XII. CARIAD DICO BACH.

NI byddem yn cyfrif Dico Bach yn union fel rhywun arall. Nid oedd unrhyw

goll arbennig arno, ond yr oedd yn rhyw ddiniwed. Crydd ydoedd wrth ei

alwedigaeth, a gweithiai mewn siop lle cedwid amryw gryddion.

Yr adeg honno yr oedd pobl Cymru yn gwisgo esgidiau lledr wedi eu gwneud

gartref yn lle rhai papur wedi eu gwneud yn Lloegr. Felly, yr oedd gan

Dafydd Roberts y crydd waith i gryn bedwar neu bump o gryddion drwy’r

flwyddyn. Yno y gweithiai Dico Bach er pan oedd yn hogyn; ac yr oedd yn

hoff iawn gan ei gydweithwyr, gan ei feistr, a chan bawb a’i hadwaenai.

Creadur bychan a rhyw draed drwg ganddo ydoedd Dico. Wrth ei weled yn

cerdded o bell, gallasech feddwl ei fod wedi meddwi, gan drysgled y

rhodiai, ond ni feddwodd Dico erioed. Yr oedd yn ddirwestwr mawr. Yr

oedd ganddo wyneb crwn, a gwên arno bob amser, a theimlai yn hynod falch

o’r ychydig fiew melynion a dyfai ar ei wefus uchaf. Pa beth bynnag yr

ymaflai Dico ynddo, byddai yn selog dros ben gydag o. Yr oedd yn perthyn

i’r capel, ac ni byddai gyfarfod na byddai Dico yno yn gyson. Yr oedd yn

aelod o’r côr, yn un o’r dynion oedd yn canu bas, ac ni bu gyfarfod canu

erioed er pan gychwynnwyd y côr na bu Dico yno.

Gyferbyn â’r siop lle’r oedd Dico yn gweithio yr oedd siop ddillad. Siop

fechan ddigon diolwg ydoedd, yn dwyn yr enw mawreddog “London House.” Un

gaeaf, daeth geneth ieuanc o rywle o’r De i weini i’r siop hon. Gwneud

hetiau a boneti oedd ei gwaith, a byddai yn eistedd wrth ffenestr oedd

gyferbyn â ffenestr siop weithio’r cryddion. Geneth hardd anghyffredin

oedd hi, dal a syth, a chanddi gyflawnder o wallt melyn tonnog, a chroen

glân clir. Gwelodd Dico hi y diwrnod cyntaf y cymerodd ei lle wrth y

ffenestr, a syrthiodd mewn cariad â hi rhag blaen. Y noswaith honno,

cafodd allan ym mha le yr oedd hi yn lletya, a’i bod yn mynd i’r un

capel âg yntau. Wrth fynd adref i’w ginio, byddai Dico yn cychwyn ar hyd

yr un stryd â hi, ac os na byddai hi yn y golwg, arhosai Dico o gwmpas

nes deuai, yna gadawai iddi hi fynd yn gyntaf, a chanlynai hi nes ai i’w

llety. Yna troai Dico yn ei ol tua’r cwrt bychan tlodaidd lle’r oedd ei

gartref yntau. Dechreuodd wneud hyn yn ddioed ar ol dyfodiad yr eneth

ieuanc—Miss Jenkins oedd ei henw—i’r dref. Ar y Sul, byddai Dico er yn

fore yn gwylio llety Miss Jenkins. Pan welai hi yn dyfod allan, ciliai

yntau o’r golwg nes iddi basio, yna cerddai ar ei hol tua’r capel, gan

ei chadw mewn golwg o hyd. Wrth fynd o’r capel gwnai yr un modd, a

phrynhawn a hwyr yr un fath. Newidiodd ei sedd yn y capel er mwyn cael

lle mwy manteisiol i’w gweled hi yno, Weithiau, byddai Miss Jenkins yn

esgeuluso mynd i’r capel ar fore Sul, a’r prydiau hynny, deuai Dico i’r

gwasanaeth yn hwyr bob amser, wedi bod yn disgwyl nes ei mynd mor hwyr

fel y byddai’n sicr nad oedd Miss Jenkins yn dyfod.

Cyn hir aeth Miss Jenkins i berthyn i’r côr, ac felly cafodd Dico un

cyfle yn rhagor i’w gweled. Gwyliai hi a chanlynai ar ei hol yr un fath

wrth fynd a dyfod ar yr achlysuron hynny hefyd. Aeth hyn ymlaen am rai

wythnosau os nad misoedd heb i neb sylwi arno, er fod yr eneth ei hun

wedi sylwi fod Dico bob amser yn cerdded ar ei hol pan fyddai hi yn mynd

i’w chinio a phan fyddai’n mynd i’r capel neu i’r cyfarfod canu. Yr oedd

arni radd o’i ofn ar y dechreu, ond gan ei fod yn edrych yn beth mor

ddiniwed ac na ddywedodd air wrthi erioed, ni chymerodd ragor o sylw o

hono, a thybiodd hwyrach mai damwain oedd ei fod yn cerdded ar ei hol.

