“En-ne-edw,” medde fo,—“by-by-brech-d-a-an i m-i-i am sy-sy-slum.”
A dene fargen. Roedd gen i slum arall yn mynd i mewn ar ol amser chware,
ac mi werthes hwn hefyd i Robin am wningen. Roedd rhyw wendid am slumod
wedi dwad ato fo. Erbyn hyn roedd gen i ddwy wningen. Roedd gan amryw
o’r bechgyn wningod, a dene’r gair allan fod Nedw’n barod i werthu
unrhyw nifer o slumod i’r bechgyn am wningen yr un, neu ryw bris
rhesymol arall. Welsoch chi rotsiwn beth y pnawn hwnnw. Roedd gan bron
bob bachgen yn yr ysgol wningen efo fo, a chyn gynted ag y troai’r scŵl
ei gefn, yn galw arna i—dydi’r scŵl ddim yn clywed yn dda o gwbwl—ac
yn dangos pen gwningen i mi o’u pocedi,—rhai o bob math a lliw, gwyllt
a dôf. Rydwi’n siwr fod ene tua naw neu ddeg, i gyd. Amser chware roedd
pawb yn gwthio ei wningen i mi am slum, a minne heb ddigon o slumod i’r
farchnad. Mi addewes ddyfod â stoc newydd i’r ysgol drannoeth. Llwyddodd
Sec i gael tri neu bedwar imi rywfodd, yn ystod y nos, ac addawodd
beidio â deyd gair wrth neb amdanyn nhw. O dipyn i beth daeth holl
wningod y lle yn eiddo imi. Ar ol i rai ohonyn nhw farw, ac i’r gath
fwyta dwy, roedd gen i bump wedyn. Mi gadwes dair a rhoi dwy i Wmffre.
Roedd hynny’n ardderchog, nes iddi ddwad yn bwnc o fwyd iddyn nhw.
Mae cael digon o brofant[10] i gymint ag oedd gen i o wningod yn dipyn o
beth. Mi weles ei bod yn haws dal piwied i slumod na hynny. Cynghorwn
bawb i gadw slum yn lle gwningen, yn enwedig gan fod rheswm arall tros
ei gadw y cai sôn amdano eto.
O’r diwedd darfu gwningod y bechgyn. Doedd gan neb yr un i gynnyg i mi,
ac yr oedd pawb eisio slum. A doedd hi ddim yn deg gwerthu rhai slumod a
rhoi’r lleill. Y peth y methe plant ei ddallt oedd, ymhle y cawn i ’r
holl slumod yma, ac yr oedd Sec wedi addo peidio â deyd, na gwerthu rhai
ei hun, ar draul colli ei damed. Felly, mi gefes, rydwi’n meddwl, y peth
mae nhw’n ei alw’n “patent” ar slumod, er nad ydwi ddim yn siwr mod i’n
dallt y peth yn iawn. Er mwyn bod yn siwr, mi ofynnes i John Roberts, y
post, ar y ffordd un diwrnod. Mae o’n giamstar ar y pethe yma, medde
nhw.
“John Roberts,” medde fi, “bedi ‘patent’?”
“I be wyt ti’n gofyn, Nedw, ngwas i?” medde fo’n reit glên.
“Rydwi’n meddwl, os nad ydwi’n methu, mod i wedi cael patent ar slumod,”
medde fi.
“Mae’r Brenin Mawr wedi cael patent arnyn nhw ymhell o dy flaen di, Nedw
bach,” medde John Roberts, yn gwynfanus, a throdd ar ei sawdl.
Dydwi ddim yn siwr eto, felly, o’r peth; ond does dim i’w neud ond deyd
wrth y bechgyn mai gen i mae’r patent, a chadw’n ddistaw ynghylch ei
ystyr o. Roedd hi wedi mynd, o dipyn i beth, i mi rannu ’nghinio efo
Sec, a phan fydde pawb o ’nghwmpas i ar ganol dydd, a’r farchnad yn o
boeth, fe gai Sec y cinio i gyd. Bob yn dipyn roedd graen go dda yn
dechre dwad ar ei wyneb, a minne’n gwerthu’r slumod am y pris ucha’n
bosib,—pensel lâs, neu feipen, neu addo cnau daear, a phethe felly.
