XI.—GWYNT Y DWYRAIN.

Fe wydde mam yn dda am wynt y dwyrain ers tro byd, o achos y fo oedd yn

dwad â’i bronteitus hi, ond wydde hi fawr tan yn ddiweddar am y dwyrain

ei hun, ond bod y doethion yn byw yno, a’r seren honno wedi cychwyn

oddiyno. A’r unig anhawster y gweles i mam yn ei gael o’r Beibil erioed

oedd paham yr oedd y doethion yn hoffi byw yn y dwyrain, a’r fan honno

yn gartref i’w wynt o. A hefyd sut na fase’r Beibil yn deyd rhywbeth eu

bod nhw’n diodde oddiwrth y fronteitus. O achos, medde hi, roedd yn

amhosibl i bobol fyw yng nghanol gwynt y dwyrain heb y fronteitus, os

oedd, pobol fel hi, mor bell o’r dwyrain, yn dioddef oddiwrtho. Cododd y

mater yn yr Ysgol Sul unweth, a gofynnodd y cwestiwn i’r hen Bitar, ei

hathraw, neu Pitar Isaac Roberts, fel y bydd hi yn ei alw,—mae mam yn

rhoi ei enw llawn ar bawb yn wastad. Ateb Pitar Isaac oedd nad oedd

bronteitus ddim wedi codi yn y cyfnod hwnnw, mai’r cyntaf yn y byd i’w

gael o oedd Teitus yr apostol, y dyn y sgwennodd Paul ato, a phobol

erill wedi ei gatshio oddiwrtho. Ameu’r esboniad ene braidd yr oedd

nhad, ond nid oedd waeth iddo dewi. Y mae gair yr hen Bitar yn ddeddf i

mam bob amser.

Doedd dim yn blino mam yn debyg i wynt y dwyrain, a’r syndod ydoedd ei

bod yn dallt mai gwynt y dwyrain oedd hi pan nad oedd gwynt o gwbwl. Mi

fum i lawer gwaith yn sefyll allan nes bod wedi rhynnu, yn dal pluen i

fyny yn fy llaw i edrych oedd ene wynt pan oedd mam yn y tŷ yn cwyno

oddiwrth y fronteitus, ac yn beio gwynt y dwyrain, a’r bluen heb symud

dim.

Pan oedden ni’n byw yn yr hen dŷ roedd mam yn gwybod yn iawn cyn i’r

fronteitus ddechre ymha gyfeiriad yr oedd y dwyrain, oherwydd ’roedd hi

wedi sylwi lawer gwaith mai pan chwythe’r gwynt ar draws y Foel Fawr y

bydde’i brest hi’n gaeth. Doedd hi’n cymyd fawr o sylw o’r caethiwed a

gai hi pan chwythe’r gwynt dros Lwyn y Brain, a hithe’n glychu ei thraed

wrth ddwad o’r capel. Ac oherwydd fod ein tŷ ni yn gwynebu’n union tua’r

Foel Fawr y bu raid inni ei adael. Yr oedd hynny ychydig ar ol i Huw fy

mrawd fynd i Ffrainc. Y mae ein tŷ ni rwan yr ochor arall i’r Foel.

Tŷ unig ydi’r tŷ newydd, yng ngodre’r Foel, ddim ymhell o’r “_Black

Crow_.” Ac ar nosweithie twyll y gaea ’does dim i’w glywed ond y gwynt

yn chwythu yn y derw yn nhop yr ardd, a’r pistyll bach sy’n ymyl y cyt

moch, a sein y “_Black Crow_,” yn cwyno wrth ysgwyd yn y gwynt. Ac am yn

hir ar ol inni ddwad yno, doedd dim gwynt yn taro’r drws fel yn yr hen

dŷ. A da oedd hynny, neu mi fase’r drws yn agor o hyd, oherwydd ’does

dim ond darn o glicied arno fo, a honno’n agor ar ddim.