Wrth weled hynny yn digwydd mor hir ac mor gyson, meddyliodd am holi pwy

oedd Dico, ond gadael iddo a wnaeth.

Gan fod Miss Jenkins yn eneth mor hardd, yr oedd ganddi ddigon o

edmygwyr yn y dref yn fuan, ac yr oedd agos bob dyn ieuanc oedd yn

perthyn i’r capel a’r côr yn barod i fynd i’w danfon adref pan fynnai.

Ond yr oedd Miss Jenkins dipyn yn falch, a chan mai chwarelwyr a

llafurwyr oedd y rhan fwyaf o fechgyn y capel a’r côr, ni fynnai hi

wneud dim â hwy ond yn unig ddywedyd nos dawch neu rywbeth felly wrth eu

pasio, pan ddywedent hwy rywbeth wrthi hi. Felly, ni byddai neb byth yn

ei danfon adref, ond Dico, a byddai yntau bob amser yn cerdded ar ei hol

o fewn ychydig lathenni iddi.

Un bore Sul, yr oedd Dico wedi disgwyl yn hir am ei gweled hi yn dyfod

allan o’r tŷ, ac yr oedd bron a rhoi’r goreu i ddisgwyl yn hwy, gan

feddwl na ddeuai hi ddim; ond pan oedd ar gychwyn ymaith, gwelodd hi yn

dyfod trwy’r drws. Ciliodd Dico, fel arfer, ac ar ol iddi hi basio, aeth

yntau yn ei flaen. Yr oedd hi yn digwydd bod yn fore gwlyb, a’r ffordd

yn fudr iawn, ac wrth fynd yn ei brys, gollyngodd Miss Jenkins ei llyfr

emynnau o’i llaw, nes rholiodd i’r gwter.

Cyn iddi allu troi bron i’w godi, yr oedd Dico yno, er ei drysgled ar ei

draed. Cododd y llyfr, tynnodd ei gadach sidan coch goreu o’i logell,

sychodd y llyfr yn ofalus, ac yna tan wenu yn siriol, estynnodd ef i

Miss Jenkins. Gwenodd hithau arno yntau, ac wrth dderbyn y llyfr,

dywedodd “Diolch yn fawr i chi,” ac aeth yn ei blaen.

Yr oedd yn ychydig ddigon i’w ddywedyd am y fath weithred a spwylio’r

cadach sidan yn y fargen, ond yr oedd Dico wrth ei fodd. Yr oedd ei

galon yn neidio yn ei fynwes gan hapusrwydd, a’i lygaid yn disgleirio

drwy’r dydd.

Ond daeth cwmwl i’w ffurfafen yntau. Daeth dyn ieuanc i’r dref yn

brentis o dwrne. Yr oedd hwn yn wr ieuanc o foddion, ac yn gryn lanc ym

mhob ystyr. Ai yntau i’r un capel a Miss Jenkins, a chyn hir disgynnodd

ei lygaid arni fel yr eneth harddaf yn y dref. Penderfynodd Harri

Puw—canys dyna enw y gŵr ifanc—gael ysgwrs â hi, ac ni bu yn hir cyn

cael y cyfle. Hoffodd yr eneth, ac, yn wir, hoffodd hithau yntau, neu yn

hytrach, hoffodd o ei phryd a’i gwedd hi, a hoffodd hithau ei foddion

a’i safle yntau. Ac felly, cyn hir, yr oedd Harri Puw a Miss Jenkins yn

dra chydnabyddus a’i gilydd. Nid oeddynt wedi bod yn rhodio o gwmpas

gyda’i gilydd, dim ond siarad wrth y capel neu pan ddigwyddent gyfarfod

ar yr ystryd.

Eto, yr oedd Dico wedi eu gweled yn siarad y tro cyntaf, ac wedi deall

fod gwrthwynebydd peryglus iddo ar y maes. Parodd hynny boen ac

anesmwythder mawr iddo, ond ni pheidiodd a gwylio a chanlyn ar ol ei

eilun o hyd fel o’r blaen.

Cyn hir, sut bynnag, cafodd Dico ergyd fwy poenus fyth. Un nos Sul yr

oedd yn gwylio am ddyfodiad Miss Jenkins. Daeth yr amser arferol, ond ni

ddaeth hi allan o’r tŷ. Disgwyliodd Dico yn hir, a phan oedd ar roi’r

goreu iddi, clywodd y drws yn agor, a gwelodd hithau yn dyfod. Ciliodd

o’r neilltu, ac yna canlynodd hi. Er ei syndod, pan gyrhaeddodd Miss

Jenkins y tro at ystryd y capel, aeth hyd y ffordd arall. Teimlai Dico

mai ei ddyledswydd oedd mynd i’r capel; ond ar ol Miss Jenkins yr aeth.

