R. BEYNOK, B.A.

[Illustration: MYNWENT CWMGIEDD.]

Adgofion Mebyd.

Heda meddwl i'r gorphenol,

I baradwys bore oes,

Pan oedd bywyd yn ddymunol,

Pryd na chwythai awel groes;

Cysegredig oedd y twyni

Lle chwareuem amser gynt,

Nid oedd gofid wedi'i eni,

Nid oedd brad yn swn y gwynt.

Yr oedd engyl ar y llwybrau,

'N syllu arnom hyd y ffyrdd,

Eden ydoedd "Penyffaldau,"

Lle treuliasom oriau fyrdd;

Oriau glân heb wag oferedd

I lychwino'r tymhor gwyn;

Darn o'r nef yn ein hedmygedd

Oedd y llecyn prydferth hyn.

Cynal oedfa wedi'r oedfa

Wnelem ni ar ben y Bryn,

Nid oedd neb yn gwag-rodiana

Y nos Suliau sanctaidd hyn;

Pobi ieuainc yn finteioedd

Dyrent yma wedi'r cwrdd,

Gan orfoledd naws y nefoedd,

O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.

Cofio'r adeg pan neillduem

I ryw gonglau unig iawn,

Yno'n fynych yr arferem,

Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;

Adrodd darnau y "Pen Chwarter,"

Er eu gloewi, wnelem 'nawr,

Yna wedyn gan ein hyder,

Nid oedd neb yn tori lawr.

Ambell noson deg o'r wythnos

Gwelid ni dan lwyni heirdd,

Fel "derwyddon" yr hen oesau

Yn cael orig gyda'r beirdd;

"Oriau'r Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"

"Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,

A ddarllenem am y gore,

Cyn bod son am _football news_.

Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"

A llinellu yn ddiball,

A chael ffrwd o grechwen iachus

Wrth ddarganfod ambell wall;

Hyn yw'r rheswm fod fy ardal

Wedi codi beirdd o nod,

Wrth fyfyrio pethau ofer

Ellir byth gyrhaeddyd clod.

Wrth ymlwybro tua'r Capel

Dros y bryn, y waun, a'r ddol,

Nid oedd calon un addolydd

Yn dychmygu pethau ffol;

Gwelem Dduw yn mrig y perthi

'N llosgi, megys Moses gynt,

Caem ein dwyfol ysbrydoli,

A'n gweddnewid ar ein hynt.

Seiniau adar bach y llwyni

Dorai'n fiwsig ar ein clyw,

Yr oedd natur yn ein tywys

Tuag allor cysegr Duw;

Megys Enoch gynt yn rhodio

Rhodiai tadau dros bob rhiw;

Dal cymundeb â'r ysbrydol

Ydyw rhodio gyda Duw.

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 13 / 29 题