Un nosweth yn y gaea ene, doedd dim byd yn y capel, a doedd Abram y Fron

ddim yn digwydd cael ffitie. Y tŷ agosa i ni ydi’r Fron, ac y mae Abram

yn diodde bob mis oddiwrth ffitie. A’r adeg honno y fi sy’n gorfod

rhedeg i’r Llan,—pellter o ddwy filltir,—i nol asaffeta i rwbio cledre

ei ddwylo a gwadne ei draed o. Peth da, medde nhw, ydi asaffeta, ond i

chi ei gymyd drwy eich dwylo a’ch traed. Gwn i mai peth ofnadwy ydio

wrth ei gymyd drwy’ch ceg. Lawer gwaith y rhedes i nol asaffeta i Abram

pan oedd y glaw yn patshio, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian, a’r

nos mor dwyll nes i chi fethu gweld eich llaw. Ond fel roedd y gore,

doedd Abram ddim yn sâl na dim byd yn y capel y nosweth yma, fel yr oedd

hi’n nosweth i mewn arna i.

A’r nosweth yma, hefyd, roedd pawb gartre. A lle digalon sydd yma ar ol

hanner awr wedi saith yrŵan, yn enwedig pan nad ydi Huw ddim gartre, ac

Wmffre a fi yn byw ymhell oddiwrth ei gilydd. Am saith o’r gloch ar

nosweth fel hyn mae’r swper wedi ei glirio, a’r plant lleia yn eu gwlâu.

Wedi golchi’r llestri y mae nhad a mam yn tynnu eu cadeirie at y tân,

neu’n hytrach mae nhad yn tynnu’r sgrîn, a mam y setl, ac os ydw inne am

dân, ’does dim i’w neud ond eistedd ar y blocyn. Dechre smocio ac edrych

i’r simdde y mae nhad fel rheol, a dechre gweu neu wnïo y mae mam, a

gorffen trwy bendympian.

Ar ol i mam olchi’r llestri y nosweth hon, mi gymerodd pawb eu

lle,—nhad â’i draed ar y ffendar, yn smocio a gneud cyrls o’r mŵg, a’u

gwylio’n toddi i’w gilydd, ac yna’n mynd yn un llinynne i fyny’r simdde.

Arhosai nes i’r llinyn ola ddiflannu, yna mi ddechreue wedyn ar neud y

cyrls mŵg, a hynny am allan o bob hyd, heb gofio o gwbwl fod yr amser yn

mynd. Yr ochor arall roedd mam yn gweu, ac am dipyn clywid sŵn y gweill

yn clician yn gyson, yna’n arafu, a sefyll. Edrych trwy’r Beibil yr

oeddwn i am adnod â’r gair “echdoe” ynddi. Dene’r tasg buddiol a gawsom

gan yr athraw y Sul cynt. Ac am y tro roedd Wmffre a fi wedi penderfynu

trio. Gwyddwn pam fod y gweill wedi sefyll heb imi edrych. Dene lle

roedden nhw ar lin mam, yn suddo’n ddyfnach, ddyfnach i’w glin hi o hyd,

a’i dwylo yn llithro o dipyn i beth heibio ei hochor, a’i phen yn dwad i

lawr gam a cham yn gyson, nes dwad i fan neilltuol. Yna, mi golle’r

balans, ac i lawr â fo. Arfer mam ar ol y sgytiad yma bob amser ydi

deffro’n sydyn, edrych arna i a ydwi’n gneud rhywbeth o’i le, yna cau ei

llygid, a’i phen yn cychwyn ar yr un daith wedyn. Dan swyn y symud yma

ar ben mam, mi anghofies chwilio am y gair “echdoe.” Ac roedd nhad yr un

mor ddiddorol a hithe. Pwysai ef ei benelinoedd ar ei benneglinie,

edrychai’n syn i fyny’r simdde, ac o amgylch ei ben yr oedd yr awyr yn

llawn cyrls mŵg, yn troi’n llinynne. Yr unig sŵn oedd tipiade’r cloc

bach, yr oedd y cloc mawr wedi stopio ar ol inni ddwad i’r tŷ newydd,

gan fod nhad wedi methu ei osod o’n union,—a gwich ysgafn fel dechre

bronteitus o frest mam. Ni chlywech hi’n anadlu o gwbwl. Dene beth ydwi

wedi sylwi lawer gwaith, nad ydech chi byth yn clywed pobol yn anadlu

pan fyddan nhw yn pendympian. A hefyd sŵn “w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ,” araf o

