IX.—DEWYRTH A BODO.

Un gwirion ydi dewyrth, beth bynnag, o achos mae o’n meddwl nad oes neb

yn gall ond fo, ond rydwi wrth fy modd efo fo er hynny. Gŵr bodo ydio.

Am bodo, un yn siarad bob amser fel tase hi’n gyrru’r gath allan o’r

bwtri ydi hi. Dydi dewyrth yn gneud dim byth pan fydd o hefo chi, ond

eich holi. Yr un math o gwestiyne sydd ganddo fo bob amser,—rhai o’r

Beibil. Ac rydwi’n leicio’i gwestiyne fo, o achos tydio ddim yn disgwyl

i neb eu hateb nhw. Eu gofyn mae o er mwyn cael cyfleustra i’w hateb

nhw’i hun, ac er mwyn cael ei wynt. Mae’i wynt yn fyr, ac y mae gofyn

cwestiyne’n fantes iddo fo orffwys wrth fynd i fyny allt.

Fel arall y mae bodo, ac mae’n gas gen i hi. Mae hi’n gofyn cwestiyne

fel tase hi’n awyddus i roi cweir i chi, ac yn gobeithio na fedrwch chi

mo’u hateb nhw, er mwyn iddi gael esgus dros neud.

Un bore yn y gwylie ha, roeddwn i’n mynd yno dros mam. Pwy oedd yn

eistedd i orffwys yng ngwaelod yr allt ond dewyrth.

“Rhosa, Nedw,” medde fo. “Wyt ti’n mynd acw?”

“Ydw,” medde finne.

“Cymer ofal,” medde fo, “dydi _hi_ ddim yn ei phethe heddyw. Mae’r ffit

lân arni hi. Rhaid iti dendio dy begie. Rhosa funud mi ddo i efo ti.”

Ac roedd o’n siarad fel y gwelsoch chi drên yn trio’i phwffian ei hun i

ben yr allt ar ddiwrnod gwlyb, a methu. Dene ni’n cychwyn ill dau. Wedi

mynd ryw ddwsin o game, mi welwn dewyrth yn chwilio am le i eistedd, ac

mi wyddwn y bydde ene gwestiyne i mi’n union, er mwyn iddo fo gael esgus

i eistedd, o achos tydio ddim am i neb wybod fod ei wynt o’n fyr.

“Nedw,” medde fo, wedi cael carreg i eistedd arni, “gad imi ofyn

cwestiwn iti,—pam fod yr efengylydd Ioan wedi sgwenu ei Efengyl mewn

geirie bychin?”

“Wyddwn i ddim ei fod o wedi gneud,” medde fi.

“Do,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Roedd o wedi cael ei wynt ato

erbyn hyn.

“Nedw,” medde fo, ymhen tipyn, tan edrych o’i gwmpas am le i eistedd a

phwffian, “ddeydest ti ddim pam fod Ioan—pwff—wedi sgwenu’i

Efengyl—pwff a pheswch—mewn geirie bychin?”

“Naddo,” medde fi.

Erbyn hyn roedd o wedi cael ei wynt ato wedyn. I fyny â fo, ac yn ei

flaen. Mi gwelwn o’n crafu yn y man, ac yn pesychu fel ceubren, fel mae

pobol yn deyd, ac yn gorffwys ar foncyff draenen, wedi ymlâdd.

“Nedw,” medde fo, “faset ti—pwff a pheswch—yn leicio gwybod?”

“Baswn,” medde finne. Ond ymlaen a fo wedyn, wedi cael ei wynt ato

unweth yn rhagor. Ymhen ennyd dene arafu, ac eistedd ar wal, a phwffian

a phesychu na welsoch chi rotsiwn beth. Ond yr hwyl oedd ei fod o’n trio

cymyd arno nad oedd o ddim yn gneud.

“Nedw,” medde fo ar ol eistedd, “faset ti’n leicio gwybod?—pwff a

pheswch.—Wel, am na fedre fo ddim ei sgwenu hi mewn geirie mawr.”

“O,” medde fi, yn hollol fodlon ar ei ateb. Dene dewyrth yn edrych

arnai’n syn, fel tase fo’n deyd wrtha i,—“rwyt ti’n un gwirion, Nedw,

na faset ti’n gofyn i mi pam, er mwyn imi gael esgus arall i gymyd fy

ngwynt trwy aros i dy ateb di.”

“Pam?” medde fi.

“Mi ddeyda iti,” medde fo. Ond ddaru o ddim deyd. Mynd yn ei flaen ddaru

o. Yna gorffwys wedyn i bwffian a phesychu. “Ysbrydolieth a’i gorfododd

o, machgen i,” medde fo yn y man, rhwng y pwffiade a’r pesychiade.

