XII.—IFAN OWEN TY’N LLWYN.

“Nedw,” medde Betsen Jones y crydd pan es â thipyn o datws iddi oddiwrth

mam un diwrnod, “be sy ar dy ddwylo di’n gwaedu?”

“Taro’r ddafad yma mewn carreg ddaru mi,” medde fi.

“’Rargen fawr,” medde hi, “mae dy ddwylo di’n llawn defed. Wyddost ti

sut i’w mendio nhw? Galw yng ngefel Tomos Owen y gô a gofyn am gael

molchi dy ddwylo yn y dŵr y mae o’n oeri haearn ynddo fo, bob dydd wrth

fynd adre o’r ysgol, ac mi gei weld y clirian nhw i gyd ond iti beidio â

sychu dy ddwylo, ond gadael i’r dŵr sychu arnyn nhw ohono’i hun.”

Mi ddarum, ac mi ffeindies mai dyn clên iawn ydi Tomos Owen, hoff iawn o

stori, ac o dipyn i beth, aeth Wmffre a fi ac ynte’n hen ffrindie, ac

arhosem yno am gom bob dydd wrth alw i mi ’molchi nwylo. Dyn go newydd

yn yr ardal ydio, wedi cymyd yr efel pan fu farw William Pitars.

Un diwrnod yr ha dwaetha roedd hi’n llethol o boeth, ac yn bygwth trane

trwy’r pnawn. Roedd Wmffre a fi’n cychwyn adre wedi bod dipyn yn hwy

na’r gweddill o’r plant, oherwydd castie Joseph y Titshar. O’n blaene ni

roedd ene nifer o fechgyn yn mynd tuag efel Tomos Owen tan gomio. Dene

daran sydyn, a mellten, a tharan wedyn. Ac i ffwrdd â phob un ar sgruth

a throi i’r efel. Ac ni chawsom ninne ond cyrraedd y drws na ddaeth yn

gafod ofnadwy o law trane, ac yr oedd y mellt yn ddychrynllyd. Roedd

pawb wedi dychrynu, a Tomos Owen yn ceisio ein diddanu. Wrth ei weld mor

rydd, dene Morus yr Allt yn mentro gofyn iddo,—“Tomos Owen, o ble

’rydech chi’n dwad?”

“O Lanfangu, machgen i,” medde Tomos Owen.

“Sut le ydio?” medde Morus.

Ddeydodd Tomos Owen ddim byd am dipyn. “Meddwl amdano fo y bum i trwy’r

pnawn,” medde fo yn y man. “Mae’r pnawn poeth yma yn fy atgoffa am bnawn

poeth tebyg iddo fo dro’n ol yn Llanfangu, pnawn pur ryfedd. Fasech

chi’n leicio cael hanes y pnawn hwnnw?”

“Basen,” medde pawb.

“I ddechre,” medde fo, “rhaid i mi ddeyd sut le ydi Llanfangu, ac mi

ddechreua i yn y dechre. Dene’r peth gore am wn i.” Ac aeth Tomos Owen

ymlaen gyda’i stori, a dyma hi,—

“Lle rhyfeddol o dawel ydi Llanfangu,” medde fo, “a’i Eglwys a’i fynwent

yn ei ganol. Mwy o lawer iawn ydi trigolion y fynwent na thrigolion y

Llan ei hun. Hwyrach mai dene’r rheswm pam fod y lle mor rhyfeddol o

dawel, mai ymostwng y mae o, fel y dyle pob lle, i lywodraeth y

mwyafrif. Welwch chi’r un fynedfa ohono fo, ac y mae ei beder ffordd fel

tase nhw’n darfod ryw ganllath o’r Llan. Wedyn ’does dim i’w weled ond

mynyddoedd, a brynie, a choedwigoedd, ar bob tu. Lle ydio fase’n taro

bardd neu freuddwydiwr fel cilfach bell o sŵn y boen sy’n y byd. Ac

wedi’r cwbwl, ei le amlyca o, mhlant i, ydi’r fynwent.

