“Ydech chi’n leicio mafon duon?” medde fi, gan gnoi ngwinedd wedi methu
meddwl am ddim arall i’w ddeyd.
“Ydw, ymhle mae nhw i’w cael?” medde hi.
“Does ene ddim,” meddwn inne, gan ddechre gweld fy meddalwch. O achos mi
weles y funud honno mai peth gwirion oedd gofyn a oedd hi’n leicio
rhywbeth nad oedd gen i ddim ohono i’w gynnyg iddi. Ac am hynny, roeddwn
i’n teimlo braidd fel ci wedi torri’i gynffon.
Yr hyn a wnaeth imi feddwl am y peth oedd gweld walie y lle mae nhw’n
alw’n “Sgubor Robert Green,” yn dwad i’r golwg yn y pellter rhynga i a’r
awyr. Pwy oedd Robert Green fedrai ddim deyd, ond ochre hen dŷ ydi’r
Sgubor, a llond y canol o goed mafon duon. Dene’r mafon goreu yn y wlad,
medden nhw, ond dydi’r bechgyn byth yn mynd yno, am fod pobol yn deyd
fod yno ysbryd.
Edrychodd Jinny arnai’n hir heb ddeyd dim, fel tase hi wedi taro ar un
meddal am y tro cynta rioed. Edryches inne arni hithe heb fedru tynnu
ngolwg oddiarni. Dene su sydyn heibio inni, a pheth oedd yno ond y gôg
yn pasio dros ein penne ni, ac yn disgyn ar y pren surion gwylltion yn y
pellter, rhwng Jinny a thoriad y wawr. Ac er na weles i rioed mo’r wawr
yn torri o’r blaen, yn yr ha, fedrwn i ddim tynnu ’ngolwg oddiar Jinny,
i edrych arni hi a’r gôg. Dydio ddim yn beth neis i chi dynnu’ch golwg
oddiar eneth i edrych ar rywbeth arall, a chithe’n siarad â hi, hyd yn
oed i weld y wawr yn torri, rhwng dau a thri o’r gloch y bore, am y tro
cynta rioed yn yr ha.
Mi gofies am y gylleth a gefes i ar lawr y diwrnod cynt, ac mi dangoses
hi iddi. Mi rhoddes hi i’w gweled yn ei llaw a dene fys cynta fy llaw
chwith i yn cyffwrdd am funud bach y bys agosa i’w bys bach hi ar y llaw
ddethe. Mi gynhygies fotwm gloyw iddi hefyd, a gefes i ar lawr, a
chadwodd hwnnw ym mhoced ei brat. A bu tawelwch mawr, fel y mae’r Beibil
yn deyd.
Dal i siarad yn ddiddiwedd yr oedd ei thad a Huw.
“Ydech chi _yn_ leicio mafon duon?” medde fi wedyn toc, gan fod eidïa
newydd wedi fy nharo i.
“Ydw,” medde hithe’n ddihidio. Wedi ei siomi’r tro cynta yr oedd hi,
mae’n debyg.
“Mi wn i ymhle y mae’r rhai gore yn y wlad pan ddaw hi’n amser,” medde
fi.
“Ymhle?” medde hithe.
“Yn y fan acw, yn Sgubor Robert Green,” medde finne, “ond eu bod nhw’n
anodd i’w cael, ac am hynny, ’chydig o’r bechgyn sy’n mynd yno.”
“O!” medde hithe, fel tase hi ddim yn gwrando. Ond roeddwn i’n rhyw
ddechre ennill nerth erbyn hyn,—
“Mi a i yno i nol rhai i chi, os leiciwch chi,” medde fi, dipyn yn fwy
swil, o achos mi sylwes yn sydyn ei bod yn goleuo’n gyflym.
“Olreit,” medde hithe, wedi swilio braidd ei hun.
“Ddowch chi efo fi?” medde fi, dan fy llais.
“Olreit,” medde hithe yn yr un dôn.
Ar hyn mi welai Huw rywun yn dwad at y ffynnon, a dene fo a finne adre
un ffordd, a Jinny Williams a’i thad y ffordd arall.
Wel, yn wir, wyddwn i ddim ar draed pwy oeddwn i’n cerdded. Ac ni fedrwn
feddwl mynd i’r ysgol bore drannoeth heb goler,—
“Mam,” medde fi, y bore hwnnw, “hwyrach fod yr inspector yn dwad i’r
ysgol heddyw, ac y mae eisio i bawb fod yn deidi. Fase hi ddim yn well i
mi fynd yno mewn coler?”
Mi drychodd mam arnai, fel taswn i ddim yn gall,—“Coler!” medde hi,
“bedi dy feddwl di,—wyt ti’n mwydro?”
