Ddychrynnes i fawr erioed yn fwy na’r nos Iau cyn y dwaetha. Roedd hi
wedi mynd braidd yn hwyr, ac yn twllu yn o drwm, a minne’n croesi Pont y
Llan. Mae ene adwy yn ochor y bont, a phren derw mawr, gwag, yn ei
chanol, a gwrych coed cnau mawr bob ochor i’r ffordd wedyn. Wrth basio’r
adwy a’r pren derw, rhwng twyll a gole, mi welwn rywbeth gwyn yn estyn
allan o ganol y twll, ac yn gneud sŵn gwichlyd,—“Ne-ene-ene.” Mi roddes
neid ac i ffwrdd â mi fel y fellten. Wedi mynd heibio’r gornel, mi sefes
i wrando, ac mi glywn wedyn y llais yn uwch a mwy
nadlyd,—“Ne-ene-ene-edw, Ne-e-dw.” Adwaenes o’n syth, a throis yn fy
ol. Llais Sec oedd o. Pwy ydi Sec, fedrai ddim deyd wrthych chi, ond
Eseciel Bingley ydi ei enw fo ar lyfr yr ysgol, ac y mae o’n byw efo’r
hen Jinny’r Gardden, yn Nhwnt i’r Afon. Dydio fawr o beth, i ddwad o dŷ
Jinny, o achos mae hi ei hun yn garpie, a’i chroen fel melyn ŵy wedi
torri, a ffrïo gormod—yn grebachlyd, heblaw bod yn rhyw felyn-ddu. Un
ryfedd ydi Jinny. Hi ydi’r wraig sy’n mynd allan o’r capel i boeri. Mae
hi’n eistedd yng ngwaelod y capel, a reit amal, pan mae’r pregethwr yn
dechre mynd i hwyl, fe gyfyd Jinny yn sydyn, ac aiff allan i boeri, ac i
mewn yn ei hol i wrando, fel tase dim byd wedi digwydd.
Daeth Sec ati hi’n sydyn, na ŵyr neb o ble, pan oeddwn i yn Standard I.,
a rhoddwyd ynte’n Standard I. Rydwi yn Standard IV. yrwan, ond dal yn
ffyddlon yn Standard I. y mae Sec o hyd. Doedd fawr o bwys ymha Standard
y basech chi yn ei roi o, cyn belled ag yr oedd dallt pethe yn y
cwestiwn, ond gan mai Standard I. fu’n ddigon caredig i’w dderbyn o,
mae’n ymddangos nad ydi ynte am droi ei gefn ar hen ffrynd. Dene a
ddywed Joseph y Titshiar.
“Wel, Sec,” medde fi, “be wyt ti’n ei neud yma?”
“O-o-es ge-n-n-o-t ti fa-a-ra b-b-ri-i-ith, Ne-ene-edw?” medde fo.
Dwad adre o de parti’r Ysgol Sul yr oeddwn i, ac yr oedd yn naturiol imi
fod wedi celcio tipyn o fara brith, fel y bechgyn erill i gyd, a’r un
mor naturiol i Sec dybio hynny.
“Oes, was,” medde fi.
“Ga-a-i da-a-me-ed?” medde fo,—“i-i-sh-i-o—”
Ond mi dorres ar ei draws o. “Dene be’ sy’ i gael am beidio â dwad i’r
Ysgol Sul,” medde fi, ac i ffwrdd â mi, a thros y gamfa, ac i’r Nyrs
Goed Llus. Erbyn hyn roedd hi’n mynd braidd yn dwyll. Pan yn nyfnder y
nyrs,—“Ne-ene-ene—” medde rhywbeth dan fy nhraed i, ac mi roddes waedd
a neid. Fedrwn i symud dim am funud, a dene’r “Ne-ene-ene—” hwnnw wedyn
dan fy nhraed i. Beth oedd o ond sŵn bwrlwm y ffos fach dros garreg. Mi
godes fy nghalon, ac ymlaen â fi yn bur ddewr, nes
clywed,—“i-i-ish-sh-sh-i-o—” yn fy ymyl wedyn, a’m fferodd. Beth oedd
o ond cangen yn rhwbio’r wal.
[Illustration: “Y—SY—SY—SLUM,” MEDDE SEC.]
“Thâl hi ddim fel hyn,” medde fi, “mi â i yn ol, a rownd y ffordd. Pan
eis i at y gamfa, pwy oedd yn crïo â’i ben arni ond Sec, ac yn dal
rhywbeth yn hongian yn ei law.
“Bedi’r mater, Sec?” medde fi.
“A-a Ne-ene-edw i-i-ish-i-o-o bw-bw-yd,” medde Sec. Ac mi ddalltes mai
trïo deyd hynny yr oedd o pan adawes i o. Ond cyn imi fedru ei ateb,
dene fo’n dangos y peth oedd yn ei law i mi.
“Bedio?” medde fi.
“Y-sy-sy-slum,”[8] medde Sec, “u-u-n by-w-w, mi-i c-c-ei o a-am
d-a-a-me-ed.”
Ac yn wir i chi, be oedd o ond slum y nos. Roedd o wedi dwad o hyd iddo
yn yr hen geubren derw wrth Bont y Llan, y lle y bydde fo, gan amlaf, yn
cysgu ynddo y nos, medde fo, er fy syndod i. Ac mi ddeydodd fod chwaneg
yno, ac y cawn i stoc ohonyn nhw am damed o rywbeth bob dydd. Roedd
pethe’n dechre gloywi erbyn hyn,—a gwyneb Sec yn llwyd. Wel allan â’r
bara brith. Doedd o, rywsut, ddim mor flasus ar ol gweld gwyneb Sec. Mi
cafodd o i gyd, ac mi wnaeth i minne gymyd y slum.
Dene a ’nghychwynnodd i yn ddelar[9] slumod a gwningod. Mi ddeydes “nos
dawch” wrth Sec, ac er ei bod hi’n bur dwyll erbyn hyn, roeddwn i adre
heb yn wybod i mi fy hun, wrth feddwl beth ddeyde’r bechgyn fore
drannoeth wrth weld slum byw gen i yn yr ysgol. Doedd y rhan fwyaf
ohonyn nhw erioed wedi gweld yr un yn nes na’r awyr.
Mi cadwes o ym mhoced fy nhrowsus dros y nos, a’r unig anlwc oedd iddo
fo ddwad yn rhydd, ac i minne dorri orniment wrth ymbalfalu amdano yn y
twllwch. Ond deliais o’n sâff, a chadwes o dan y gobennydd tan y bore.
Sôn am boblogiedd,—doedd dim siawns i neb ond fi bore drannoeth. Chai
neb weld y slum, ond ar yr amod eu bod nhw’n dwad â hanner dwsin o
biwied i’w fwydo, o achos mai ar biwied y mae o’n byw. Wmffre oedd yn
derbyn a chyfri’r piwied, a minne wedyn yn dangos y slum. Wedi ei weled
o, doedd na byw na marw na chai Robin bach Ty’n Llidiard y slum yn eiddo
iddo fo’i hun. Roedd o’n barod i roddi unrhyw bris amdano, medde fo, o
feipen i wningen fach. A dene’r slum yn mynd iddo am wningen. Ond erbyn
bore drannoeth roedd y slum wedi marw. Robin oedd wedi trïo rhoi pry
copyn yn fwyd iddo, ac ynte’n byw ar y pethe a ddalie pan ar ei aden. A
phwy erioed a welodd bry copyn yn hedeg? Felly, mi welsom un peth, fod
pryfed cop yn wenwyn i slumod.