gyfeiriad nhad, wrth y gwaith pwysig o neud cyrls mŵg. Wrth glywed y

wich yn dechre ym mrest mam, dechreues betruso beth oedd cysylltiad

gwynt y dwyrain â’r fronteitus tybed. Mi chwilies bob man yn esboniad

Idrisyn o dan y geirie “dwyrain,” “doethion,” “gwynt,” a “seren,” ymhob

lle y cofiwn eu bod yn y Beibil, ond ches i ddim goleuni. Dene’r fantes

y mae’n debyg o roddi chwilio am eirie fel “echdoe,” ac felly ymlaen, yn

dasg yn yr Ysgol Sul, oherwydd wyddoch chi byth pa bryd y daw gwybodaeth

o’u lle nhw yn y Beibil yn handi, fel ar adeg fel hyn i mi. Yna eis i

edrych y geiriadur—Geiriadur Dr. Davies—dan yr un geirie, ond doedd

dim i’w gael am gysylltiad gwynt y dwyrain â bronteitus. Yna eis i

edrych dan yr enw Teitus, ond doedd dim byd ar hwnnw chwaith. O dipyn i

beth eis i feddwl ymhle yr oedd y dwyrain tybed. Ar fy nglinie ar gader

wrth ben y bwrdd yr oeddwn i ar y pryd, yn pwyso mhen ar fy nwylo a’m

penelinoedd ar y bwrdd. Yna eis i feddwl am y doethion, ac ymhen tipyn

mi welwn y seren yn codi yn y dwyrain, a’r doethion yn dwad yn un haid

ar ei hol hi. Haid o bobol dduon oedden nhw, yn rhuthro ar draws ei

gilydd, yn ddigon i ddychrynnu gwraig â babi bach ganddi, a rhedeg am y

cyntaf roedden nhw am Fethlehem. Ar y funud pan oedden nhw yn nesu at y

lle, dene ddyrnod annaearol imi ar bont fy nhrwyn, nes imi weld miloedd

o sêr, ond dim un doethyn yn eu dilyn. Neidiodd mam ar ei thraed, a phan

welodd beth oedd yn bod, dene hi’n dechre llefaru. Wedi bod yn

pendympian oeddwn inne a mhen i wedi llithro’n sydyn o’n nwylo gan

ddyfod i gyfarfyddiad heb ei ddisgwyl â Geiriadur Dr. Davies. Wedi imi

olchi nhrwyn oddiwrth y gwaed, safodd mam uwch fy mhen yn traddodi

araith rymus ar beryglon pendympian fel gwendid ym mywyd bachgen

gobeithiol deg oed. A’r unig sŵn a glywn pan oedd hi’n cael ei gwynt ati

oedd tipiade’r cloc bach, y wich fach yn ei brest hi, ac “w-pŵ, w-pŵ,

w-pŵ,” cyson o gyfeiriad nhad. Ar adeg fel hyn pan fydd y wich fach yn

dechre, feder mam byth siarad yn hir, a meddiennes inne fy hun mewn

amynedd, gan wybod y bydde popeth wedi llonyddu’n fuan. Mi orffenes

olchi nhrwyn ac aeth hithe i’w lle i weu, a dene gliciade’r gweill yn

dechre mor gyson â thipiade’r cloc. O dipyn i beth arafai’r gweill, a

chodes inne mhen ar ol y gwaith ofer o chwilio am “Teitus” i wylio pen

mam yn dechre gwyro o gam i gam nes dwad at y dibyn, yna,—i lawr. Bob

tro y digwydde hyn, neidiai i fyny, ac mi ddechreue eilweth ar y gweu,

ac yna trwy’r un cwrs drachefn. Ar ol y trydydd cwymp o eiddo ei phen

ysgydwodd ei hun, a gofynnodd i nhad yn hanner chwyrn, fel tase hi wedi

digio wrtho am beidio â’i hateb eyn iddi hi ofyn iddo,—

“Edward, ymhle mae Belgiam?”