“Bedi ysbrydolieth?” medde fi.

Yn ei flaen â fo. Yna eistedd wedyn a phwffian a phesychu, a chymyd arno

nad oedd o ddim yn gneud.

“Weldi’r sowldiwr acw?” medde fo toc, tan ddangos sowldiwr pren ar

hoelen a pholyn yn yr ardd yn troi efo’r gwynt.

“Gwela,” medde fi.

“O,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Ymhen eiliad, eistedd wedyn, a

phwffian a phesychu fel tiwn gron.

“Sôn am ysbrydolieth oedden ni’n tê?” medde fo.

“Ia,” medde fi.

“Wel, Ioan ydi’r sowldiwr pren, ac ysbrydolieth ydi’r gwynt sy’n ei droi

o,” medde fo rhwng hanner dwsin o bwffiade a phesychiade. Ac yn ei flaen

â fo wedyn. Stopiodd yn y man fel tase fo eisie i mi ofyn cwestiwn, ond

ddaru mi ddim.

“Wyt ti’n dallt?” medde fo.

“Dallt be?” medde fi.

“Dallt bedi ysbrydolieth?” medde fo.

“Rydwi’n meddwl mod i,” medde fi.

“Be?” medde fo wrth godi i ailgychwyn.

“Gwynt yn troi sowldiwr pren, yntê?” medde fi.

“Twt, lol,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo nes dwad i ben ei dennyn.

“Fel hyn,” medde fo yn y man, “roedd ysbrydolieth yn gorfodi Ioan i

sgwenu mewn geirie bychin—pwff a pheswch—fel y gwynt y sowldiwr pren.”

“Ond tydi’r gwynt ddim yn gorfodi’r sowldiwr pren i sgwenu mewn geirie

bychin,” medde fi yn ffwndrus.

Aeth dewyrth yn gaclwm gwyllt yn y fan yma, nes i’w besychu roi pen ar

ei stori. Ac roeddwn i yn y niwl yn lân. Wyddwn i ar wyneb y ddaear pwy

oedd ysbrydolieth. Ond cyn i mi gael amser i ofyn iddo, i ffwrdd â fo.

Stopiodd wedyn i eistedd.

“Nedw,” medde fo toc, “prun ai dyn tal ynte dyn byr oedd Paul?”

Atebes i mono fo am dipyn. Roeddwn i’n meddwl am yr ysbrydolieth yma. Mi

allswn i feddwl ar dewyrth mai dyn wedi cael rhyw siort o strôc ydio, a

rhywun yn gafael yn ei law ac ynte’n ddiymadferth, a’i defnyddio hi i

sgwenu’r hyn mae o’n ddymuno. Ond yn ol y tipyn a glywes i am Ioan,

dydio ddim yn edrych yn debyg iawn i fel tase’i Efengyl o wedi’i sgwenu

gan ddyn wedi cael strôc. Mae’n rhaid, felly, fod rhyw ddrwg yn y caws,

ynglŷn â syniad dewyrth amdano fo. Erbyn imi gael fy meddwl at ei

gilydd, wedyn, ynghylch Paul, roedd dewyrth wedi mynd. Eis ar ei ôl o,

ac roedd o’n aros amdana i, ac yn pwffian a phesychu, a’i frest fel

rhegen rych.

“Prun, Nedw?” medde fo.

“Dyn tal,” medde fi. Cododd ac aeth yn ei flaen gam, ac eistedd wedyn,

dan yr un amgylchiade ag arfer.

“Sut gwyddost ti?” medde fo.

“Dwn i ddim,” medde fi, “ond mod i’n meddwl.”

“Thâl meddwl ddim i grogi dyn,” medde dewyrth yn ffrwt, a’i wyneb yn

goleuo. “Dyn byr oedd Paul,” medde fo, “y lleia ohonyn nhw i gyd.” Ac yn

ei flaen â fo. Eisteddodd wedyn, ac edrych arna i fel tase fo eisio i mi

ofyn cwestiwn arall.

“Sut hynny?” medde fi.

“Mae o’n deyd ei hun,” medde fo,—“Myfi y llai na’r lleiaf o’r holl

saint,—y byrra ohonyn nhw i gyd oedd o’n siwr i ti. Dene iti adnod ar y

pwnc i’w dysgu erbyn y Sul nesa.”

Erbyn hyn yr oeddem ni ar dop yr allt, ac yn ymyl ei dŷ o a bodo,—tŷ

bychan ar dop yr allt ydio,—a dewyrth, bellach, yn medru cerdded heb

bwffian a phesychu, ac am hynny ’doedd dim achos gofyn mwy o gwestiyne.