Mi fedres ei chael i ganiatau un i mi er hynny. Doedd ene ’run imi
chwaith, ond hen un i nhad,—coler droi i fyny, a phigie iddi, ac yr
oedd honno’n rhyw dair modfedd yn rhy fawr. Honno a ges i, ond bod mam
wedi torri darn o’i thu nôl, gan fod coler fy nghôt bron yn cuddio’r fan
honno, a gwnio’r ddau ddarn ynghyd yn bur deidi, a rhoi bach yn fy nghôt
y tu ôl, i’w fachu yn nhop y goler, i’w dal o’r golwg.
Wel, mi es i’r ysgol yn y goler yma fore drannoeth,—ond ddim yn y
pnawn. Y peth cynta a wnaeth Jinny Williams pan welodd hi fi, oedd codi
ei thrwyn arna i, fel tase hi rioed wedi ngweld i, a’r gnethod erill yn
chwerthin trwy eu bysedd bob tro y pasient fi. A’r peth a wnai’r bechgyn
oedd tynnu eu capie a bowio i mi, a chadw draw yn lle chware. Rhedent i
fy nghyfarfod fel tase nhw am chware. Safent yn sydyn,—
“Dacw’r Prince of Wales yn dwad,” medde nhw yn swil.
Tynnent eu capie, a bowient hyd lawr, ac aent heibio ar flaene eu traed,
gan ddeyd dan eu lleisie,—
“Lle mae’r hen Nedw, tybed, na fase fo yn yr ysgol?” “’Tydi’r Prince of
Wales yn debyg i Nedw?”
Daeth Wmffre ata i toc,—“Nedw,” medde fo, “fel hen ffrynd, cymer gyngor
gen i er dy les, cadw’r goler ene adre.” A dene a wnes i. Daeth Jinny
heibio i mi wedyn y pnawn, a’i gwallt yn chware yn y gwynt. Ac medde hi,
rhwng ei chyrls, wrth fy mhasio i,—“Cofiwch y mafon duon.”
Dene a wnaeth i mi fentro i le na bu’r un o’r bechgyn erioed
ynddo,—Sgubor Robert Green—i nôl y mafon duon. A phen es i yno, mi
weles beth mor debyg i ysbryd, fel yr oedd pobol yn deyd, nes y baswn i
wedi dychrynnu i ffitie, onibai bod Jinny efo mi yno.
Sôn am ddisgwyl, dene ddisgwyl, a disgwyl, am i’r mafon duon ddwad ac
aeddfedu. Yr oeddwn i ar fentro i Sgubor Robert Green amdanyn nhw bob
dydd i Jinny, ond bod fy nghalon yn dwad rhwng fy nannedd bob tro y
meddyliwn am yr ysbryd.
Un diwrnod roeddwn i’n dwad heibio i’r Sgubor, wedi bod yn hebrwng Robin
bach Ty’n Llidiard,—dene’r diwrnod y deydodd o ei fod wedi cyffwrdd
cyrlen i Jinny. Edrychai’r haul fel tase fo’n rhyw hel ei hun at ei
gilydd i fynd i lawr, a phwy a gyfarfyddwn i’n dwad i ’nghyfarfod ond
Jinny, fel tase hi ar frys, ond rwy’n siwr mod i wedi ei gweld yn codi
oddiar ei heistedd oddiar garreg yn ochor y ffordd pan ddois i i’r
golwg.
“Nedw,” medde hi dan wrido, “ymhle y mae’r mafon duon?”
“Rwan amdanyn nhw,” medde fi. “Ddowch chi efo mi?”
“Do i,” medde Jinny.
Ac i mewn â ni i Sgubor Robert Green,—y fi yn gynta i sathru’r coed
mafon. Roedd yn rhaid dringo darn o wal, a llusgo Jinny ar fy ol. A dene
ddechre hel. Welsoch chi rioed fafon tebyg. Heliai Jinny nhw oddiar
lawr, a minne’n dringo’r walie, ac yn eu hel i fy nghap, ac yn dwad â
chapeidie iddi hi. Dene’r munude difyrra aeth dros fy mhen erioed, ac
wedi anghofio popeth am yr ysbryd. Dringes i ben un o’r hen ffenestri,
a’r llwyn mafon yn pwyso. Trois i weiddi ar Jinny, ond dene lle roedd hi
â’i phwyse yn erbyn y wal yr ochor bella, yn rhythu i’r gornel dan y
llwyn yr oeddwn i uwch ei ben o, a’i gwyneb fel eira, ac yn edrych fel
tase hi wedi fferru. Beth oedd yno’n eistedd ar garreg, yng nghornel yr
hen Sgubor, wedi ei gwthio’i hun dan gysgod y llwyn mafon duon, a
hwnnw’n gwasgu arni, ac yn ei sgryffinio, ond hen hen wraig, digon hen i
fod yn nain i nhad. Roedd hi â’i phen rhwng ei dwylo, a’i phenelinoedd
ar ei phenneglinie, yn crio’n ddistaw. Codes y gangen yn uwch, i gael
golwg gwell, rhag ofn mai breuddwydio yr oeddwn i. Cododd yr hen wraig
ei phen, a gwelodd fi. “O! Willie bach, ac rwyt ti wedi dwad o’r
diwedd,” medde hi,—“lle buost ti, machgen i, mor hir, a dy fam yn dy
ddisgwyl di ddydd a nos.” Neidies i lawr, a rhuthrodd hithe i fy llaw i,
a gafaelodd yn dyn ynddi.