Cymerodd nhad ei amser i neud hanner dwsin o gyrls mŵg, ac edrych arnyn

nhw’n diflannu’n llinynne,—

“T’wnt i Wrecsam,” medde fo.

“Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde mam yn hanner blin.

“Wel, trwy Wrecsam mae pawb yn mynd yno,” medde nhad, a dechreuodd

gyrlio mŵg wedyn.

Dechreuodd y pendwmpian drachefn, a dechreuodd y pen wyro, a gwyro bob

yn fodfedd, a modfedd, nes cyrraedd y jerc. Neidiodd mam i fyny

eilweth,—

“Edward,” medde hi, “ymhle mae Wrecsam?”

“T’wnt i Gaer,” medde nhad, ac yn ei flaen i blethu mŵg.

“O!” medde mam, a bodlonodd.

Dechreuodd mam weu wedyn am ysbaid, nes ei gorchfygu gan y pendympian,

ac i lawr â’r pen,—hyd y jerc. Yna neidiodd mam, trodd at nhad, a

gofynnodd,—

“Ond Edward, ymhle mae Caer?”

“T’wnt i Wyddgrug,” medde nhad, gan ddal gyda’r gwaith cyrlio mŵg.

Ond yr oedd mam wedi deffro drwyddi erbyn hyn. “Nid t’wnt i le’n y byd

ydwi’n feddwl, Edward,” medde hi, “ond prun ai’r ffordd ene, neu’r

ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, y mae Belgiam,” gan

bwyntio at y tân, y drws, y grisie, a’r ffenest, yn ei thro, gan fod y

pedwar hyn un ymhob ochor i’r tŷ.

Deffrôdd hyn nhad hefyd. Trodd ati’n bwyllog. Edrychodd arni’n hir a

syn, a mam â’i phen ar un ochor fel Robin Goch yn chwilio am beryg, a’i

bys yng nghornel ei cheg yn disgwyl wrtho.

“Wel, Ann,” medde fo, “fedra i ddim deyd, o achos tydwi ddim yn siŵr o

gyfeiriad llefydd o’r tŷ newydd yma.”

Y gwir ydi na fu o erioed yn siŵr, o’r hen dŷ chwaith, ond bod yn dda

cael rhyw esgus i mam pan fydde hi wedi deffro’n derfynol o’i

phendympian.

“Y cwbwl wn i,” medde fo, “ydi fod Belgiam ‘rywle yn Ffrainc,’ fel y

bydd y bechgyn yma’n deyd.”

Doedd hyn ddim yn ddigon i mam. Roedd arni eisio gwybod i ba gyfeiriad

yr oedd Belgiam o’r tŷ. A doedd na byw na marw na cheisiwn i gael allan

hynny iddi. Ond wedyn peth annifyr i fachgen yn Standard IV. ydi

bradychu ei anwybodaeth trwy chwilio’r map am le y gŵyr pawb amdano.

Ond ’roedd mam yn benderfynol o gael gwybod nes i lythyr ddwad ryw fore

oddiwrth Huw. Yna collodd bob diddordeb ym Melgiam. Roedd o wedi mynd i

rywle arall medde fo yn hwnnw, na wyddem ni ddim amdano. Pwy alwodd y

min nos hwnnw ond Mr. Edwards y gweinidog, ac y mae mam yn dangos pob un

o lythyre Huw iddo fo. Wedi iddo ddarllen y llythyr, dyma mam yn troi

ato fo, ac yn gofyn, “Lle ’rydech chi’n deyd y mae Huw, Mr. Edwards?”

[Illustration: “EDWARD, YMHLE MAE BELGIAM.”]

“Yn yr un fan, ym Melgium mae’n siŵr,” ebe Mr. Edwards.

“Ai yn Ffrainc y mae’r Pink ene hefyd?” medde hi.

“Pa Pink, Mrs. Roberts?” ebe Mr. Edwards.