Canlynodd hi o’r dref i gwrr y wlad, ac yn y fan honno, gwelodd

rywun—dyn ieuanc—yn dyfod i’w chyfarfod, ac yn stopio i siarad ac

ysgwyd llaw â hi. Yr oedd calon Dico yn curo yn gyflym iawn. Disgwyliai

o hyd weled y dyn yn dyfod yn ei flaen a Miss Jenkins yn mynd y ffordd

arall. Ond yn lle hynny, aeth y ddau yr un ffordd, ac ym mreichiau ei

gilydd hefyd; a phan oeddynt yn pasio heibio lamp gerllaw, gwelodd Dico

mai Harri Puw oedd y dyn ieuanc.

Ac aeth adref ac i’w wely. Bu yno yn druenus iawn nes oedd yn amser

dyfod o’r capel. Yna cododd ac aeth i gornel yr ystryd i ddisgwyl. Bu

yno am ddwyawr yn rhynnu yn yr oerfel a’r glaw, ond nid aeth Miss

Jenkins heibio. Aeth Dico tuag adref drachefn, ond wrth y drws, troes yn

ol ac aeth ar hyd yr ystryd lle’r oedd hi yn lletya.

Gwelodd oleu mewn un ffenestr yno, ac yna aeth adref.

Aeth amser heibio, a daeth y son fod Harri Puw a Miss Jenkins yn mynd i

briodi. Clywodd Dico yr hanes; ond rywfodd nid allai gredu ei fod yn

wir. Daliodd ati o hyd i wylio a chanlyn ar ol Miss Jenkins o hirbell,

heblaw pan welai Harri Puw gyda hi. Ac yr oedd Miss Jenkins erbyn hyn

wedi dyfod i wybod am edmygedd mud Dico, ac wedi dywedyd wrth Harri Puw

hefyd. Mynnai y gŵr bonheddig hwnnw ei “gicio i’r ffos” ryw noson; ond

ni fynnai Miss Jenkins mo hynny.

“Mae o yn ffwl digon diniwed,” meddai, a chwarddodd y ddau yn galonnog

am ben Dico druan.

Cyn hir, priodwyd Harri Puw a Miss Jenkins, a bu raid i Dico gredu’r

hanes pan welodd y briodas yn dyfod o’r capel, a’r ddeuddyn ieuanc yn

edrych yn hapus a llawen iawn gyda’i gilydd. Aeth Dico adref y noson

honno, a thrannoeth teimlai yn rhy sal i godi o’i wely. Bu yno am

wythnos neu naw niwrnod yn rhyw ddihoeni, ond nid oedd dim afiechyd yn y

byd arno, ebr y meddyg, hyd y gallai o ddeall.

Un noswaith, ym mhen rhyw naw niwrnod, cododd Dico gyda’r hwyr, ac er

gwaethaf ei fam, aeth allan am dro. Aeth yn wysg ei drwyn i’r wlad, ac

ar draws y caeau. Yr oedd hi yn wanwyn, a’r tywydd yn deg a’r dydd yn

hwyhau.

A’r diwrnod hwnnw y daethai Harri Puw a’i wraig adref o’u mis mel, ac yr

aethant i’w cartref newydd ar gwrr y dref. Ni wyddai Dico mo hynny.

Cerddai Dico yn ei flaen yn araf hyd y llwybr, a thoc, clywodd weiddi

mawr yn un o’r caeau ar y dde iddo. Aeth i ben y gwrych i edrych a

gwrando, a gwelodd ddyn a dynes yn rhedeg nerth eu traed tua’r gwrych, a

tharw cynddeiriog ar eu holau. Yr oedd y dyn ar y blaen i’r ddynes

ymhell, ac yn rhedeg â’i holl egni. Cyn pen yr eiliad, yr oedd dros y

gwrych ychydig lathenni oddiwrth Dico.

A gwelodd Dico mai Harri Puw ydoedd.

Y funud nesaf, yr oedd Dico yn y cae ac yn rhedeg â’i holl egni i

gyfarfod y tarw gwyllt. Pasiodd y ddynes ef toc ar ffo tua’r gwrych.

“Rhedwch!” ebr Dico, ac yn ei flaen âg ef i gyfarf od y tarw.

A rhedodd Mrs Puw am ei hoedl, ac aeth dros y gwrych, a chafodd hyd i’w

gŵr yn y ffordd, led dau gae ym mhellach, yn ei disgwyl.

Fore drannoeth, yn gynnar, yr oedd yr hanes ar led yn y dref fod tarw

Plas Draw wedi lladd Dico Bach, a’u bod wedi cael ei gorff ar y cae.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 25 / 35 题