“Mother, this gentleman is Mr. Smith, to whom I am engaged, as you know
——.”
“Be’ rwyt ti yn i baldar, dywed?” ebr Mari Huws. “Be’ ’wyt ti yn clebran
yn Saesneg wrtha i? ’Rydw i yn dallt yn burion be’ ddeydist ti, ran
hynny, ond waeth i ti heb ddisgwyl i mi dwyllo’r dyn, na waeth, ’run
mymryn, yr hen ffolog gen ti! Dywed wrtho sut bobol ydan ni, ne mi
ddeyda i fy hun wrtho, gwnaf, myn f’ einioes i ——.”
“Mam, mam!” ebr Catrin, heb wybod pa beth i’w ddywedyd na’i wneud.
“Be’ sydd arnat ti ’rwan?” ebr Mari Huws, wrth weled Catrin yn dechreu
wylo.
“Mae’n gwilydd gen i trosoch chi, mam” meddai Catrin.
“Cwilydd, aie?” ebr Mari Huws, “cwilydd gen ti drosta i, aie? Mae’n
gwilydd gen i drosot ti, yn siwr, yn hudo thyw greadur fel hyn i’r fan
yma i beri trafferth ac i dynnu pobol i siarad am danom ni!”
Torrodd Catrin i wylo, yn fwy o ddigofaint na dim arall.
“What is it all about, my dear?” meddai’r Sais bach, braidd yn ofnus.
Ni wyddai Catrin pa beth i’w ddywedyd, ond teimlodd ei bod ar ben arni,
ac mai y tro ffolaf a wnaeth yn ei hoes oedd gadael i’w chariad fynd
gyda hi adref. Eto, yr oedd digon o ddyfais ym mhen Catrin, ac ni bu yn
ol o wneud y goreu o’r gwaethaf. Dywedodd wrth y Sais fod ar ei mam
eisieu iddi briodi rhyw ddyn cyffredin o’r ardal, a’i bod wedi gwylltio
wrth ei gweled hi yn dyfod ag ef gyda hi, megis ar waethaf ei mam.
“Ond waeth gen i beth ddywed fy mam,” ebr hi, “y chi fynna i tra mynnwch
chi fi!”
“Dowch gyda fi oddi yma, fy nghariad i,” ebr Smith druan, ac aeth yn ol
i’r cerbyd. Aeth Catrin ar ei ol yntau.
“Da b’och chi, mam, welwch chi byth mona i eto,” medda hi.
“Be’ wyt ti’n i ddeyd?” ebr Mari Huws. “Wela i byth monat ti eto, aie?
Pwy ddeydodd wrthat ti fod arna i eisio dy weld di, tybed? Cymer ofal na
ddoi di byth yma eto hyd nes byddi di wedi colli dy lediaith, ac hyd nes
byddi di yn cofio pwy wyt ti. Mae’n chwith gen ’y nghalon i feddwl mod i
wedi magu dy sort di erioed, mi rof fy ngair iti!”
Ac aeth Mari Huws i’r tŷ i wylo yn ddistaw, er na fynasai am y byd i neb
ei gweled. Parodd Smith i Dic Morus ddreifio yn ol rhag blaen i’r
stesion, a gwnaeth yntau hynny, gan chwerthin yn ei lewis, a sibrwd
wrtho ei hun,—“Myn cebyst, dynes o’r sort ore ydi’r hen Fari Huws
wedi’r cwbwl!”
Pan ddaeth Lei Bach adref y noswaith honno, yr oedd wedi clywed yr hanes
i gyd—nid oedd neb yn yr ardal nad oedd yn gwybod fod Catrin Lei Bach
Fawr wedi dyfod adref a chariad o Sais gyda hi, a bod Mari Huws wedi
gwrthod gadael iddynt fynd i’r tŷ, a’u bod hwythau wedi mynd gyda’r tren
rhag blaen.
“’Rwyt ti wedi gyrru’r eneth i ffwrdd am byth,” meddai Lei yn sobr,
“welwn ni byth moni hi eto.”
“Paid a meddwl mai dy galon di yn unig sy’n drom,” meddai Mari Huws.
“Ddaw hi byth yn ol!” ebr Lei, gan dorri i wylo.
“Peidied hithe, ynte, os na ddaw hi adre yn ei synhwyre fel rhyw eneth
arall o’i stad!” ebr Mari, gan gnoi ei gwefus rhag wylo ei hun.
A phan ddaeth Catrin adref wedyn, nid oedd arni na llediaith na
balchter. Daeth adref yn weddw dlawd a thri phlentyn ganddi, ac wedi
colli ei hiechyd ei hun. Ac y mae Mari Huws, hithau yn weddw bellach, yn
dal i olchi a smwddio i gadw Catrin a’i phlant.
“Mae hi’n debyg i rywbeth ’rwan!” ydyw geiriau Mari.