“Dydio’n deyd ei fod o mewn rhyw le o’r enw Pink,” medde mam. Methodd

Mr. Edwards ei dallt hi am funud, nes imi ddangos y frawddeg iddo lle y

dywedai Huw, “don’t trouble about me, I am in the pink.”

Bu Mr. Edwards yn hir yn trio dallt y frawddeg, â’i gefn atom. Yna trodd

atom â’i lygid yn gochion, gan ddeyd mai lle ym Melgium yn ddiau oedd y

Pink yma.

“Mr. Edwards,” medde mam, “ymhle mae Belgiam?” Dywedodd ynte mai yng

ngogledd Ffrainc. “Ond yr hyn sydd arna i eisio wybod,” medde mam, “ydi

prun ai’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd

ene y mae o?” gan gyfeirio at bedwar pared y tŷ.

“Dowch i’r drws, Mrs. Roberts,” ebe Mr. Edwards, “welwch chi’r ceiliog

gwynt acw ar dô’r ‘_Black Crow_?’”

“Gwela,” medde mam.

“Welwch chi’r llythrenne N. E. S. W. acw o’i gwmpas o?” medde fo.

“Gwela,” medde mam.

“Wel,” ebe Mr. Edwards, “pan y mae pen y ceiliog bron yn cyfeirio tua’r

E. yna, gan droi oddiwrth yr S., y mae o’n cyfeirio tua Belgium.”

“Be mae’r ‘E’ ene yn ei feddwl?” medde mam.

“‘East,’ neu yn Gymraeg ‘Dwyrain,’” medde Mr. Edwards.

“Y dwyrain! Pam fod y ceiliog â’i ben weithie i’r dwyrain?” medde hi.

“Wel,” medde Mr. Edwards, “pan fo’r gwynt yn chwythu o’r dwyrain, y mae

pen y ceiliog yn troi tuag yno.”

“Gwynt Belgiam ydi gwynt y dwyrain te?” medde hi yn wyllt.

“Ia, os mynnwch chi,” medde ynte dan wenu.

Gwelwodd mam, dechreuodd ei gwefuse grynu, ac aeth i’r tŷ. Gwelodd Mr.

Edwards fod y sôn am Belgium wedi ei chyffwrdd, ac aeth ymaith heb ddeyd

gair.

Ar ol swper y nosweth honno, aeth mam dros stori Mr. Edwards yn fanwl i

nhad. “Rwan, felly,” medde hi, “mae grât y gegin yma i’r gogledd; a’r

grisie i’r de; y ffenest i’r gorllewin; a’r drws i’r dwyrain, wedi’r

cwbl, fel yn yr hen dŷ. Pan y mae’r mŵg yn taro i lawr, gwynt y gogledd

ydi hwnnw, pan y mae’r gwynt i’r drws, gwynt y dwyrain ydi hwnnw, pan y

mae’r ffenest yn ysgwyd, dene wynt y gorllewin, ac yr wyt ti ac Isaac,

Nedw, yn mynd tua’r de i’ch gwlâu.”

“Os felly,” medde fi, “mae ffenest fy llofft i i’r dwyrain. Mae’n dda na

dydech chi ddim yn cysgu yn y llofft honno efo’ch bronteitus.”

Bu nhad yn smocio tipyn, a mam yn pendympian, ar ol yr ymgom yma. Yna

aeth pawb i’w gwlâu.

Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi cael diwrnod o gysidro, Ar ol

swper, dene hi’n gofyn reit sydyn i nhad oedd o’n peidio â ngweld i’n

llwytach nag arfer. “Oes genot ti boen yn rhywle, Nedw?” medde hi.

“Yr ydw i’n iawn,” medde fi. “Nhroed i ydi’r unig le gwan arna i.”

“Dydwi ddim yn siŵr o hynny,” medde hi, “mae gen i ofn fod yr hen lofft

ene uwchben y siambar yn rhy oer iti, machgen i. Ac y mae Isaac yn

pesychu tipyn yn ddiweddar. Mi newidiwn ni heno, eiff dy dad a finne i

honno, ac mi gewch chithe ddwad i hon uwchben y gegin.”