Yn sydyn un diwrnod darfu’r slumod hefyd. Methodd Sec â dwad o hyd i’r
un yn unman. Wyddwn i ar y ddaear beth i’w neud, a minne wedi cael lot o
faip ac addo cnau daear ar dryst, ac Wmffre a fi wedi eu bwyta nhw, neu
neud lanterni maip. Ac am y feipen ges i gan Willie Ann Huws, roedd
honno’n ddigon maint i neud lantar i ffitio post llidiard y Plas.
Un min nos, a minne’n cysidro dros yr amgylchiade, â ’mhwys ar wal y
buarth, pwy a ddaeth heibio ond Sec.
“Ne-e-edw,” medde fo, “mi-i w-w-wn i ym-ym-mhle mae sy-slumod.”
“Ymhle?” medde fi.
A dene fo’n deyd ei fod wedi gweld rhai’n dwad allan y nosweth honno o
seilin yr ysgol, yn ymyl y gloch. Ond sut i gael i’r seilin oedd y
cwestiwn. Mi gofiodd Sec am y peth mae nhw’n alw’n fanol,[11] uwch ben y
cloc mawr yn yr ysgol, a’r llall uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu
arno.
Bore drannoeth wedi gweld Wmffre, dyma fi’n cyhoeddi y bydde gen i slum
bob un cyn nos i bob un yr oeddwn i yn ei ddyled, ac un am ddim i unrhyw
un o’r plant a’i cymere fo ar fy nhelere i. Roedd y lle yn fyw i gyd yn
syth. Ganol dydd, pan oedd y plant yn mynd allan, mi slipiodd Wmffre a
fi i’r cwpwr llyfre, ac mi addawodd Sec fod yn ddistaw. Dene bawb allan,
a’r rhai oedd yn bwyta yn yr ysgol yn ol at eu cinio, a Sec yn bwyta fy
nghinio i reit ddistaw. Toc, mi gliriodd pawb, a dene ni’n dau o’r
cwpwr, a dringo ochor y cloc mawr, i’w dop, yna oddiyno’n codi caead y
manol, ac i mewn i’r seilin. Doedd gennym ni ddim llai nag ofn, oherwydd
dene “shiw” mawr yn y seilin cyn gynted ag yr aethom i mewn. Wedi cau’r
caead dene dwllwch dudew. Roedd gennym ni focs o fatshis, gawsom ni gan
Sec. Un da am ddwad o hyd i bethe felly ydio. “Hei,” medde Wmffre, “dyma
un,” ac i’w boced â fo, slum braf iawn. Erbyn amser canu’r gloch,
roeddem ni wedi dal naw. Cyn inni feddwl am ddwad i lawr, dene’r gloch
yn canu, ac i mewn â’r plant. “Rwan am y telere,” medde fi wrth Wmffre,
“i’r un sydd eisio slum am ddim. Os meder un ohonyn nhw ddal hwn, mi
caiff o.” Mi godes y caead yn ddistaw bach. Yr oedd Standard I. bron
odanom ni, ac mi luchies y slum i’w canol nhw. Dene sgrech fyddarol, a’r
scŵl yno. Roedd y sgrech yma’n ddigon hyd yn oed iddo fo ei chlywed. Mi
glywen y scŵl yn gofyn yn wyllt,—“What’s this?”
Ddeydodd neb air am funud, ond toc dyma lais Sec,—“A-sy-sy-sy-slum
sy-syr, a-slumsyr.”
Dene’r tro cynta erioed i neb glywed Sec yn yr ysgol yn ateb cwestiwn yn
gywir.
“‘Bat,’ you mean,” medde’r scŵl yn wyllt.
“N-n-o-o b-a-a-at, sy-sy-sy-slumsyr,” medde Sec.
Gofynnodd y scŵl pwy ddaeth â fo. Wydde neb ddim, ond gan fod gan Sec
rywbeth od bob dydd yn yr ysgol, edrychodd pawb arno fo.
“Come out,” medde’r scŵl, ac aeth â fo at ei ddesc, ac mi cadwodd yno
nes cael amser i’w ddyrnu, a thaflodd y slum allan.
