DAETH Dafydd Morgan yn sydyn i sylw mawr yn Llanygeiniog. Dyn cyffredin,
fel y dywedir, ydoedd Dafydd, ond ei fod yn ddyn cyffredin go
anghyffredin hefyd. Gweithiai yn y chwarel fechan oedd yn agos i
Lanygeiniog, ac yr oedd yn adnabyddus yno fel dyn go ddigrif erg
blynyddoedd, ond nid oedd neb ond y chwarelwyr yn gwybod rhyw lawer am
dano. Un diwrnod, sut bynnag, daeth digwyddiad mawr i ran Dafydd Morgan.
Ciafodd arian mawr o’r Siawnsri, a daeth rhag blaen yn ddyn o bwys yn y
dref. Er fod yno amryw ddynion gweddol gefnog yn byw yn y dref, yr oedd
Dafydd Morgan ar ol ei lwc yn ablach na neb o honynt.
Wrth gwrs, rhoes Dafydd y goreu i weithio yn y chwarel rhag blaen, ac i
roi arbenigrwydd ar yr achlysur ac er mwyn dangos ei deimladau da at ei
hen gydnabod, rhoes ginio ardderchog i’r chwarelwyr oll yn y Llew Coch,
prif dafarn y dref. Yr oedd yn naturiol i rai o’r prif ddynion fod yn
awyddus am fynd i’r cinio hwnnw, canys yr oedd Dafydd bellach yn ddyn
nad ellid yn hawdd esgeuluso bod ar delerau da âg ef. Felly, llwyddodd
amryw o fasnachwyr a phobl gefnog y dref i gael gwahoddiad i’r cinio, ac
yn ystod y gweithrediadau, buont yn siarad yn ol eu harfer wrth gynnyg
iechyd da’r Brenin a’i deulu, y fyddin a’r llynges, yr offeiriaid a’r
gweinidogion, a Dafydd Morgan a’i deulu, a llwyddiant tref a masnach
Llanygeiniog. Pan feddyliodd am y swper gyntaf, nid oedd gan Dafydd
syniad yn y byd y byddai pethau fel hyn yn angenrheidiol. Ni bu erioed
mewn cinio cyhoeddus o’r blaen, ac ni wyddai yr arferion. O’i ran ei
hun, ni buasai yng nghinio’r chwarelwyr ddim ond bwyta ac yfed mewn
distawrwydd, ond yr oedd y bobl fawr a wahoddwyd yno wedi meddwl am
wneud y peth yn deilwng, ac wedi cynnyg i Dafydd yr aent hwy yn gyfrifol
am wneud yr holl drefniadau. Mewn ffordd, yr oedd yn dda gan Dafydd gael
rhywun i edrych ar ol, ac ymddiriedodd y mater yn llwyr i’r bobl fawr
oedd yn arfer â phethau o’r fath, sef tri neu bedwar o’r prif
fasnachwyr, yr offeiriaid, a dau neu dri o bobl yn byw ar eu harian,
rhai o honynt hefyd yn aelodau o gyngor y dref. Gwnaethant hwythau
bopeth yn drefnus, a dewisasent rai o’u plith eu hunain i gynnyg iechyd
pawb oedd i gael ei anrhydeddu.
Ni wyddai Dafydd ddim am y trefniadau, er ei fod yno fel llywydd, wrth
gwrs. Ar ol dechreu y dywedodd rhai o’r gwŷr cyhoeddus wrtho amcan pa
beth oedd i ddigwydd, ac yr oedd Dafydd wedi synnu braidd, ond ni
ddywedodd ddim yn erbyn y pethau a drefnwyd gan ei gyfeillion newyddion.
Yn y lle priodol, cynhygiwyd iechyd da’r Brenin a’i deulu, y fyddin a’r
llynges, yr offeiriaid o bob math, ac yfwyd yn galonnog, a rhywun yn
ateb dros y naill a’r llall, ond y Brenin, wrth gwrs. O’r diwedd,
daethpwyd at y prif beth, sef cynnyg iechyd da Dafydd Morgan ei hun.