“Ddaru nhw dy frifo di’n arw wrth drwsio dy ben di?” medde’r hen wraig.
“Gad imi gusan, Willie bach.” A gwenodd arnai’n dyner, dyner. Rhoddodd
ei llaw am fy ngwddw, a chusannodd fi. Fedrwn i ddim yn fy myw feddwl am
ei rhwystro, ond o ran hynny, roedd hi reit lân.
“Mi feddylies y cawn i di yma,” medde hi, “dyma’r lle y brifest ti dy
ben, yntê? Ydi’r dolur yn fawr, ’machgen i? Yn y fan yma roeddet ti pan
ddisgynnodd y garreg, yntê?” Chwiliodd fy mhen yn ysgafn. “Wel,” medde
hi toc,—“mae o wedi mendio’n iawn,—a nhwthe’n deyd fod y garreg wedi
d’ orffen di! Ond choelie dy fam monyn nhw, ’machgen i. Ac rydwi wedi
chwilio amdanat a chael dy fwyd yn barod bob dydd, Willie bach, er pan
est ti i ffwrdd. A mynd â ti i’r gwledydd pell i dy fendio ddaru nhw?” A
thynnai ei llaw yn ysgafn yn ol a blaen trwy fy ngwallt, o hyd, o hyd.
“Lle cest ti’r eneth bach yma, Willie?” medde hi, “mae hi fel shou o
bropor,—feder hi siarad Cymraeg?”
“Na feder,” medde fi, a dene’r gair cynta a ddaeth dros fy ngwefus. Ac
roedd o’n wir, o achos fedre Jinny ddim, am y byd, ddeyd gair mewn
unrhyw iaith. Dal i sefyll yr oedd hi, yn erbyn y wal, yn edrych fel yr
angel ar garreg fedd y Plas, ond bod ei gwallt am ei gwyneb yn deyd na
fedre hi fod yn neb ond Jinny.
Daliai’r hen wraig i edrych yn fy llygid, dan wenu a rhwbio fy llaw
rhwng ei dwylo,—“Wel, Willie,” medde hi, toc, “tyrd, ’machgen i, mae dy
fwyd yn oeri. Ac mae hi’n dechre twllu.” A dene hi’n gwthio trwy’r coed
mafon heb feddwl am y sgryffinio, a finne’n ei llaw. Cyffyrddes law
Jinny wrth basio. Deffrodd hyn hi, a medrodd ei hysgwyd ei hun yn ddigon
i gychwyn ar fy ol.
Wedi dwad yn fwy i’r gole, trodd yr hen wraig i gael ailolwg arna
i,—“Rhosa di, Willie,” medde hi, “nid dyma’r siwt oedd gennyt ti’n
cychwyn oddicartre’r diwrnod hwnnw?” Edrychodd yn fanylach,—a hanner
neid oddiwrtha i. “Na,” medde hi, “nid Willie bach wyt ti wedi’r cwbwl.
Pwy wyt ti, dywed? Ai Edward y Wern?”
Roedd hi’n mynd yn dwllach o hyd. Edward y Wern oedd enw ’nhad, medde
fo, pan oedd o’n fachgen. A digalon ydi cael eich camgymeryd am eich tad
o flaen geneth.
“Wel, Edward,” medde hi, â’i gwyneb fel y galchen, ond y gwaed oedd
arno,—“ti oedd efo Willie pan frifodd o’n tê? Frifodd o’n arw, Edward
bach?”
Dechreuodd holi ynghylch brodyr a chwiorydd ’nhad, sy’n hen bobol,—ond
fel plant y sonie hi amdanyn nhw. Edrychodd arnai’n hir, a minne arni
hithe, a Jinny arnom i’n dau, fel tri mudan. Yn hollol sydyn beichiodd
grïo,—“Na,” medde hi, “wyddan nhw ddim byd am Willie bach, dim byd, dim
byd.” Gollyngodd fy llaw, fel tase hi’n lwmp o dân, ac yn ol â hi trwy’r
coed mafon duon, a’r rheini’n ei sgryffinio i’r byw, heb iddi wybod, ac
eistedd ar y garreg danyn nhw, yng nghornel y Sgubor, a rhoi’i phen
wedyn rhwng ei dwylo.
