“Nedw, machgen i, deffra,” medde hi. “Mi golli dy tshans am weld y wawr
yn torri, yn siwr iti.”
Ond roeddwn i wedi penderfynu gneud fy ngore i ddal y brofedigieth
honno’n ddi-gwyn, ers meityn.
Ar hyn dene Huw’n deyd,—“Thâl peth fel hyn ddim,” ac yn gafael ynof, ac
yn fy rhoi ar lawr y siambar. Doedd hi ddim yn anodd wedyn imi weld fod
edrych ar y wawr yn torri o ymyl yr Hen Ffynnon yn brafiach na pheth fel
hyn, a doedd dim i’w neud ond codi. Mi welwch chithe’n union mai da oedd
imi fod wedi mynd at yr Hen Ffynnon i weld y wawr yn torri, wedi’r
cwbwl.
Dene gychwyn. Roedd hi’n bur dwyll, ac heb smic i’w glywed yn unman, ond
ambell i dderyn yn scrwtian ei adenydd yn y gwrych, ac ambell ddafad yn
cnoi ei chil wrth i ni ei phasio at yr Hen Ffynnon. Fel y dringem at y
ffynnon, yr oedd yr awyr fel yn rhyw ddechre sgafnu, a’r llwybyr trwy’r
grug yn dwad yn gliriach.
“Hsht,” medde Huw, “Mae ene rywun wrth y ffynnon.” Ymlaen â ni, ac wedi
mynd i ymyli,—
“Helo,” medde rhywun. Adnabu Huw ei lais, ac adnabum inne’r un oedd yn
llechu y tu ol iddo. Mi gwelwn hi rhwng twyll a gole rhynga i a’r Foel
Ddu. Pwy oedden nhw ond Jinny Williams a’i thad. Mi ddechreuodd Huw a’i
thad ymgomio am y sychter, a’r cynhaea a chant a mil o bethe felly. Ac
yr oedd Jinny a minne’n rhydd i ymgomio fel y mynnem y tu ol iddyn nhw.
Mi es yn nes ati, ond y peth cynta a wnes i oedd chwysu’n ddiferol, ac
wedyn dechre rhynnu nes i fy nannedd guro’n enbyd. Welsoch chi rioed
bethe mor anodd ydi gnethod i siarad efo nhw, pan ddaw’r tshans, heb neb
ond nhw a chithe. Mi ddechreues sgwenu fy enw ar y ddaear efo blaen fy
nhroed, a chyn belled ag y gwelwn i dan fy nghuwch fod Jinny’n gneud yr
un peth. Mi godes fy mhen, ac ni welsoch erioed ffasiwn beth. Roedd top
ei phen hi’n union ar gyfer pigyn y Foel Ddu, ac ni allech ddeyd ar y
funud prun ai sglein ei gwallt rhyngoch a’r gole a welech chi, ynte ai
yn yr awyr ei hun ar ben y Foel yr oedd y lliw. Mi weles toc mai yn yr
awyr yr oedd o, ond roedd o’r un ffunud a’i gwallt hi rhyngoch a’r gole.
Weles i rioed mo’r wawr o’r blaen yn yr ha,—y peth tebyca a welsoch chi
i wallt Jinny rhyngoch a’r gole ydi hi.
Ac yr oedd ei llygid yr un fath a gwaelod yr Hen Ffynnon yn union, a’i
chyrls fel tase nhw’n gneud eu gore i guddio ei gwyneb.