“Dydi gwynt y dwyrain ddim yn blino troed bachgen a’i brifodd drwy

syrthio o ben pren eirin. Chlywes i rioed fod y fronteitus ar draed

neb,” medde fi.

Ond, gan fod mam yn deyd, ’doedd dim arall i fod. Yr oedd un peth

cysurus yn y llofft newydd—wynebu’r gorllewin, cartre Jinny Williams,

yr oedd y ffenest, ac yr oedd yn fwy cyfforddus o lawer, a chysges hyd

yn oed ynghynt na nhad y nosweth honno, o achos chlywes i mono fo’n

chwyrnu. A ’doeddwn i’n clywed dim oddiwrth wynt y dwyrain oedd yn

chwythu i ddannedd ffenest y llofft arall.

Rywbryd ynghanol y nos, mi glywes nhad yn gweiddi, “Ann, Ann, lle rydech

chi?” heb neb yn ateb. Gwaeddodd nhad wedyn, a dene lais mam, annhebyg

iawn i’w llais hi hefyd, yn ateb yn fain, o’r pellter, “Yn y fan yma.”

Taniodd nhad fatshen, ac ymddengys iddo weld mam yn eistedd ar gader, yn

ei becon nos, ac wedi codi’r bleinds, yn edrych i’r twllwch dudew tua’r

dwyrain.

“Ann,” medde nhad yn floesg, “bedi peth fel hyn da?—eistedd yn y fan

ene berfedd nos yn edrych i’r twllwch, heb ddim ond eich becon nos

amdanoch!”

“O!” medde mam, yn yr un llais main, “methu cysgu roeddwn i, rhaid fod y

tipyn caws ene gawsom ni i swper wedi gneud drwg imi,—fedrai byth gysgu

ar ol caws,—a chan ei bod hi’n nosweth glos, mi ddois yma i edrych oedd

y wawr ar dorri, o achos mi gwelwn hi o’r ffenest yma gan ei bod hi’n

edrych tua’r dwyrain.” Ac yr oedd ei llais hi’n mynd yn feinach,

feinach, nes darfod yn lân ar y gair ola.

“Dowch i’ch gwely, Ann bach,” medde nhad, ynte mewn llais meinach nag a

glywes i rioed ganddo fo, o achos baswr ydio, “mae bod yn y fan ene â

gwynt y dwyrain ar y ffenest yn ddigon am y’ch bywyd chi. Ac mae arnai

ofn, Ann bach, y bydd hi’n hir, hir, hir iawn cyn i’r wawr yr ydech

chi’n disgwyl amdani dorri.” A meinach, meinach yr âi ei lais ynte

hefyd, nes darfod yn lân ar y gair ola.

Y peth nesa a glywn i oedd nhad yn diffodd y gannwyll, a’r ddau yn y

twllwch, heb ddeyd gair wrth ei gilydd yn torri i sobian yn

ddilywodreth. A’r unig reswm y medrwn i ei gasglu dros hynny oedd fod y

nos mor dwyll, a’r wawr mor hir yn torri. Rhyfedd fod dau mewn oed a

synnwyr hefyd yn beichio crïo am fod y wawr yn hir yn torri.

Wrth frecwest bore drannoeth, gofynnodd mam i mi a oeddwn yn teimlo’r

llofft uwchben y siambar yn glos iawn pan oeddwn yno, ei bod hi’n dechre

credu’n wir fod gair Dr. Huws yn ddigon iawn mai amod iechyd oedd i bawb

agor eu ffenestri y nos, ei bod hi ers tro yn cael cur yn ei phen yn y

boreue, ac yn mynd oddiwrth ei bwyd yn arw.

“Wel,” meddwn inne, “dene’r peth gore yrwan y mae pawb ar eu lwfans.”

“Wedi’r cwbwl,” medde mam, “does dim tebyg i awyr iach.”

Y diwrnod hwnnw gwelwn fod pen y ceiliog tua’r “E,” ac er hynny nad oedd

fawr o wich ym mrest mam.