I ffwrdd â Jinny a fi ar sgruth nes cyrraedd Coed y Felin,—wedyn,
sefyll. “Rwan,” medde fi, “am siarad yn iawn â hi.” Ond choeliech chi
ddim mai’r cwbl fu rhyngom oedd hyn. Mi godes fy mhen i siarad, a dene
Jinny’n codi’i phen, ac edrych i fyw fy llygid i. Ac er bod fy
ngwefuse’n agored, wnaen nhw symud dim yn ol nac ymlaen. Roedd y gwrid a
gafodd trwy redeg, neu rywbeth, yn rhywbeth na fedrech siarad dim yn ei
olwg. Gwyrodd Jinny ’i phen, a dechre sgwenu’i henw efo’i throed, fel
wrth yr Hen Ffynnon. Fedrwn inne ddim peidio â dechre gneud yr un peth.
Beth wnai’r hen bobol, tybed, oedd heb ddysgu sgwenu, ar adeg fel hyn?
Dyma’r adeg y mae hi’n fantes bod dyn wedi cael tipyn o ysgol.
Mi lwyddes o’r diwedd i ddeyd gair, ond ddaru Jinny ddim ond gwrido, ac
edrych arnai, fel taswn i’n un oedd wedi achub ei bywyd hi,—a chychwyn
adre. Mi arhoses nes gweled ei bod bron cyrraedd eu tŷ nhw’n ddiogel, ac
wedyn fel awel â fi, wedi chwysu cyn cychwyn.
“Ymhle y buost ti mewn difri, Nedw?” medde mam.
“Yn hebrwng Robin bach Ty’n Llidiard,” medde fi. Sonies i ddim am y peth
mae nhw’n alw’n “ac felly mlaen.”
Fedrwn i fwyta fawr o dê, ac yr oedd mam yn bur bryderus.—“Fuost ti
ddim yn hel mafon duon?” medde hi,—“mae dy geg di’n ddu.”
“Dipyn bach,” medde finne. A dene’r ’gom i gyd.
Ar amser swper deydodd nhad wrth mam,—“Mae nhw wedi ffeindio’r hen
Fetsen Jenkins unweth eto.”
“Yden?” medde mam.
“Yden,” medde fo. “Jones y Plismon a’i daliodd hi’r tro yma yn edrych
allan trwy un o dylle ffenestri Sgubor Robert Green, ac yn gweiddi
‘Willie,’ â’i gwyneb yn waed i gyd.”
“Pwy ydi honno?” medde fi, yn wylltach nag y dylwn i. Ddeydodd neb ddim
am dipyn,—“Hwyrach mai’r ysbryd welson nhw, ’nhad,” medde fi, â fy
ngwyneb yn rhyw ddechre gwynnu er fy ngwaetha.
“Nage,” medde mam,—“does ene’r un ysbryd.”
“Pwy ydi Betsen Jenkins?” medde fi.
“Wel,” medde nhad yn ara, “hen wraig ydi hi o’r ochor arall i’r Foel
Ddu. Mae hi’n crwydro’r wlad ar adege, er pan ydwi’n cofio, bron. Roedd
ganddi fachgen unweth, tua’r un oed â fi, o’r enw Willie. Mi lladdwyd o
wrth hel mafon duon yn Sgubor Robert Green.” Ond mi gadwodd ’nhad y
gweddill o’r stori—ei fod o efo Willie ar y pryd—iddo fo’i hun.
Rhyw bigo’i bwyd ac edrych yn syn oedd mam. Toc, mi welwn ddeigryn yn
hel i gornel ei llygad,—“Nedw,” medde hi, “nei di addo un peth i dy
fam?” Dydi hi byth yn deyd “i dy fam,” ond pan fydd rhywbeth go anodd
i’w neud yn dwad.
“Bedi hwnnw?” medde fi.
“Peidio byth â mynd i Sgubor Robert Green, ’machgen i, i hel mafon
duon,” medde hi. Yna trodd ei gwyneb i ffwrdd, gan dynnu ei llaw trwy
’ngwallt i yn ara ac ysgafn,—peth nad ydwi ddim yn cofio ei gweld yn ei
neud o’r blaen. Wedyn mi drychodd yn hir i’r gwagle. Yna mi drychodd yn
rhyfedd ar nhad, fel tase hi’n gweld trwyddo fo i’r ochor arall, ac
roeddwn i’n meddwl fod golwg braidd yn euog arno.
Y ffordd y gofynnodd mam i mi, a wnaeth i mi ryw feddalu ac addo. Ond
beth petae Jinny’n gofyn imi fynd? Rydw i a hi’n dal yn ffrindie mawr, o
achos mae ene un peth na ŵyr neb ar wyneb y ddaear amdano, ond hi a fi.
A dene sy’n gneud ffrindie.