CATHL I'R EOS.

Pan guddio nos ein daear gu

O dan ei du adenydd,

Y clywir dy delori mwyn,

A chor y llwyn yn llonydd;

Ac os bydd pigyn dan dy fron

Yn peri i'th galon guro,

Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael,

Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r feinir war

Sydd gymar gwell na gemau,

Er cilio haul, a hulio bro

A miloedd o gymylau;

Pan dawo holl gysurwyr dydd,

Hi lyna yn ffyddlonaf;

Yn nyfnder nos o boen a thrais

Y dyry lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan

Yn delwi dan y dulid,

Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,--

Ei gwen a guddia'i gofid:

Ni pheidia'i chan trwy ddunos faith,

Nes gweled gobaith goleu

Yn t'wynu, megys llygad aur,

Trwy bur amrantau'r boreu.

Gwaith Alun · 第 76 / 79 题