Wrth fynd at y drws, “Cymer di ofal,” medde dewyrth dan ei lais, “cofia

fod y ffit lân arni _hi_ heddyw.”

“Hi” mae dewyrth yn galw bodo, a “nacw” mae bodo’n ei alw fynte.

Ac roedd yn amlwg fod y ffit lân ar bodo’n drwm. A pheth diflas ydi’r

ffit lân, yn enwedig ar amser bwyd. Mae hi i radde er bodo bob amser.

Does ene ddim farnish ar yr un o’r cadeirie, mae bodo wedi’i rwbio i

ffwrdd wrth eu cnau nhw. Ac y mae cader dewyrth bron yn dwll, gan y

rhwbio parhaus arni, ac yn splintars i gyd. Am hynny, wedi i dewyrth

unweth eistedd yn ei gader, feder o ddim symud ond efo gofal. Ac am y

llawr,—llawr pren ydio,—mae o cyn wynned a thrensiwr. Os bydd y

cadeirie, a’r ffendar a’r heyrn tân, i gyd ar ben y bwrdd, mae hynny’n

arwydd fod y ffit lân yn drom iawn ar bodo.

Pan aeth dewyrth a fi i mewn, doedd yno ddim ond un gader ar lawr, a

honno wrth y drws, a’r gweddill i gyd â’u gwadne i fyny ar ben y bwrdd,

a’r ffendar a’r heyrn tân, a’r canwyllbrenni pres, a’r scelet, ar dop y

cwbwl. Doedd bodo ddim yn y tŷ, ond roedd ei sŵn hi yn y bwtri.

“Tyrd i mewn, Nedw,” medde dewyrth, “gad imi edrych am yr adnod honno

iti.” Ac estynodd y Beibil oddiar y dresal. Dene Bodo i mewn fel tân

gwyllt, ac yn cipio’r Beibil oddiarno fo, ac yn bloeddio fel gwraig

wallgo,—“Be haru’r dyn, deydwch?—yn darllen ei Feibil liw dydd gole

glân, a finne newydd ei ddystio fo hefyd.” Ar hyn, sylwodd arna i yn

eistedd ar y gader, yr unig un oedd i’w chael, a dene ddyrnod i mi ar

draws fy ngwyneb efo’r carp llawr, nes fy mod i’n speden.

“Eistedd ar y gader ene ar bob dydd!” medde hi, “a hel dy draed ar hyd y

llawr yma,—mae carreg y drws yn ffisiant i ti.”

Ac allan â fi ar garreg y drws, a dewyrth ar fy ol i fel oen llyweth.

“Tyrd am dro, machgen i, i weld yr ardd,” medde fo. Ac i’r ardd â mi.

Roedd yno fath o setl i eistedd arni, a dene ni’n dau yn eistedd, a

dewyrth yn pwffian yn ysgafn am yn hir fel tase fo’n smocio cetyn

anweledig. Toc, dene fo’n troi ata i,—“Nedw,” medde fo, “mi wnest dipyn

o gamgymeriad wrth eistedd ar y gader ene. Arni hi roedd o ’n eistedd ar

y Sul. A ’does neb byth yn cael eistedd arni o gwbwl rwan. Dydi _hi_

ddim yn ei phethe’n rhyw dda iawn byth er pan ddaru hi ddigio tipyn wrth

y Brenin Mawr. Dydi hi ddim ar delere da efo’r Brenin Mawr o gwbwl rwan.

Mi dreuliodd lawer ar ei glinie wrth y gader ene yn gofyn i’r Brenin

Mawr roi’i aden drosto _fo_, ond ddaru o ddim dybygswn i, os nad oedd

_o_ ’n gwrthod mynd dan ei aden o wedi cael cynnyg. Mae ffordd fel ene o

edrych arni, wyddost. Ac am wn i nid ar y Brenin Mawr oedd y bai.” Yn y

fan yma mi ddaru rhyw ddeigryn bach hel i gornel llygad dewyrth. “Gad

inni droi’r stori, Nedw,” medde fo. “Faset ti’n licio imi dy holi di

eto?”

Yn gweld y plesie hynny fo, mi ddeydes “baswn.”

“Wel,” medde dewyrth, “prun ai gŵr priod ynte hen lanc oedd Paul?”

“’Dwn i ar wyneb y ddaear,” medde fi. “Mi allswn i feddwl mai hen lanc.”

“Pam?” medde dewyrth.

“Doedd o byth adre,” medde fi.