Wrth fynd i’n gwlâu medde hi wrthai, “Nedw, gofala agor dy ffenest heno.

Mi agorwn inne’n ffenest hefyd.”

“Gwynt y dwyrain ydi hi,” medde fi, “ac y mae’n beryg i chi gael

bronteitus.”

Gwelodd mam fod gwaith esbonio. Daeth yn ei hol, gosododd y gannwyll ar

y bwrdd, ac eisteddodd ar y setl. Yn ei gweld fel hyn, eisteddodd nhad

ar y sgrin, a minne ar y blocyn.

“Wyddoch chi,” medde mam yn bwyllog, “rydwi wedi meddwl llawer am y

peth, ac wedi dwad i’r penderfyniad nad oes a wnelo gwynt y dwyrain ddim

â’r fronteitus, o achos dydio ddim arnai weithie pan y mae gwynt cry o’r

dwyrain. Ond rhaid i chi drwsio’r glicied, hefyd,” medde hi wrth nhad,

“cyn i storm ohono fo ddwad.”

“Mae pawb yn meddwl,” medde fi, “mai gwynt y dwyrain sy’n codi

bronteitus.”

“Dydio ddim yn wir,” medde mam yn bendant. “Dene Dei Hurt yrwan sydd yn

stesion y dre, yn dwad yno o’i ben a’i bastwn ei hun efo’i chwisl. Mae

o’n chwislo, ac y mae’r trên ymhen tipyn yn mynd. Mae o’n meddwl fod y

trên yn mynd am ei fod o’n chwislo, ond mynd wnae’r trên prun bynnag a

fydde Dei yno druan ai peidio. Ac y mae hi yr un fath efo’r fronteitus

yn siŵr iti. Weithie mi ddaw pan fydd gwynt y dwyrain yn chwythu, ac

weithie mi ddaw hebddo.”

Cysgodd mam y nosweth honno â gwynt y dwyrain yn chwythu ar ei gwyneb, a

chododd yn llawen bore drannoeth, am nad oedd wedi rhoi’r fronteitus

iddi.

Ymhen diwrnod neu ddau dyma lythyr oddiwrth Huw yn deyd ei fod yn mynd i

gael “leave” ymhen yr wythnos, ac y bydde fo adre nos Lun wythnos i’r

nesa. Ac yr oedd mam uwchben ei digon. Parhaodd y gwynt i chwythu o’r

dwyrain ar hyd yr wythnos honno, a mam yn y drws y rhan fwyaf o’r dydd,

a’r awel yn chwythu ar ei gwyneb drwy’r nos, heb iddi gael bronteitus o

gwbwl.

Daeth y diwrnod i Huw ddwad adre, ac yr oeddwn i wedi disgrifio i mi fy

hun lawer gwaith sut y doi o i’r tŷ. Pan ddoi Huw i mewn, agorai’r drws

bob amser yn sydyn ac yn llydan, a doi fel awel o wynt ar ddiwrnod

heulog a gwên bob amser ar ei wyneb. Ddaru chi sylwi fod yn ddigon hawdd

nabod cymeriad dyn oddiwrth y ffordd y mae o’n agor y drws a dwad i’r

tŷ? Ond ’does gen i ddim amser i ddeyd chwaneg ar y pen ene heddyw.

“Nedw,” medde mam pan ddois i o’r ysgol, “dos i’r Llan i edrych am dun

salmon reit neis, fedrai ddim meddwl am ddim mwy wrth fodd Huw.” Ac mi

redes inne ynghynt na chynted gallwn, ac mi ddois â thun salmon reit

helaeth gan nad oedd salmon wedi bod yn y tŷ ers blynyddoedd, er bod ei

gael yn tolli ar ein lwfans cig ni. Bu mam trwy’r pnawn yn gneud cacen

datws, a chacen gri, pethe wrth fodd Huw.

Daeth nhad o’r gwaith, ymolchodd, a rhoddodd ei ddillad gore. Dydio byth

yn gneud hynny ganol wythnos ond ar adeg cyfarfod pregethu, neu ddiolch

am y cynhaea, neu ginio clwb—dydio byth yn dwad i de parti’r Ysgol Sul.

