Bugail y Mynydd Du.
Rhys oedd bugail y Mynydd Du,
A theilwng fab y wawrddydd,
Yn nghwmni Toss, ei hanes fu
Fel chwedl ar y mynydd.
Arferai godi gyda'r haul,
Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,
A mynai yn ei belydr glân
Gael bedydd tan bob borau.
Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu
Fe ddeadellai'r defaid,
A Toss yn barod, wrth ei law,
I wneud ei arch a'i amnaid.
Y gauaf fel yr haf o hyd
Bu ef yn ffyddlon iddynt,
Wynebai storm Bwlch-adwy'r-gwynt,
A dryccin eira, drostynt.
A chalon ysgafn oedai'n hir
Yn awyr iach y bryniau,
Tra'r awel bur a'i phwyntyl llon
Yn lliwio'n goch ei ruddiau.
Fe garodd edrych dros y ddôl
Draw i bellderau'r mynydd,
A gwrando swn y nentydd byw
Yn galw ar eu gilydd.
Fe godai'i lais mewn hapus gân
O ddiolchiadau calon,
A chododd allor lawer gwaith
Ar ben y Cerrig Coegion.
Ar ben y mynydd--pell o'r dref,
Nef oedd agosaf iddo,
Newyddion byd a aent yn hen
Wrth deithio tuag ato.
Felused iddo yn yr hwyr
Oedd cysgod clyd ei fwthyn,
A Men ei briod wrth y tan
Ar aelwyd y Twyn Melyn.
Aeth llawer gauaf dros ei ben
Yn stormydd ar y bryniau,
Cyn iddo groesi dros y glyn
I wlad yr hafddydd golau.
Mae Men ac yntau yn y bedd,
Ac adfail yw y bwthyn,
Ond gwena'r haul a brefa'r praidd
O hyd ar ben Twyn Melyn.
_Abercrave._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
Hela'r Twrch Trwyth.
(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r
ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at Arthur
i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r helfa.
Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r Iwerddon drwy
Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond diangodd y Twrch a'i
fywyd ganddo.--MABINOGION.)
Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw
Cwmtwrch.
Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,
A'i swn dros y moroedd adseiniodd yn syn,
A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,
Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.
Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,
A dewrion gwyr Llydaw, a Norman a Ffrainc,
A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant ac wyth,
Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch Trwyth.
Marchogion a groesent y tonau yn awr
Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r haf ar y llawr,
A bloeddiai'r Gwyddelod--"Daeth dydd talu'r pwyth,
Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."
Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,
A'r Twrch a'i saith berchyll a glywent y swn.
A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,
A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.
Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr
O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y wawr.
A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,
Gan wenwyn llysnafedd o enau Twrch Trwyth.
Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt
Troes Twrch ei gyfeiriad a'i wrych yn y gwynt,
A'r helwyr yn dilvn--ni fu y fath lwyth
O wyn ar y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.
Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,
Bu dychryn drwy'r dalaeth ac alaeth a gwaedd.
A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,
Ddifrodwyd o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.
O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,
Ac helwyr a helgwn yn dilyn yn dyn.
Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,
A ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.
Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,
Llwynmoch a Chwmclyd a dialwn ein cam,
A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un llwyth,
Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."
Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,
Drwy'r erchyll ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.
Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol pwyth
Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.
[Illustration: CWMGIEDD (RHAN ISAF).]
Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,
(Mae'r cread yn deilchion fan hono yn awr).
Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth
Yn swn dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.
Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,
A rhanwyd ei berchyll, ond ef yn ei wanc
A groesodd i'r Tywi--yr olaf o'r wyth,
A'r awyr yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.
A misoedd a biwyddi o hela a wnaed
Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a gaed,
Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,
O'r Hafren i Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.
Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,
Ac Arthur yn Nghernyw mewn cwsg byth mae e'.
Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a llwyth
Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.