“Dydi’r ateb ene’n deyd dim, mae o’n torri ddwy ffordd,” medde dewyrth.

“Gŵr priod oedd Paul iti.” Ac mi drychodd arnai’n hir tan smocio’r cetyn

anweledig yma, yn disgwyl i mi ofyn cwestiwn iddo.

“Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde fi o’r diwedd.

“Mae ene adnod yn deyd,—’Pwy a’m gwared i oddiwrth gorff y farwolaeth

hon?’” Ac medde fo wedyn dan ei lais,—“Mae nhw’n deyd mai at ei wraig

roedd o’n cyfeirio. Ac mae’n hawdd gen i ’u coelio nhw, achos un garw am

siarad ar ddamhegion oedd Paul.” Bu’n ddistaw am dipyn wedyn, ac yna

dwedodd dan ei lais,—“Nedw, y peth sydd rhynga i a ti, rhynga i a ti y

mae o, yntê, machgen i?” Aeth ymlaen am dipym wedyn i smocio’r dim byd

yma, gan bwffian yn ysgafn o hyd.

“Dos ar flaene dy draed,” medde fo’n union, “ac edrych trwy ffenest y

siambar, i weld be mae _hi_’n neud.”

Mi es fel y deydodd o. “Ar ei glinie mae hi,” medde fi, wedi dwad yn ol,

“wrth y gader yr eisteddes i arni, ac yn ei dystio fel tase hi ddim yn

ei gweld hi, ac yn edrych i’r lle tân.”

Ac yn wir, roedd yr olwg ryfedda ar bodo. Ar ei glinie o flaen y gader

yma roedd hi, yn edrych fel tase hi’n cysgu â’i llygid yn agored, ac yn

dystio. Mae’n debyg mai ceisio dystio sêt y gader oedd hi, ond doedd hi

ddim yn ei chyffwrdd y rhan fwyaf o’r amser. Roedd hi’n dystio’r awyr

ryw ddwy neu dair modfedd uwchben sêt y gader, ac yn edrych felly i’r

tân, a siarad rhyngddi a hi ei hun.

“Meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “dene’i gader _o_ ar y Sul,

wyddost.”

“Ia,” medde dewyrth ymhen tipyn,—“ei gader _o_ ar y Sul oedd hi.” Yna

aeth â’i ben i’w blu. “Ia,” medde fo fyth a hefyd, “ei gader _o_ oedd hi

ar y Sul.” Ac anghofiodd dewyrth bopeth amdana i.

Mi rois gic bach i’w ffon o toc, ac mi ddeffrôdd. “Ia,” medde fo, “ei

gader _o_ oedd hi,—helo, Nedw, ac rwyt ti yma? Rhosa di,” medde fo dan

sirioli, “ddaru rhywun ddeyd wrthyt ti dy fod di’n debyg iawn iddo

_fo_?”

“Pwy ydi _o_?” medde fi.

“Be! doeddet ti ddim yn ei nabod _o_?” medde dewyrth, fel tase rhywun

wedi ei daro,—“ac mae cymint o amser a hynny? Erbyn meddwl, ’doeddet ti

ddim wedi d’eni. Mae’n rhyfedd meddwl fod neb yn y lle yma, hefyd, heb

ei nabod _o_. Ond rwyt ti’r un ffunud a fo, Nedw. Mae’r hen wraig wedi

deyd hynny lawer gwaith.”

Wel, wir, rydwi’n methu dallt pobol. Mae nhad a mam yn hollol wahanol

i’w gilydd. Ond mae rhai’n deyd mod i run bictiwr â nhad, eraill mod i

run ffunud â mam. A dyma ddeyd rwan mod i’n debyg iddo _fo_, ond neb yn

deyd mod i ’n debyg i mi fy hun.

“Nedw,” medde dewyrth toc, “dos eto ar flaene dy draed i edrych be mae

_hi_’n neud.”

Mi es, ac wedi dwad yn ol, “Ar ei glinie wrth yr hen gader y mae hi o

hyd,” medde fi, “ond bod ei phenelinie hi ar y gader rwan, a’i dwylo ar

ei gwyneb fel tase hi’n deyd ei phader, ac mae’i gwefuse hi’n mynd. Ond

rydwi’n siwr mai deyd rhywbeth arall y mae hi, o achos fase neb yn deyd

ei bader ar amser cinio, ai fase dewyrth?”

“Wel,” medde dewyrth yn drist, “mi fydd yn well toc. Gobeithio y

closhith hi dipyn yn nes at y Brenin Mawr.”

“Lle mae’r cadeirie erill?” medde fo yn y man.