“A’r pnawn crasboeth yma o fis Mehefin, roedd o’n ymddangos fel pe na

base yno leiafrif o gwbwl, a bod y mwyafrif wedi gadael eu cartref yn y

fynwent, a thrawsfeddiannu pob tŷ a thwlc o fewn y lle. Mor dawel oedd

hi yno ag y gellid clywed yn glir hen gloc mawr yr ysgol bob dydd yn

tipian cyn belled a buarth y _Crown_. Doedd na siw na miw arall ond y

sŵn hwnnw na ellwch chi mo’i ddeffinio, sy’n yr awyr pan fo popeth yn

berffaith dawel. Rhygnai ceffyl ei garn yrŵan ac yn y man ar gerryg

llawr stabal y _Crown_, ac mi clywech o’n rhoi ambell gno ar ei fwyd

rhwng ysbeidie o dawelwch, fel pe na base arno ddim angen am fwy o fwyd

nag a fase’n ei gynnal i freuddwydio, ac mai cipio tamed rhwng y

golygfeydd yr oedd o. Yr unig sŵn arall y gallsech chi ei glywed o’r

ffordd fawr oedd cliciade gweill yr hen Farged Roberts y Gwŷdd, a ddoi’n

ysbeidie di-reol trwy’r drws agored. Ac mae’n rhaid ei bod hi’n dawel

felly. Ac yr oedd yn reit hawdd dychmygu cyflwr yr hen Farged ar y

pryd,—mai gweu yr oedd hi, a phendympian bob yn ail. O dipyn i beth mi

dawelodd hithe’n llwyr, ac ni welech unrhyw arwydd o fywyd o’r cyfeiriad

hwnnw, ond y gath, a chwareuai ar garreg drws y ffrynt â hynny oedd yng

ngweddill o’r bellen ddafedd ar ol iddi ei rholio yno trwy ddrws y cefn

ac i lawr yr ardd a heibio talcen y tŷ.”

“’Rargen fawr,” medde Wmffre dan chwerthin.

“Mae o’n wired a’r pader i ti,” medde Tomos Owen.

“Toc,” medde fo, “dene sŵn traed yn dwad o’r pellter o gyfeiriad Allt y

Felin, a gŵr bynheddig yr olwg arno fo, yn dwad i lawr tua chanol y Llan

a’r fynwent. Daeth Elin Huws Nymbar Ten i’r drws, ac ar ei chyfer yr

ochor arall yr oedd Leisa Ifans Nymbar Nain, yn disgwyl yn ddyfal am i’r

gŵr diarth ddwad heibio.”

“‘Dyn diarth, Elin Huws,’ medde Leisa Ifans.

“‘Gŵr bynheddig, Leisa Ifans,’ medde Elin Huws.

“Mi ddaeth y gŵr bynheddig heibio iddyn nhw,—

“‘Sut ydech chi heddyw, Elin Huws a Leisa Ifans?’ medde fo. Mi swiliodd

y ddwy, a gwrido, a rhoi cyrtsi iddo fo, ond ddeydodd yr un o’r ddwy

air.

“‘Pwy oedd o, tybed?’ medde’r ddwy efo’i gilydd, wedi iddo basio, yr un

fath a chi’r plant mewn dosbarth holi ac ateb. Ac er na fedren nhw yn eu

byw ddyfalu pwy oedd y dyn diarth, roedden nhw’n bur falch fod un gŵr

bynheddig yn y byd mawr, llydan, yn eu nabod nhw.

