XI. CATRIN LEI BACH FAWR.

HEN wraig blaen iawn ei ffordd oedd Mari Huws, a rhyfeddol o blaen ei

hymadrodd hefyd. Perthyn i’r oes o’r blaen yr oedd hi, rywsut ym mhob

peth, ac eto yr oedd ei merch, Catrin, fel petasai wedi ei dwyn i fyny

yn y dull diweddaraf a gwychaf ym mhob ystyr. Y gwir oedd mai bywyd

caled iawn a gawsai—byw ar fara llaeth a chrystiau sychion, rhedeg yn

droednoeth yn yr haf a gwisgo clocsiau yn y gaeaf. Ond yr oedd rhywbeth

yn falch yn yr eneth erioed. Hyd yn oed yn droednoeth neu yn ei

chlocsiau, yr oedd bob amser yn lân a thrwsiadus, ac yn cerdded o gwmpas

fel pe buasai yn ferch sgwier y plas ac nid yn ferch ei weithiwr

distadlaf. Fel yr oedd yr eneth yn dyfod yn hŷn, yr oedd yn rhaid iddi

fynd i weini, ac felly yr aeth yn ddigon ieuanc hefyd. I’r Plas yr aeth

i ddechreu, wrth gwrs, gan fod ei thad yn gweithio ar yr ystad, ac felly

yn ei ystyried ei hun radd yn uwch na gweithwyr ffermwyr a labrwyr

cyffredin yr ardal. Y mae’n debyg mai oddiwrth ei thad y cafodd y ferch

ei balchter, canys yr oedd rhyw fath o falchter yn yr hen ddyn, druan.

Fel yr awgrymwyd, ymfalchiai ei fod yn gweithio ar ystad yr Ysgwier, a

chyfrifai fod hynny yn ei godi uwchlaw ei debyg. Pan aeth ei ferch i

weini i’r Plas, ystyriai fod hynny yn anrhydedd mawr arno, a sarhaodd

fwy nag un o’i gydnabod drwy awgrymu gymaint gwell oedd ei ferch ef na’u

merched hwy oedd yn gweini gyda ffermwyr a phobl gyffredin felly. “Lei

Bach Fawr” y byddai’r cymdogion yn galw yr hen greadur, ond Mari Huws y

byddai pawb yn galw yr hen wraig. Yr oedd hi yn hollol groes i’w gŵr ym

mhob ystyr.

“Dyma ti, Lias,” meddai hi wrtho un noson, fel y byddai’n dywedyd yn

aml, “mae gen ti ormod o gynffon i bethe’r Plas ’na o lawer. I be’r wyt

ti’n tynnu dy gap iddyn nhw bob amser, ac yn digio dy gymdogion drwy ryw

hen stumie gwirion yn eu cylch nhw? Wyt ti ’run mymryn mwy dy barch

wedi’r cwbwl ganthyn nhw.”

“Ond cofia dithe, Mari,” meddai Lei yn ei dro, “mae arnyn nhw yr yden ni

yn dibynnu am y’n tamed——.”

“Tamed, wir!” ebe Mari Huws, “mi fase yn o ddrwg arnon ni am damed yn

elo dy ddeuddeg swllt yn yr wythnos di, mi rof ngair iti! Lle base’n

tamed ni oni bae mod i yn golchi tipyn ac yn manglo a smwddio dillad? Yn

wir, mae’n edifar iawn gen i na faswn i wedi gneud iti fynd i weithio at

y ffarmwrs ers talwm, a golchi tipyn yn chwaneg fy hun, gael i ni fod

fel rhyw bobol erill, yn lle dawnsio tendans i hen dacle’r Plas yna o

hyd o hyd!”

“Wel,” meddai Lei, “waeth iti gyfadde na pheidio ’mod i o leia yn cael

gwaith cyson ar hyd y blynydde ynte, yn lle bod weithie fel hyn ac

weithie fel arall.”

“Wyt, yr wyt yn cael gwaith cyson, mae’n wir,” meddai Mari, “ond yr wyt

ti wedi mynd yn un garfaglach wrth ostwng dy arre i ddiolch am dano fo,

ac y mae dy law di yn amlach wrth dy gap nag yn unman arall, yr hen

gynffon gen ti!”

“Paid a rhygnu a rhygnu fel yna o hyd, da thi,” meddai Lei yn druenus,

“oni bae fod yr eneth wedi cael mynd i’r Plas, fase hi ddim cystal arni

hi ag ydi hi heddyw, a fase hi ddim yn cael mis o rodio fel mae hi yn

cael, fel ’roedd hi yn deyd yn ei llythyr ddoe.”

“O, ie, mae hi yn dwad adre i bwyso arnom ni am fis eto,” ebr Mari, “yn

lle bod hefo’i gwaith fel y byddwn i yn ’i hoed hi——.”

“Ond mae’n siwr fod yn, dda gen ti wel’d dy ferch dy hun yn dwad adre

fel ledi?” meddai Lei.