Safodd Sec fel dur heb glepian, a gwelsom ninne na thale hi ddim iddo fo
gael ei gweir am ddim byd. A gwyddem mai ei gweir gai o, o achos ni
chlepie Sec ddim arnom ni.
Tarawyd ar gynllun i’w achub o. Cerddasom fel cathod ar draws y seilin
at y manol arall, sy uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu arno. Mae
hwnnw ymhell oddiwrth y ddesc lle y safe Sec. Symudwyd y caead dipyn
bach o’r ffordd. Roedd Isaac y Graig wrth y bôrd yn gneud sym, a’r scŵl
y tu ol iddo. Methai Isaac neud y sym yma, a’r scŵl yn dechre malu ewyn.
Er mwyn ceisio tynnu sylw’r plant, dyma fi’n danglo slum yn eu golwg
gerfydd ei goes, ond ni sylwai neb gan fod Isaac yn methu gneud y sym.
Edrychai pawb yn fanwl ar y bôrd, gan drïo ei helpu trwy siarad rhwng eu
dannedd, rhag ofn i rywun arall gael ei alw at y bôrd. Gan nad ydi’r
scŵl ddim yn clywed, ryden ni wedi dysgu, i gyd, siarad yn uchel, heb
symud ein dannedd na’n gwefuse. Methu gneud y sym ddaru Isaac, beth
bynnag, a dene “hold out” iddo fo. Pan oedd y ffon ar fin dwad i lawr,
mi blygodd Wmffre ar fy nhraws i weld, gan wasgu ar fy mrest, ac ar y
funud, pan drois i fy mhen i ddeyd wrtho am beidio, mi drôdd y slum gan
sgryffinio fy llaw, a gollynges o heb yn wybod i mi fy hun. Roeddwn i
wedi bwriadu gollwng un ymhellach ymlaen, pan fydde cosb Sec ar
ddigwydd, er mwyn i’r scŵl weld nad oddiwrtho fo y doi’r slumod, ond nid
cyn hynny. Mi ddisgynnodd y slum yn union ar ben Isaac, ac wedyn
rhyngddo a’r scŵl, gan ddechre crafangu ei drowsus, a’i ddringo, a dene
sgrêch annaearol, a’r plant yn ferw i gyd. Chawsom ni ddim ond cau’r
caead, nad oeddem ni’n siwr fod pob llygad yn edrych tuagatom.
“What’s this again?” medde’r scŵl. Ni atebodd neb am funud, ond yn y
man, ynghanol distawrwydd mawr, dene ateb o’r pen arall i’r ysgol,
oddiwrth ddesc y scŵl,—
“A-sy-sy-slum, sy-y-r, slumsyr.”
Doedd dim posib bod Sec wedi taflu hwn, ac ar bwys hyn anfonwyd ef i’w
le heb ei guro am y llall chwaith. Mi ochneidiodd Wmffre a fi yn rhydd
wedi gweld arbed Sec rhag ei gosbi.
Roedd yr ysgol yn ferw, fel y deydes i. Ond o ble doi’r slumod? Aeth y
scŵl a Joseph y Titshiar allan, wedi cysidro tipyn. Roeddem ni’n gweld
tipyn o’r symudiade trwy hollt bach yng nghaead y manol. Wedi iddyn nhw
fynd, dene fi’n codi’r caead ac yn edrych i lawr. Gwelodd pawb fi, a
dene tshiars i mi, o achos gwelsant yn syth delere’r addewid am slum yn
rhad,—eu dal wrth iddynt ddisgyn o’r seilin. Mi wyddwn na ddeyde neb
wrth y scŵl, o achos yr oedd rhai o fechgyn cryfa’r ysgol ymysg y rhai
oedd wedi rhoddi maip a phethe erill i mi am slumod ar dryst, a gwae neb
a achose iddyn nhw golli eu slumod.