“Ar y funud, dene sŵn curo ysgafn o’r fynwent fel tase hithe hefyd yn

ymysgwyd wrth sŵn troed y gŵr diarth. A daliodd y curo’n gyson, a

chryfhau bob curiad. I’r fynwent â’r gŵr diarth ar ei union. Roedd ei

ddyfodiad wedi bywiogi tipyn ar drigolion y tuallan i’r fynwent, ac

roedd hi’n debyg fel tase fo’n gneud yr un peth i rai o’r trigolion y

tumewn. Aeth y gŵr bynheddig heibio cornel yr Eglwys tua’r sŵn curo. Y

tu arall i’r Eglwys yr oedd gŵr ar ei linie o flaen carreg fedd

dywodfaen, cŷn yn y naill law, morthwyl yn y llall, a phot jam llawn o

ddŵr budr, a cherpyn, ar lawr wrth ei ochor o. Roedd golwg go fywiog ar

y gŵr yma erbyn hyn, pan ddaeth y gŵr bynheddig wyneb yn wyneb ag o, ac

yr oedd curiade’i forthwyl yn seinio dros y lle.

“‘Wel, Lias Tomos,’ medde’r gŵr bynheddig yn bwyllog, ‘sut mae hi’n dwad

ymlaen?’

“‘Da iawn, da iawn, syr,’ medde Lias Tomos.

“Ar y garreg fedd, mewn llythrenne newydd, oedd yn amlwg yn ffrwyth

ymdrech ddiweddar Lias Tomos, roedd y geirie yma,—

AC HEFYD

AM

ELIN OWEN,

PRIOD Y DYWEDEDIG IFAN OWEN,

YR HON A FU FA

“Fel hyn welwch.” A dene Tomos Owen yn sgwenu’r peth ar ddarn o bapur i

ddangos i ni fel yr oedd o.

“Dene cyn belled ag yr oedd ffrwyth llafur Lias Tomos yn cyrraedd,”

medde fo.

“Mi drychodd y gŵr bynheddig ar y geirie yma, ac wedyn yn ddwys a hir ar

eirie twyll, dipyn yn aneglur, uwchlaw iddyn nhw,” medde Tomos Owen.

Ddeydodd o run gair am dipyn wedyn, a ninne’n ofni anadlu, gan y gwyddem

fod rhywbeth mawr ar ei feddwl o. Ysgydwodd ei hun toc, ac aeth yn ei

flaen. Ac medde fo,—

“‘Ac mae o wedi marw ers deunaw mlynedd ar higien?’ medde Lias Tomos gan

weithio’r llythyren “r.”

“‘Ydi, ydi,’ ebe’r gŵr bynheddig, a dwyster ei wedd yn dyfnhau.

“A dyma’r geirie.” A sgwenodd Tomos Owen y geirie ar bapur. Edrychodd

arnyn nhw’n hir, yna dangosodd nhw i ni. A dyma nhw,—

ER SERCHUS GOFFADWERIAETH

AM

IFAN OWEN,

TY’N LLWYN, O’R PLWYF HWN,

YR HWN A FU FARW RHAGFYR 2IL, 1891,

YN 39AIN MLWYDD OED.

—

“Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau.”

“Ochneidiodd y gŵr bynheddig,” medde fo, “a throdd draw. Ochneidiodd

Lias Tomos, ynte, ochenaid swyddogol, a daliodd i weithio’r llythyren

‘r’.”

Cododd Tomos Owen ar ei draed, ac aeth i edrych trwy’r ffenest, a ninne

fel llygod, a’r trane’n rhuo’r tuallan, a’r glaw fel tase rhywun yn ei

dywallt o fwcedi. Daeth yn ei ol, ac ysgydwodd ei hun fel pe tase fo’n

trio ’i ddeffro ei hun. Ac aeth yn ei flaen.

“Ryw ddegllath oddiwrth y garreg yma,” medde fo, “roedd carreg farmor

odidog. Ac am ysbaid wedyn edrychai’r gŵr bynheddig i bobman yn y

fynwent ond ar garreg dywodfaen Ifan Owen a’i wraig, ac ar y garreg

farmor ddegllath i ffwrdd. Ac mi ddeyda i chi’r rheswm pam.

