Fi ydi’r unig un o’r bechgyn i gyd i siarad yn iawn â Jinny Williams. Ac
nid oes yr un eneth yn debyg iddi yn yr ysgol, heblaw mai geneth newydd
ydi hi. ’Does fawr er pan y mae hi yn yr ardal, ac y mae’r bechgyn yn
sâl eisio tynnu ymgom â hi. Mi gyffyrddodd Robin bach Ty’n Llidiard fin
ei gwallt wrth rannu’r llyfre unweth, medde fo. Ond ’does neb arall wedi
bod yn agos ati. Welsoch chi rioed mo’i delach. Dugoch ydi ei gwallt,
fel rhedyn wedi aeddfedu, ond ei fod o’n gyrls i gyd, ac yn sgleinio.
Mae o ymhobman rywsut,—ar ei hysgwydde hi, yn gweu am ei chlustie, yn
troi dan ei gên, yn clymu am ei gwddw, nes gneud ei gwyneb yn ei ganol
fel pictiwr mewn ffram wedi’i phlethu. Ac nid oes ganddi byth ddim am ei
phen. Am ei llygid, y mae nhw yr un fath a’r mawn sydd yng ngwaelod yr
Hen Ffynnon. Ni fedraf yn fy myw byth godi dŵr o’r Hen Ffynnon heb
feddwl am lygid Jinny Williams, o achos mae’r dŵr yn troi’r mawn yn
loyw.
Wrth yr Hen Ffynnon y cyfarfyddes i hi gynta i siarad â hi, dipyn wedi
dau o’r gloch y bore. Faswn i byth yn meddwl deyd dim wrthi, ddim mwy
na’r bechgyn erill, yn yr ysgol. Ond y mae pethe’n wahanol wrth yr Hen
Ffynnon am ddau o’r gloch y bore.
Ha sych iawn oedd yr ha dwaetha, a sychodd Pistyll y Llan, a doedd dim i
bobol y Llan neud, ond dwad i’r Hen Ffynnon, fel ninne pobol y wlad. Ar
ochor y Foel Fawr y mae’r Hen Ffynnon, yng nghanol grug a brwyn at eich
ysgwydde. Ac y mae’r holl wlad a’r mynyddoedd pell, hyd at y Foel Ddu,
i’w gweled oddiwrthi. O dipyn i beth, gan fod cymint o gario ohoni, aeth
yr Hen Ffynnon yn sych liw dydd, a doedd dim i bobol ei neud ond mynd
ati am y boreua. Aeth nhad yno un bore am bump o’r gloch, ond yr oedd
hi’n hollol sych. Aeth bore drannoeth am bedwar, a chyfarfu â
chynulleidfa’n dwad oddiyno. Y pnawn hwnnw, dene Huw fy mrawd hyna’n
deyd yr ai o i nol dŵr cyn mynd i’w wely, ar ol dwad o’r gwaith.
Gweithio’r nos yr oedd o cyn mynd i’r rhyfel, yn y gwaith plwm yr ochor
arall i’r Foel Fawr, a dwad adre tua dau o’r gloch y bore. Meddylies mai
iawn o beth fase medru deyd wrth y bechgyn mod i allan am ddau o’r gloch
y bore, ac mi gynhygies fynd efo fo.
“Olreit,” medde Huw, “cer i dy wely’n gynnar gael i ti fedru codi. Mi
fydd yn werth iti weld y wawr yn torri yn yr ha, am unweth yn dy oes.”
Mi es i ngwely’n gynnar, gan feddwl peth mor ardderchog oedd i fachgen
deg oed weld y wawr yn torri yn yr ha. Ond rydwi wedi sylwi ar ol hynny,
nad ydi’r pethe y mae pobol yn eu galw’n weledigaethe mor ddifyr am ddau
o’r gloch y bore ag y mae nhw fin nos. Cyn imi gau fy llygid yn iawn,
i’m tyb i, pwy oedd uwch fy mhen yn ceisio fy neffro ond Huw.
“N-e-d-w-w,” medde fo’n araf ac ysgafn, gan godi ei lais tua’r diwedd.
Ond doedd Nedw ddim yn ei glywed o.
“N-e-e-d-w-w-w,” medde fo wedyn, gan godi ei lais dipyn uwch tua’r
diwedd na’r tro cyntaf. Ond nid oedd na llais na neb yn ateb.
Mi sgydwodd chydig arna i. Ymhen tipyn,—“Nedw! Nedw!” medde fo fel
ergydion, ond cysgu’n drwm yr oedd Nedw.
“Nedwnedwnedwnedwnedwnedw,” medde fo wedyn, fel motor beic, gan fy
ysgwyd fel crud. Ond yr oedd Nedw cyn farwed a hoel.