ABAD-DY TINTERN.

Pa sawl bron a oerodd yma?

Pa sawl llygad ga'dd ei gloi?

Pa sawl un sydd yn y gladdfa,

A'r cof o honynt wedi ffoi?

Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber

Swniai'r gloch ar hyd y glyn?

Pa sawl _Ave_, cred a phader,

Dd'wedwyd rhwng y muriau hyn?

Ar y gareg sydd gyferbyn,

A faluriwyd gan yr hin,

Tybiaf weld, o flaen ei eilun,

Ryw bererin ar ei lin;

Tybiaf fod y mwg o'r thuser

Eto'n codi'n golofn wen,

A bod swn yr organ seinber

Eto yn dadseinio'r nen.

Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell

Lle cartrefai'r anthem gynt;

Nid oes yma, o gor i gangell,

Un erddygan, ond y gwynt.--

Felly darffo pob coel-grefydd,

Crymed byd ger bron y Gwir;

Hedd a chariad, ar eu cynnydd,

Fo'n teyrnasu tros y tir.

Gwaith Alun · 第 77 / 79 题