“Does dim Ty’n Llwyn yn bod i blant heddyw,—dim ond lle yng ngodre Coed

y Garth o’r enw Cyt y Bugiel. Ond mi fu Ty’n Llwyn yno unweth, a

chenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn byw ynddo fo,—yn cael eu geni ynddo,

yn priodi ohono; yn gofidio, a llawenhau; yn pechu a chrefydda; yn torri

clonne a’u cyfannu; yn diodde a marw. Ac un o’r rhai ola i fynd drwy’r

driniaeth yno oedd Ifan Owen.

“Er nad oedd mynd i fyw i Dy’n Llwyn yn rhyw ddyrchafiad mawr, mi

lawenychodd Ifan Owen â chalon lawn pan aeth yno o’r capel, fore ei

briodi ag Elin y Llety, â’i wraig ifanc yn pwyso ar ei fraich. Mi

lawenhaodd uwch ben geni pob un o’i blant, ac mi ddiolchodd yn ddwys i’r

Brenin Mawr bob tro y dychwelai’i wraig yn ol i’r gornel. Mi ddioddefodd

Ifan Owen hefyd wrth edrych i wynebe ’i wraig a’i blant, a’r diodde yma

a’i hanfonodd o i’w fedd yn beder ar bymtheg ar higien oed.”

Rhwng popeth, roedden ni wedi rhyw hanner ddychrynu. Mi wnaeth hanes

Ifan Owen yn priodi i mi gofio am briodas Lisi’r Pentre, ac Elis y Graig

wedi cael hanner pwys o reis i luchio am ei phen, ond yn ei dywallt yn

dawel ar lawr pan oedd pawb arall yn lluchio, am ei fod o’n swil. Ac er

mai Elis oedd yn eistedd yn fy ochr i yn yr efel, roedd arnai ormod o

ofn i edliw’r peth iddo fo.

“Tŷ â hanner ei do’n wellt, a’i hanner yn slaets, a slabie cerryg, a

thywyrch, oedd Ty’n Llwyn,” medde Tomos Owen. “Roedd ei lawr yn bridd,

ag eithrio carreg yr aelwyd, a’r garreg oedd dan draed Elin Owen yn y

gornel y mage hi ei phlant ynddi, a’r garreg oedd yn y gornel arall dan

linie Ifan Owen rhag i’r llawr pridd godi crydcymale ar ei benneglinie,

gan mor gyson yr oedd o arnyn nhw yn y gornel honno. A doedd dim llun

carped yn unman, dim ond dau ddarn sach, gymint â chadache poced, ar y

ddwy garreg o bob tu i’r aelwyd.

“Y tu ol i Dy’n Llwyn yr oedd nyrs fawr o goed pinwydd,—cartre mebyd

ffesants y plas. O flaen y tŷ dan garreg y rhiniog roedd ffos ddŵr. Ac

wedi nos, anamal y clywid dim sŵn oddiallan ond sgrech ambell ffesant a

ddychrynid gan heliwr, a murmur parhaus y ffos. Ac yn nyfnder nos sŵn

ceffyl Mr. Richmond, ffarm y Daran Fawr, yn dwad adre o un o dafarne’r

Llan, a sŵn y marchogwr ei hun yn rhygnu rhegi trigolion yr ardal am na

wnai’r un ohonyn nhw ymostwng i’w wasanaethu o fel y dylent, ac ynte’n

Sais. Ac ni bu storm drane er y dyddie hynny heb i blant Ty’n Llwyn

gofio am Mr. Richmond y Daran Fawr.

“Gwas yr Hafod oedd Ifan Owen. Mi gode gyda’r wawr, a dychwelai adre

gyda’r machlud, hyd yn oed yn yr ha. Prin oedd ei gyflog o, ond medrai

Elin Owen ei estyn cyn belled â neb heb neud gwyrth. A chyda help ambell

i gypaned o laeth enwyn a meipen, magodd ei phlant heb iddyn nhw fawr

erioed wybod beth oedd eisio bwyd.