“Mi fase yn llawer gwell gen i ei gweld hi yn dwad heibio ar ’i ffordd i

odro ne nol dwr,” ebr Mari, “a ffedog fras o’i blaen, ac ol gwaith ar ’i

dwylo hi, dyna’r cwbwl iti!”

“Rhag cwilydd iti son fel yna am dy ferch dy hun!” ebr Lei, yn gas.

“Dy ferch di ydi hi,” ebr Mari, “’does dim tebyg i’w mam ynddi. Ar fy

ngair i, pan oedd hi adref y llynedd, mi allaset feddwl na fuo hi ’rioed

yng Nghymru, efo’i Saesneg a’i llediaith, ac os bydd hi’r un fath eleni

cheiff hi ddim croeso yma, mi gymraf fy llw iti!”

“Wel, wel,” ebr Lei, ac aeth allan gan weled nad oedd ond ofer iddo

ddadlu â Mari yn hwy.

Fore drannoeth, daeth Catrin adref, a’i chariad o Loegr hefo hi. Pan

gyrhaeddasant y stesion, galwodd Catrin ar Dic Morus, oedd yn disgwyl am

rywun gyda’i gerbyd, i gario ei phethau a’i chariad a hithau o’r stesion

at y ty.

“Chi gwbod lle mae tad fi yn byw?” ebr Catrin wrth Dic.

Gwyddai Dic yn dda, ond dododd ei law wrth ei gap, edrychodd yn

ddifrifol, ac atebodd,—

“Rhoswch chi, ma’m, ai nid merch y Sgwier o’r Plas ydech chi?”

“Nage, nage!” ebr Catrin, “fi dim merch i’r Sgwier chwaith.”

“Wel, merch y person, ynte,” ebr Dic, gan gyffwrdd ei gap drachefn.

“Nage!” ebr Catrin, braidd yn flin.

“Wel,” meddai Dic yn ostyngedig, “’does yma neb arall yn yr ardal yma yn

gwisgo mor grand, ac yn siarad mor garpiog â chi.”

“Ceuwch y’ch hen geg, y cena hy gynnoch chi!” ebr Catrin gan anghofio ei

llediaith a’i chariad yn ei gwylltineb.

“Ho dyna well!” meddai Dic Morrus, “rhoswch chi, ai nid merch Lei Bach

Fawr ydech chi, deydwch——.”

Cyn iddo gael gorffen, yr oedd Catrin wedi rhoi iddo ergyd ar draws ei

warr â’i hymbarelo, ac yn dechreu ei flagardio nerth ei phen, mewn

cystal Cymraeg ag a glywyd nemor dro yn y lle. Neidiodd Dic i’w gerbyd,

cydiodd yn ei chwip ac yn yr afwynau.

“Ga’i ’ch dreifio chi, Miss?” meddai. “Deuswllt ydi’r pris, ac os na

neidiwch chi i fewn a thewi, mi fydd holl bobol y pentre yma yn gwrando

arnoch chi yn union!”

Gwelodd Catrin fod Dic yn dweyd y gwir, a chan beidio â ffraeo yn sydyn,

heliodd ei chariad a’i phaciau i’r cerbyd, ac aeth i mewn ar eu holau.

Cleciodd Dic ei chwip gan wenu, ac ymaith a hwy drwy ganol y twrr pobl

oedd yn dechreu hel o gwmpas i wel’d yr helynt.

Ac wrth basio, clywodd Catrin y geiriau “Merch Lei Bach Fawr, yn siwr i

chi, hefyd!”

Ond cododd Catrin ei thrwyn i’r awyr, a chymerodd arni beidio â’u

clywed. Yr oedd y cariad—dyn bach o Sais lled ofnog a diniwed,—wedi

synnu at Catrin yn taro Dic Morus â’i hymbarelo, ac at ei chlywed hithau

yn siarad iaith nas deallai ef, a hynny mor llithrig. Ar y ffordd

mentrodd ofyn iddi am eglurhad.

“O,” meddai Catrin, “un felly ydi’r hen gabmon yma, os na fyddwch chi yn

gas wrtho, wneiff o ddim byd yn iawn.”

“Ac ’roeddech chi yn siarad rhyw iaith ddiarth âg o—’roeddwn i yn

meddwl y’ch bod chi yn deyd na fedrech chi ddim o’r iaith honno y maent

yn ei siarad mewn rhai lleoedd yng Nghymru.”

“Wel,” ebr Catrin, “fedra i moni hi yn iawn, felly, er fod fy nhad a fy

mam yn ei medru.”

Pan ddaethant at y drws, daeth Mari Huws allan.

“Hylo,” meddai, “ac yr wyt ti wedi dwad, ’ddyliwn. Pwy ydi’r creadur

hyll yna sydd hefo ti?”

“’Rwan, mam,” meddai Catrin, gan siarad yn isel rhag i’r cariad ei

chlywed, “’rwan, mam, rhag i chi ddifetha bywyd y’ch merch, ceisiwch fod

yn o neis ’rwan. Dyma ’nghariad i ——.”

“O, a dyma dy gariad ti, aie?” meddai Mari Huws.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 23 / 35 题