Cododd un o’r masnachwyr ar ei draed, a dywedodd fod ganddo orchwyl
hynod bleserus i’w wneud, sef cynnyg iechyd da Mr. Morgan. Teimlai yn
sicr y byddai pawb yn cydweled âg ef wrth iddo ddywedyd fod Mr. Morgan
yn un o gymwynaswyr goreu y dref. Ar ol dyfod i feddiant o’r cyfoeth
oedd yn gyfiawn eiddo iddo, yr oedd wedi cofio ei hen gyfeillion a
dangos ei barch tuag atynt. Yr oedd hefyd yn wahanol i lawer wedi prynn
tŷ yn y dref a phenderfynu byw yno a chefnogi masnach gartref yn hytrach
na mynd ymaith i dreulio ei gyfoeth. Mewn amser, yr oedd o yn sicr y
byddai Mr. Morgan yn cymryd dyddordeb blaenllaw yn amgylchiadau
cyhoeddus y dref, ac y ceid y budd o’i brofiad a’i allu ar gyngor
Llanygeiniog. Un fantais fawr o feddu eiddo ydoedd y gallai ei
berchennog roddi ei wasanaeth yn rhad ac yn rhwydd i’w wlad ac i’w dref,
ac yr oeddynt oll yn ddiameu yn sicr y byddai i Mr. Morgan wneud hynny
hefyd. Ar ol dywedyd llawer o bethau tebyg, cynhygiodd y siaradwr
“Iechyd da Mr. Morgan,” ac yfwyd ato gyda hwyl a chymeradwyaeth fawr.
Yr oedd Dafydd Morgan wedi ei blesio yn fawr, ond ni wyddai fod yn
ddyled arno ateb hyd nes dywedodd un o’i gyfeillion gwybodus wrtho. Ar
ol iddo ddeall fod yn ofynnol iddo wneud araith, cododd Dafydd ar ei
draed yn araf ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac edrychodd o’i gwmpas
yn fodlon. Ni wyddai ar y ddaear pa beth i’w ddywedyd, ond pan dawodd y
gymeradwyaeth, gwelodd fod yn rhaid iddo ddywedyd rhywbeth, a dechreuodd
arni rhag blaen.
“Wel,” eb efô, “yr hen ffrindie sydd yn fy nabod i er pan oeddwn i yn
hogyn ac yn ffrindiol hefo fi pan oeddwn i yn y chwarel yn faw ac yn
rhwbel, a chithe y ffrindie newyddion fuo mor garedig a dwad i fy nabod
i mor dda ar ol i mi gael yr arian, mae’n dda iawn gen i ’ch gweld chi
yma fel hyn wrth y byrdde yma yn cael llond y’ch bolie am unweth, o
leia, a barnu wrth fel rydech chi’n claddu’r trugaredde yma o’r golwg.
Yn enwedig y saim paen yna, fel maen nhw yn i alw fo,—wn i ar y ddaear
pam chwaith. Wel, ’doeddwn i ddim yn disgwyl am yr arian yma, ond gan eu
bod nhw wedi digwydd i mi, rydw i am drio gneud y gore ohonyn nhw, wrth
reswm. Roedd Mr. Jones y Siop Ucha yn deyd mod i yn un o gymwynaswyr
gore’r dref yma. Wel, er na fum i ddim yn delio yn i siop o hyd yma,
rydw i yn ddiolchgar iddo fo am i air da, ac mi alla ddeyd wrtho fo rwan
nad anghofia i ddim fod gynno fo siop, rwan ar ol i mi gael arian. O’r
blaen, fyddwn i ddim yn mynd yno am fod i bethe fo dipyn yn ddrud, er eu
bod nhw yn dda iawn, mae’n siwr. Deyd yr oedd o hefyd fy mod i wedi
cofio fy hen gyfeillion a dangos fy mharch tuag atyn nhw. Wel, do, ac mi
faswn yn fy nghyfri fy hun yn rhyw gadi ffan garw petaswn i yn eu
hangofio nhw, welwch chi. Mi fuon yn eitha ffrindie i mi, a pheidio â
son am ambell i ffrae o dro i dro, ar hyd y blynydde, cyn i mi drwy lwc
ddwad yn ddigon o ddyn i gael ffrindie erill. Ond er mod i wedi cael
rhai newyddion, peidiwch a meddwl mod i am dawlu’r hen rai heibio,
chwaith. Na, rydw i am gofio mai hen chwarelwr oeddwn i cyn fy ngeni,
fel tase, ac mai dyna fydda i ar ol fy nghladdu hefyd. Deyd yr oedd Mr.