“Ond mi ddaeth tro ar fyd, ac mi ddechreuodd Ifan Owen nychu. Daliodd

Mr. Huws yr Hafod o, gefn dydd gole, yn pwyso ar ei fforch ar ganol cae,

ac mi gwyliodd o am ddeng munud heb weld osgo ynddo i symud. Rhoddodd

wers o’r ysgrythur iddo ar olwgwasanaeth, ac mi rhybuddiodd o na fedre

fo ddim goddef hynny wedyn. Ond mi daliodd o drachefn ymhen deuddydd yn

eistedd ar garreg yng nghanol cae, pan ddylase fo fod yn agor ffos, ac

mi hysbysodd o mai gartref oedd y lle i orffwyso. Mae’n wir fod Ifan

Owen newydd gael cwrs o besychu nes bod bron darfod amdano. Ond roedd

Mr. Huws, druan ohono, yn bur drwm ei glyw ar adeg felly. Mi blediodd

Ifan Owen yn ddwys ger ei fron dros ei wraig a’i blant, ac mi fentrodd

hyd yn oed gyfadde iddo fo ei nychtod. Ateb Mr. Huws oedd fod rhybuddio

unweth yn ddigon, nad hospitol oedd yr Hafod, ond ffarm, ac mai dynion

cryfion oedd eisio ar ffarm. A chan y cydnabyddid Mr. Huws yn grefyddwr

selog, dylid ei gymyd ar ei air. A gwir a ddeydodd o mai ffarm oedd yr

Hafod. Ffarm fwyaf yr ardal oedd hi, â deugien o wartheg godro ynddi, a

dwy fil o ddefed ar ei moelydd. A rhyfedd oedd dylni Ifan Owen os

camgymerodd yr Hafod o bobman am hospitol.

“Mi drodd Ifan Owen tuag adre i ddeyd wrth ei wraig nad oedd o’n

weithiwr yn yr Hafod mwy. Mi drychodd hithe arno am dipyn, ond gwelodd

ei wyneb yn llwydo fwyfwy, yna mi drodd ei gwyneb a syllodd yn gadarn

i’r tân. Lle da, mhlant i, ydi tân am sychu dagre, hyd yn oed cyn iddyn

nhw adael cartre. Mi grwydrodd Ifan Owen lawer o ffarm i ffarm, ond nid

oedd ar neb eisio gweithiwr a ddaliwyd yn gorffwyso gefn dydd gole. Mi

fu ymhobman yn ei dro ond gyda Mr. Richmond, y Daran Fawr. Doedd unrhyw

was yn ddigon rhyfygus i’w iselhau ei hun trwy ofyn am waith i Mr.

Richmond pe tase rhithyn o obaith am le yn rhywle arall, o achos onid

Mr. Richmond oedd y gŵr, ar ddiwedd cynhaea gwlyb, a regodd Dduw o dop y

dâs. Roedd yr ardal yn ofni cynhaea gwlyb arall am y beiddgarwch ysgymun

yma. Ac mi draddododd Mr. Huws yr Hafod araith ddwys i’w weision ar

barchedigaeth. O achos ofnai Mr. Huws Dduw, a chredai mai Duw a

lywodraethai’i gynhaea o.”

Yr oedd golwg ofnadwy ar Tomos Owen erbyn hyn, a wyddem ni ddim yn iawn

pa un ai bod efo fo yn yr efel, neu allan yn y trane oedd fwya

dychrynllyd. Roedd o’n cerdded o gwmpas yr efel ers meityn ac yn bwrlymu

siarad, a’i lygid o’n wyllt ac yn gochion. Yn y fan yma mi safodd yn

sydyn, a bu am dipyn heb ddeyd dim, a ninne’n edrych ar ein gilydd, a

Wil Tŷ Hen yn rhyw ddechre crio. Eisteddodd Tomos Owen i lawr, a

dechreuodd wedyn yn fwy tawel, a chryndod yn ei lais.