Dene’r scŵl a Joseph yn ol yn y man, efo rhywbeth fel tri neu bedwar
coes brwsh wedi eu rhwymo wrth ei gilydd. Caeais y caead pan weles i
nhw’n dwad. Roedd yn hawdd gweled eu hamcan,—edrych oedd y caead yn
peidio â bod wedi symud, a’r slumod yn dwad y ffordd honno. Eisteddodd
Wmffre a fi ar y caead yn syth. Dene’r ffyn i fyny, a’u taro yn y caead
o hyd ac o hyd, ond symude fo ddim. “Mae honene’n iawn beth bynnag,”
medde’r scŵl. “Mi drïwn y llall rwan.” Roedd cymint o ferw a sŵn yn yr
ysgol erbyn hyn, fel nad oedd yn anodd i Wmffre a fi redeg ar draws y
seilin at y llall heb i neb ein clywed ni. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd a
dechre curo’r caead hwnnw, roeddem ni ill dau yn eistedd yn gyfforddus
arno. Dene ddistawrwydd mawr. Y cwestiwn i’r plant a ninne oedd, beth
wnai’r scŵl.
“Wel,” medde fo, “does dim amser i chwilio mwy tan ar ol yr ysgol. Awn
ymlaen yrwan efo’n gwaith.”
Ac ymlaen yr aethant, a ninne’n dau reit falch fod yr hen Sec yn sâff,
yn enwedig gan inni fod o dipyn o fantes iddo ymgodi, trwy fod yn achos
iddo ateb un cwestiwn yn gywir yn yr ysgol unweth yn ei oes.
Pnawn Gwener oedd hi. Cyn gynted ag y cawsom le, i lawr â ni twy’r
manol, ac efo ochor yr hen gloc mawr, ac allan trwy ffenest adre.
Llwyddasom i dalu ein dyled o slumod i bawb oedd wedi prynu rhai, cyn
iddi dwllu’r nosweth honno.
Roeddem ni’n meddwl mai ni fase popeth fore Llun, wedi llwyddo i gael
slumod i gymint o’r bechgyn, ac wedi dwad o hyd i stoc newydd, a
pharatoisom ein hunen ar gyfer y ganmolieth, trwy ofalu dwad i’r ysgol
wedi molchi ein gyddfe, ac iro’n sgidie. Meddyliem wrth glywed y bechgyn
yn canmol, y tynne hynny sylw’r merched. A dene lle byddem ni i dderbyn
eu sylw nhw yn smartiach na neb. Ond siomwyd ni yn fawr. Chawsom ni mo’r
croeso a ddisgwyliem o lawer. Yn wir, edrych yn bur ddigalon yr oedd y
bechgyn i gyd, bob tro y deuem i’r golwg, yn enwedig arna i, ac ambell i
un â golwg drymllyd iawn ar ei wyneb,—yn enwedig o’r rhai oedd wedi
prynu slum am wningen.
Methem ddallt pethe am dipyn, ond fuom ni ddim yn rhyw hir iawn heb
ddwad i’r gole,—y slumod oedd i gyd wedi marw, a’r gwningod gennym ni,
a hynny oedd yn spâr o’r maip.
Wedi bod dan y digalondid hwn o eiddo’r bechgyn am dipyn, a chysidro yn
o drwm, mi ddarun deimlo mai braidd yn ormod o faich i’w cadw oedd y
gwningod, yn enwedig pan fydde’r bwyd yn brin. Felly, fe’u gwerthwyd i’r
bechgyn yn ol, ar y peth mae pobol yn alw yn delere rhesymol. Y fargen
ore gês i, oedd darn o gŵyr crydd gan Shoni’r Pentre am ei wningen o yn
ol.
A dene’r rheswm arall y sonies amdano, pam ei bod hi’n fwy manteisiol
cadw slumod na gwningod,—mae nhw’n siwr o farw cyn i chi lân flino
arnyn nhw.
Fel y gallsech feddwl, dipyn yn dwyll ydi hi ar farchnad Sec yrwan. Ond
wedi’r cwbwl, wnaiff hi mo’r tro iddo lwgu, a ’does dim i neud ond imi
ddal i rannu fy nghinio efo fo, nes i’r cnau daear fod yn addfed.
Rydwi’n dallt arno fo nad oes mo’i well am eu ffeindio nhw.
-----
[8] Ystlum=_bat_.
[9] Ddelar=_dealer_.
[10] _Provender._
[11] _Manhole._