Jones hefyd fy mod i wedi prynu tŷ yn y dref a chefnogi masnach gartref
hefyd. Wel, mae hynny yn wir, os oes rhyw ddaioni ynddo. Well gen i fyw
yma nag yn unman arall, am y rheswm nad wn i fawr am unlle ond yma; ac
am fasnach gartre, wel, fel y deydis i o’r blaen, mae gen i rwan ddigon
o fodd i dalu chwaneg i Mr. Jones am bethe, os ydyn nhw yn wir yn well
na phethe rhatach. Fydda i yn meddwl ond ychydig o’r bobol yma sy’n mynd
a’u harian i ffwrdd i’w gwario, ac ’rydw i yn gobeithio y bydd siopwrs y
dref yma o hyn allan yn cadw stwff cartre—yn enwedig brethyn—yn lle
rhyw stwff sal o rywle o Loegr ne ryw wlad arall. Os oeddwn i yn i
ddallt o yn iawn, ’roedd Mr. Jones yn rhyw led awgrymu y gwnawn y tro i
fod yn un o’r Gorfforaeth yma. Wel, ’does gen i fawr o feddwl o honof fy
hun, a deyd y gwir yn blaen i chi. Nag o’r gorfforaeth chwaith, ran
hynny. ’Dydw i ddim yn meddwl na wnawn i lawn cystal cownsler a’r
cyffredin o honoch chi, a gwell hwyrach nag amal i un. ’Roedd Mr. Jones
yn deyd mai un fantes fawr o fod yn gyfoethog ydi medru rhoi gwasanaeth
yn rhad i’r wlad neu i’r dref. Mae hynny yn ddigon gwir, tae o’n wir
hefyd. Cyn belled ag y sylwes i, eu bod nhw yn gyfoethog ydi’r unig beth
fedrwch chi ddeyd o blaid y rhan fwyaf o’r bobol sy’n gwasanaethu eu
gwlad heblaw y gellwch chi ddeyd eu bod nhw yn gyffredin yn gneud i’w
gwlad eu gwasanaethu nhwythe hefyd. Ar yr un pryd, ’dydw i ddim yn deyd
na ddylen nhw gael rhyw gydnabyddiaeth am roid cymaint o’u hamser i
edrych ar ol eu manteision eu hunen a rhyw dipyn o fanteision pobol
erill pan ddigwyddan nhw gofio am hynny. Os byddwch chi yn meddwl ryw
dro y medra i wneud rhyw ddaioni ar y Corporasiwn, mi fydda’n barod i
drio, cyn belled âg y gwela i yrwan. Ond mae yma lawer o bethe wedi eu
deyd yma heno y baswn inne yn leicio deyd gair arnyn nhw. Roedd y gŵr
bonheddig gynhygiodd iechyd da’r Brenin cystal a deyd fod eisio crogi’r
bobol yma sydd yn erbyn brenhinieth. ’Dydw i ddim o’r un farn â fo. Cyn
belled ag y gwela i, mae’r Brenin yma yn eitha dyn rwan, ond mae o yn
cael gormod o gyflog o heth cethin, ne ynte mae pawb arall a adwen i yn
cael rhai cannoedd o filoedd yn rhy chydig am eu gwaith. Mi ddeydwyd
hefyd y base hi yn o ddrwg arnon ni oni bae am y fyddin a’r llynges a’r
offeiriaid o bob math. Synnwn inne ddim. Fasen ni byth yn medru ffraeo
cymaint, mae’n siwr. Ond dyma fi yn mynd i siarad gormod, mi wn. ’Does
gen i ond diolch ichi bawb am ddwad yma fel hyn. Stwffiwch y pethe yma i
gyd o’r golwg, ac os na fedrwch chi eu rhoi nhw yn eich stumoge, rhowch
nhw yn eich pocede i fynd adre!”
Dyna araith gyntaf Dafydd Morgan. A’r olaf.