“Wel, mhlant i,” medde fo’n ddwys, “mi feddyliodd Ifan Owen gymint am ei

gyflwr di-waith nes anghofio’i nychtod, ac mi ddaeth rhyw nerth iddo i

grwydro na feddyliodd erioed amdano. A thystiai bob nos wedi chwilota

cyson trwy’r dydd nad oedd o wedi blino dim. Pan gyrhaeddodd o adre un

nosweth roedd y ddau blentyn ienga yn eu gwlâu, a’r ddau hyna,—Hannah a

John,—wrth eu swper. Sgrifennu roedd Hannah ei henw ar damed o fara efo

gwaelodion tun trieg, a John yn ei fwynhau’i hun trwy ddotio at ffurf ei

ddannedd mewn brechdan doddion. Roedd Jane Jones, Pant yr Afon, wedi

galw yno’n ystod y dydd efo’r toddion. Gwas ffarm oedd ei gŵr bithe, ond

roedd hi wedi cael dau botied o’r ffarm ar ol priodas y ferch hyna yno.

Ac roedd gan Ifan Owen, ynte, newydd da,—roedd o wedi cyfarfod â Mrs.

Huws yr Hafod yn ystod y dydd, a hithe wedi deyd wrtho y cawse fo

gwpaned o laeth enwyn yn rhad ond i rywun fynd i’w nol. Aeth John, y

bachgen hyna, yno drannoeth i’w nol o, ac mi gafodd nid yn unig dunied o

laeth, ond dwy feipen braf hefyd. Pan ddychwelodd Ifan Owen o’i

grwydriade y nosweth honno, wylodd Elin Owen mewn diolchgarwch distaw,

mhlant i, wrth y tân am fod y byd mor rhyfeddol o garedig wrth bobol ar

lawr. Ac mi ddiolchodd Ifan Owen, ynte, ar ddiwedd y dydd, yn wresocach

nag erioed, ar y tamaid carreg las a’r darn sach, am hael drugaredde

Rhagluniaeth. Roedd o’n pwysleisio nad oedden nhw eto wedi eu darostwng

i fara sych. Ac er nad oedd o ’n cofio, yng ngrym ei ddiolchgarwch, ddim

ond am y nosweth honno, gwir a ddeydodd,—ia, gwir a ddeydodd o, canys

roedd Rhagluniaeth wedi darparu digon o ddŵr genau hyd yn oed iddyn nhw

i fwydo’u bara. Oedd, roedd digon o hwnnw.”

Ac yn y fan yma cododd wedyn a phoerodd i bendraw’r efel. Erbyn hyn

roedd pawb yn edrych arno fel tase ganddo gyrn ar ei ben. A fynte’n ddyn

diarth hefyd. Dyna’r pnawn rhyfedda aeth dros ein penne ni. Dene fo’n

eiste ac yn gafael mewn morthwyl, ac yn dechre siarad wedyn gan gadw

amser ar yr eingion am dipyn efo’r morthwyl yma.

“Ond darfu’r llaeth enwyn,” medde fo, “a’r maip, a’r trïeg, a’r toddion,

a nosweth ryfedd oedd honno y bu raid i Ifan ac Elin Owen fod o bnawn un

diwrnod tan drannoeth heb damed, rhag i’r plant ddysgu beth oedd eisio

bwyd. A nhw’n myfyrio ar eu dyfodol o flaen ychydig farwor, y goedwig yn

llethol dawel, a hyd yn oed y ffrwd wedi distewi yn eu myfyrdod nhw,

dene sŵn rhoncian ymlaen o’r tuallan,—gŵr y Daran Fawr oedd yn pasio,

ac yn melltithio’r Cymry rhwng rhegfeydd am na wnae nhw ymostwng i’w

wasanaethu o, gan bwysleisio gogoniant llachar y genedl y tarddai o

ohoni hi.

“Mi wrandawodd y ddau arno fo’n dwad, yn pasio heibio, ac yn mynd, nes

i’r sŵn golli yn y pellter. Edrychodd Ifan Owen ym myw llygid ei wraig,

edrychodd hithe i fyw ei lygid yntau, y ddau am y llwyta,—ond cochni

annaearol y marwor oedd yn tywynnu ar eu gwedd.