Ac arhosodd heb ei dê, dim ond rhyw damed bach i aros pryd.

Daeth y nos, ac un dwyll oedd hi, ac yr oedd gwynt y dwyrain wedi codi’n

storm er y bore. “Mae ene un cysur,” medde mam, “mae o’n cael y gwynt

o’i du i ddwad dros y môr ene,”—ac aeth i’r drws. Doedd dim i’w glywed

ond y gwynt yn llwyn top yr ardd, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian

yn wyllt. Aeth nhad i lawr y ffordd dipyn. Yna ymhen ennyd taflodd mam

ei ffedog dros ei phen ac aeth ar ei ol, a minne’n aros yn y tŷ rhag i’r

gath fynd ar y bwrdd. Daeth y ddau yn eu hole, ac arosasant fel yr

oeddynt am ychydig. Tynasant eu pethe yn y man, ac eisteddodd nhad ar y

sgrîn a mam ar y setl. “Wyddoch chi be,” medde nhad, “mae gwynt y

dwyrain yma’n oer hefyd.”

“Ddim mor oer chwaith ag y base rhwfun yn meddwl,” medde mam, a chododd

i fynd i’r drws wedyn. Caeodd o wedi syllu’n hir i’r twllwch, a daeth yn

ol. Ymhen tipyn dene’r drws yn agor yn sydyn, nes taro yn erbyn y pared.

“Huw!” medde ni ill tri ar unweth. A dene’r plant lleia, oedd yn eu

gwlâu, i gyd ar eu traed. Ond doedd yno ddim heblaw pwff o wynt, a daeth

“bŵ-ŵ-ŵ-ŵ” mawr i’r tŷ efo fo. Chwythodd yr almanac oddiar y wal, a

diffoddodd y gannwyll, cyn i neb fagu calon i gau’r drws. Yn y man codes

i a chaues o. A bu gwrando distaw, maith, tan syllu i’r tân. “Bŵ-ŵ-ŵ-ŵ,”

medde gwynt y dwyrain, yn awr ac eilweth mewn llais bâs dyfn o dan y

drws, ond ni chlywem ddim sŵn arall yn unman.

Ddaeth Huw ddim y nosweth honno, ac aeth pawb i’w gwlâu heb y salmon.

Wedi meddwl, doedd neb yn hidio rhyw lawer am salmon. Ac er ei bod yn

storm, cadwodd mam y ffenest yn agored trwy’r nos i gael awyr iach. A

medrodd ddisgrifio i’r dim fel y torrodd y wawr o dipyn i beth fore

drannoeth. Un iawn am ddisgrifio ydi hi pan fydd hi mewn hwyl. Ac ni

chlowyd y drws chwaith y nosweth honno, ac yr oedd yn rhaid i rywun

godi’n barhaus i’w gau, am fod y gwynt o hyd yn ei chwythu’n agored.

Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi ail newid ei meddwl am gysylltiad

gwynt y dwyrain â’r fronteitus. Caeodd y ffenest yn dyn, er mai gwynt y

dwyrain—y gwynt oedd wedi lladd ei chur yn y pen—oedd yn chwythu.

Clowyd y drws a rhoddwyd sach yr aelwyd o dano. Ac yr oedd hi’n mynd i’w

gwely, a’i llygid yn gochion, ei phen yn drwm, a’r fronteitus arni nes

methu anadlu bron.

Dene’r bore drannoeth y daeth y llythyr melyn hwnnw o’r War Offis, yn

galw Huw—ein Huw ni—yn nymbar rhywbeth neu’i gilydd, a’r tipyn papur

hwnnw ynddo fo, o gydymdeimlad wedi’i brintio, oddiwrth y brenin.

Fedra i ddim tynnu o fy meddwl rwan y nosweth honno wrth yr Hen Ffynnon,

pan oedd Huw a finne yno am ddau o’r gloch y bore.

Nedw · 第 20 / 22 题