“Ar dop y bwrdd,” medde fi.

“A’r ffendar a’r stôl haearn?”

“Ar dop y bwrdd.”

“A’r canwyllbrenni pres a’r scelet?”

“Ar dop y bwrdd.”

“A’r setl?”

“Ar dop y bwrdd.”

“Ia, meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “a phan fydd hi’n meddwl

mwy na’i gilydd amdano _fo_ mae hi’n cael y ffit lân yn drom iawn. Mi

fase’n biti iddo fo ddwad i dŷ budur. Dos i edrych eto.” A dene fi’n

mynd.

Roedd hi ar ei thraed yrwan, yn sychu sêt y gader, oedd yn wlyb, yn

ofalus. Ac wedyn yn mynd i dynnu’r cadeirie erill i lawr.

Wedi imi ddeyd hynny, “Mi awn ni’n ol ymhen rhyw funud neu ddau,” medde

dewyrth.

Ac ymhen munud neu ddau, yn ol â ni, a minne’n cadw tu ol i dewyrth. Pan

aethom ni i mewn,—

“Nedw,” medde bodo, mewn llais na chlywes i mono ganddi hi rioed o’r

blaen, llais toddedig a meddal fel yr afon bach dan tŷ pan ydech chi’n

dal y’ch llaw ynddi hi. “Nedw,” medde hi, “tyrd yma, ’ngwas i.”

Dene fi i mewn. “Dyma iti frechdan jam,” medde bodo. A rhoddodd frechdan

jam dan gamp i mi. “Tyrd yma, Nedw bach,” medde hi wedyn. Mi roddodd y

gader y tarodd hi fi â’r carp llawr am eistedd ynddi, ar ganol y llawr.

“Nedw,” medde hi, “eistedd yn honene â’r frechdan jam yn dy law, a rho

dy draed, fel ene, ar ffon y gader.” Ac mi ddarum, er bod fy esgidie i’n

fudron.

Edrychodd hithe arna i. Cymerodd gam yn ol, ac edrychodd wedyn. Cymerodd

gam arall yn ol, a daliodd i edrych. A dewyrth yn edrych dros ei

hysgwydd hi.

“John,” medde hi wrth dewyrth toc. Ond pan drodd hi ei phen ’doedd

dewyrth ddim yno. “John,” medde hi wedyn, ond ddaeth dewyrth ddim i’r

golwg.

Mi aeth i drôr y dresal, a chymyd cylleth wedi rhydu oedd yno, ag un

llafn iddi wedi torri, a’i rhoi hi i mi. “Hwde, Nedw,” medde hi, “cadw

hon yn ofalus, a dos adre.”

Wrth fynd beibio’r penwar bach, pwy oedd yn eistedd ar garreg â’i ben

rhwng ei ddwylo, yn siarad â fo’i hun bob yn ail ag edrych fel tase fo’n

dal i smocio’r cetyn anweledig yma, ond dewyrth.

“Cymyd ar ol teulu’i fam mae Nedw,” medde fo, “mae o run fath a _fo_ i’r

dim.”

Dene fi’n rhoi clec mawr ar y penwar. Mi gododd dewyrth ei ben.

“Ac rwyt ti’n mynd?” medde fo. “Hwde, machgen i.” Mi aeth i’w boced, a

thynnodd swllt allan, a rhoddodd o yng nghil fy nwrn i gan wincio arnai,

ac edrych yn hir arnai wedyn heb ddeyd dim. “Wyddest ti be?” medde fo

o’r diwedd, tan ochneidio, “mi leiciwn o waelod fy nghalon tase d’enw

di’n Isaac. Rhed adre rwan.” Ac i ffwrdd â mi.

Wedi cyrraedd gwaelod yr allt mi dryches yn ol. Dene lle roedd dewyrth a

bodo ar ben y drws, a bodo a’i braich ar ysgwydd dewyrth, fel tase dim

wedi bod rhyngddyn nhw, yn edrych ar fy ol i, ac yn chwifio’u dwylo.

“Mam,” medde fi ar ol mynd i’r tŷ, “pam fod Isaac ni yn Isaac?”

“Ar ol bachgen dewyrth a bodo,” medde mam.

“Lle mae o, ydio wedi marw?” medde fi.

“Rhed, machgen i, i Dyddyn Derw, mewn munud i nol cnegwarth o laeth, cyn

iddyn nhw gychwyn i’r dre,” medde mam, gan dorri ar fy nhraws i.

Ac i ffwrdd i Dyddyn Derw â mi. Mi welwn ar wyneb mam ar y pryd mai dene

oedd ore.

Nedw · 第 17 / 22 题