“‘Wel,’ medde Ifan Owen toc, ‘yfory amdani.’

“Mi ddechreuodd gwefuse Elin Owen grynu, ond ddaeth cysgod deigryn ddim

i’w llygid hi. Ond bore drannoeth roedd ei gobennydd hi’n wlyb ddiferol,

am fod ei gŵr wedi ei ddarostwng i ofyn am waith i ŵr y Daran Fawr, o

achos gwydde hithe’n rhy dda na pharche’r ardal byth mwy neb fase’n

ymostwng i weithio iddo fo. Ond wedi’r cwbwl beth sydd i ddyn i’w neud,

â’i blant yn gwelwi bob dydd?

“Mi gafodd Ifan Owen waith yn y Daran Fawr, ac ymhen yr wythnos mi

ddaeth â chwe swllt i Elin,—chwe swllt, mhlant i,—chwe swllt yr

wythnos a’i fwyd oedd cyflog Ifan Owen i wynebu’i deulu. Ar bnawn y dydd

cynta o Ragfyr, mi ddaeth Mr. Richmond ato i ddeyd bod yn rhaid iddo

fynd dros y nos honno i nol glo. A thaith bell oedd y daith i’r glo. Mi

gychwyunid un min nos, a theithio trwy’r nos, a dwad yn ol ddyfnder nos

drannoeth. Welai Ifan Owen fawr o ddim yn hyn nes i Mr. Richmond enwi’r

cyffyle,—Bocsar, hen geffyl musgrell a bregus oedd un, a cheffyl ifanc

newydd ei dorri i lawr oedd y llall. Roedd Ifan Owen yn ofni’r ceffyl

ifanc yn fawr, o achos mi wydde fwy am ei nychtod na neb arall,—na hyd

yn oed ei wraig ei hun.

“Nosweth oleu, rhwng ysbeidie o fwrw eira oedd y nosweth honno, a

chaenen o eira tros y wlad. Rhaid oedd mynd ddwy filltir cyn cyrraedd

Llanfangu ei hun, ac wedyn i’r mynydd, a ffordd anial, unig, am

filltiroedd maith oedd y ffordd fynydd. Mi elwid rhan o’r mynydd, oedd

ar godiad tir, yn Faes y Lladron, o achos bod traddodiad ar droed mai

yno y llechai’r lladron ddyddie pedoli’r gwartheg a mynd â nhw i Loeger,

ac ysbeilio porthmyn ar eu ffordd yn ol. Anodd oedd gweld y ffordd

fynydd ar nos eira, ac roedd Elin Owen yn meddwl yn bryderus trwy’r nos

am hynt ei phriod.

“Roedd hi’n bwrw eira wedyn drannoeth, ac Elin Owen yn dwad o’r siop fin

nos lle bu hi’n toddi tipyn ar y ddyled efo’r cyflog. Ar y funud honno

roedd yr awyr yn glir, y sêr yn fflamio mwy nag arfer, a’r wlad yn wen

ddisglair dan y gawod oedd newydd ddisgyn, ac Elin Owen yn brysio adre

at ei phlant dan synfyfyrio uwchben eu rhagolygon. Mi wibiodd seren ar

draws yr awyr, a chododd hithe ei golwg i edrych arni. Wedi ei dilyn nes

iddi ddiffodd, mi dynnodd ei golwg yn ol ar y ffordd fawr. A gwelai

rywun yn siglo dwad i’w chyfarfod gan sefyll o’i blaen. Fferrodd ei

gwaed pan adnabu hi ei osgo. Pwy oedd o ond Ifan Owen ei gŵr, a hithe’n

tybio ei fod o ymhell iawn o’r fan honno.

“‘Ifan,’ medde hi, ‘be ydech chi’n ei neud yma?’

“Atebodd Ifan ddim un gair iddi, ond aeth heibio iddi gan edrych yn

ofnadwy ddwys. Mi drodd hithe drach ei chefn i alw arno eilweth. Ond

doedd Ifan Owen ddim yno, na siw na miw amdano. Mi drychodd Elin Owen yn

wyllt ar y ffordd fawr, ond doedd ôl ei draed ddim yno chwaith.

