVIES (_Iscoed_).
Yn y Mawn ar ben y Mynydd.
Ar y mynydd yr emynaf,
Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;
Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Awel bur a haul y boreu,
Yma geir fel am y goreu,
Yn rhoi yni i'r awenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ond, er hyny, nid yr anial
Mawnog hwn yw'r man i gynal
Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y bryniau mawr wybrenol
Mae dystawrwydd mud, ystyriol,
Yn sobreiddio naws boreu-ddydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ni cheir cor yn chwareu carol
Yn y llwyn yn llu awenol;
Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Chwery _un_ â chywir anian,
Ei grwth unig wrtho'i hunan;
Cu iawn ydyw cân ehedydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ef yw cerddor dor y daran,
Difraw troedia fro y trydan;
Bwria'i unawd o'r wybrenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
[Illustration: GORED Y GIEDD.]
[Illustration: TREM I'R MYNYDD DU.]
O bell clywir y gog dirion,
Gyda'r awel o'r godreuon,
Efo moliant haf ymwelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Draw ac yma drwy y cymoedd,
Cri a glywir o'r creigleoedd,
Bywiog alaw y bugeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Truman cribog, muriog, mawrion,
A'u hesgeiriau yn ysgyrion,
Yma wyliant uwch y moelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Metha'r haf a'i fwynaf wenau,
Wyrddu llen i ben y banau;
Oeda'r gauaf yn dragywydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ymherodraeth y mawr wywdra,
Heb eginyn bywiog wena;
Lle ni chawn na llwyn na chynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ac ar fynwes cwr y fawnog
Torwyd lluniau traed y llwynog,
Heibio hwylia yn ysbeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y clogwyn mawr cilwgus
Haf awelon sydd yn felus,
A chael enyd fach o lonydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Mwynhau heddwch y mynyddoedd,
A mwynderau y mawndiroedd,
Sy'n baradwys iawn i brydydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.