CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.

Gorffwys donn, dylifa'n llonydd,

Paid a digio wrth y creigydd;

Y mae anian yn noswylio,

Pa'm y byddi di yn effro?

Dwndwr daear sydd yn darfod,--

Cysga dithau ar dy dywod.

Gorffwys for! mae ar dy lasdon

Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;

Nid ei ran yw bywyd segur,

Ar dy lifiant mae ei lafur;

Bydd dda wrtho, for diddarfod,

Cysga'n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,

Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;

A pha esgus iti ffromi?

Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:

Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos

Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder

Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder;

Ond os cyffry dig dy donnau,

Pwy a ddirnad ei theimladau?

O bydd dirion wrth fy mhriod,--

Cysga'n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,

For didostur, ddofn dy grombil;

Trof at Un a all dy farchog

Pan bo'th donnau yn gynddeiriog;

Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod,

A gwna di'n dawel ar dy dywod.

[Gwraig y Pysgotwr. "Gorffwys for, mae ar dy lasdon

Un yn dwyn serchiadau 'nghalon.": alun105.jpg]

Gwaith Alun · 第 78 / 79 题