“Na, mhlant i,” medde fo â chrec yn ei lais, “doedd Ifan Owen ddim yno,

a ’dallse fo ddim bod yno, o achos ar y funud honno roedd o newydd

orwedd i orffwys, am ei dro ola ar ganol ei waith, ar allt Maes y

Lladron. Yn gorwedd ar draws ei draed roedd olwyn trol, ac ar ei gorff

lwyth o lo. Yn ei ymyl roedd hen geffyl yn gruddfan gan guro’i ben ar y

ddaear, ac yn y pellter clywid sŵn myglyd carne ceffyl ifanc yn carlamu

trwy’r eira, a’i gadwyne’n llusgo ar ei ol. Roedd y sŵn yn cyrraedd

ymhell, ond er pelled ei gylch, roedd trigfanne dyn ymhellach.

“O’r diwedd mi dawelodd y cynnwrf. Doedd dim sŵn yn unman,—dim ond

siffrwd yr eira ar lyn oedd yng ngwaelod yr allt. Disgynnai’n gyson gan

wynnu’n ddiwyd a charuaidd hen geffyl llonydd, a throl lo, a nyddu’n

dyner gwrlid dros wyneb y gorffwyswr tawel dan y llwyth. O achos doedd

yno neb ond yr Un a daenellai’r eira, i ddiweddu Ifan Owen Ty’n Llwyn.”

Wedi deyd hyn, mi drychodd Tomos Owen yn hir i’r lle tân heb gymyd arno

ei fod o’n gwybod ein bod ni yno. “Ddoi di adre?” medde fi wrth Wmffre,

a dene ni’n rhyw ymysgwyd tipyn gan feddwl llithro allan. Deffrodd hyn

Tomos Owen,—

“O ia,” medde fo’n siriol, “sôn am bnawn crasboeth o fis Mehefin fel hwn

oeddwn i ar y dechre, yntê? Wel, ar y pnawn crasboeth yma o Fehefin, mi

safe John, mab Ifan Owen, fel gwrbynheddig ar lan bedd ei rieni. Wedi

methu’n hir, mi drodd o’r diwedd ac mi syllodd ar y garreg, wedyn mi

drodd ei wyneb at y garreg farmor. Casglodd ei boer, anadlodd yn drwm,

ond mi ymataliodd. Tarodd i’w ben yn sydyn y gellid sarhau hyd yn oed

boeryn wrth ei fwrw ar ambell fedd.” A gwenodd Tomos Owen yn hir tan

edrych tua’r drws fel tase fo wedi anghofio wedyn ein bod ni yno. Roedd

y glaw wedi stopio erbyn hyn, ac mi gododd pawb i fynd allan. Cododd

Tomos Owen ar ei draed hefyd. Wmffre a fi oedd y ddau ola’n mynd drwy’r

drws. Tynnodd Wmffre at fy nghôt ac mi aethom i’n dau yn ein hole.

“Tomos Owen,” medde Wmffre, “Ar fedd pwy yr oedd y garreg farmor,—ar

fedd Mr. Huws yr Hafod neu fedd Mr. Richmond y Daran Fawr?”

“Dydio fawr o bwys, mhlant i,” medde Tomos Owen, tan wenu, “ewch adre

rwan, mae hi’n codi’n braf ar ol y storm,—dacw i chi bont[12] law. A

dydio fawr o bwys gan y dyn a wlychodd yn y storm pan wêl o ’r bont law.

Diolch am bob pont law’n tê, mhlant i?”

Ac i ffwrdd â ni. Ond wrth fynd drwy’r drws mi glywem Tomos Owen yn deyd

rhyngddo a fo ei hun, dan ddechre curo’r eingion,—“Do, mi welodd Jac fy

mrawd bont law y pnawn hwnnw.”

-----

[12] Pont law=enfys, _rainbow_.

Nedw · 第 21 / 22 题