X. CI DAFYDD TOMOS.

FFERMWR bychan oedd Dafydd Tomos, yn byw ar ystad y Gaer ac yn talu

crogrent am ei dipyn tir. Y pryd hwnnw, yr oedd ar denantiaid ystad y

Gaer ofn y meistr tir a’i ystiward fel gwyr â chleddyfau, ac o’r holl

denantiaid i gyd, Dafydd Tomos oedd y mwyaf ei ofn a’i waseiddiwch

hefyd, os rhaid dywedyd y gwir yn blaen. Dyn bychan, arafaidd a

gochelgar dros ben oedd Dafydd Tomos, mab i dad a wnaed yn gynffonllyd

drwy ormes, ac yntau drachefn yn fab i dad yr un fath. Yr oedd oesau o

ddioddef gormes wedi gwneud y teulu yn salach a mwy dianibyniaeth hyd yn

oed na’r cyffredin,—yr oedd ofn a gwaseiddiwch yn eu gwaed, megis. Hen

lanc oedd Dafydd, a’i chwaer Catrin yn cadw ei dŷ. Pe buasai yn wr priod

a chanddo blant, hwyrach y buasai ynddo dipyn mwy o asgwrn cefn, ond fel

yr oedd, nid oedd gan Dafydd odid amcan mewn bywyd amgen na cheisio cadw

y ddysgl yn wastad i’w feistr tir a’i ystiward.

Byddai ar holl ffermwyr yr ardal fwy neu lai o ofn y meistr tir a’r

ystiward, fel y dywedwyd, ond nid cymaint fel na feiddient eu rhegi

rhyngddynt a’i gilydd, a dywedyd pethau beiddgar am danynt, yn enwedig

ar ddiwrnod ffair neu farchnad, ar ol cael llymed neu ddau o gwrw

cartref yn nhafarn y Cwch Gwenyn. Ond am Dafydd Tomos, ni chlywyd erioed

mono ef yn rhegi ei ormeswyr, nac yn dywedyd gair am danynt hyd yn oed

pan fyddai ar ddamwain wedi yfed yn o helaeth. Gweithiai Dafydd yn galed

o naill ben y flwyddyn i’r llall; byddai wrthi yn hwyr ac yn fore;

bywiai yn gynnil iawn, a chrafangai bob ceiniog ynghyd o bob man y

gallai; prin y cai ei chwaer ddigon o fwyd a dillad ganddo. Ac eto, nid

cybydd oedd Dafydd ychwaith. Hel y rhent ynghyd yr ydoedd. Os byddai

ganddo swllt neu ddau yn weddill ar ol talu’r rhent, ni byddai ganddo

wrthwynebiad i’w wario ei hun ar dipyn o gwrw neu i’w roi i’w chwaer at

gael deunydd ffedogau neu rywbeth felly. Ac anaml iawn y byddai gan

Dafydd geiniog dros ben y rhent.

Tŷ a beudai to gwellt oedd ar fferm Dafydd, a’r rhai hynny heb eu taclu

na’u trwsio ers blynyddoedd lawer. Yr oedd y gwellt ar do’r tŷ wedi

braenu nes oedd yn wir yn debycach i domen dail nag i do gwellt. Ni

ofynnodd Dafydd erioed am do newydd ar ei dŷ, a buasai’n lled sicr o

gael ei droi o’i ffarm pe buasai yn gofyn. Dyma a ddigwyddodd i fwy nag

un o’i gymdogion pan feiddiasant gwyno fod eu tai yn anghymwys i neb fyw

ynddynt—trowyd hwy ymaith a chwanegwyd y tir at ffermydd ereill, pa un

bynnag a oedd ar y ffermwyr hynny eu heisiau ai peidio. Felly, gwell gan

Dafydd Tomos fyw yn yr hen gwt budr a thomen dail yn lle to iddo, na

gorfod gadael yr hen gartref a mynd i fyw i rywle arall.

Yr oedd Dafydd yn ddyn eithaf caredig yn ei ffordd, cyhyd ag na byddai

raid i’w garedigrwydd fynd yn groes i’w ofn rhag ei feistr tir. Os

digwyddai hynny, ni byddai wiw disgwyl am unrhyw garedigrwydd oddiar ei

law. Cred ei gymdogion am dano oedd y buasai yn gwerthu ei chwaer ei hun

cyn y buasai yn rhedeg i’r perigl o dynnu gwg ei feistr tir am ei ben.

Hwyrach fod pobl yn dywedyd felly am nad oedd rhyw lawer o dda rhwng

Dafydd â’i chwaer yn gyffredin. Byddent yn ffraeo yn barhaus, ac un

rheswm am hynny oedd fod Beti Tomos gryn lawer yn fwy anibynnol na’i

brawd. Yn wir, byddai Dafydd mewn ofnau parhaus rhag i rai o ddywediadau

cras Beti ei chwaer gyrraedd i glustiau y meistr tir neu yr ystiward.

Nid oedd ddeilen ar dafod Beti, ac nid oedd ganddi ddaint rhag ei thafod

ychwaith. Dywedai pa beth bynnag a ddeuai i’w meddwl yn hollol wyneb

agored a byddai Dafydd yn aml yn ddigllon iawn wrthi am hynny.

Rhwng popeth, gŵr go ddi-gyfaill ydoedd Dafydd Tomos. Prin yr oedd ei

gymdogion yn ei gymryd o ddifrif, ac yr oedd ei chwaer ei hun yn ei

ddirmygu oherwydd ei lyfrdra.

“Yr hen gadi,” ebr hi wrtho yn fynych iawn, “yr hen gadi gen ti! Rhaid i

ni wneud pais iti, ond y munud y rhoi di hi am danat, mi fydd yn bryd i

ninne y merched wisgo clos!”

“’Rwyt ti’n gwisgo clos eisoes, Beti, wedyn taw a dy swn!” meddai

Dafydd.

“Yn wir,” meddai Beti, “mae’n dda iawn i ti fod gen ti rywun i’w wisgo

fo!”

Ni byddai waeth i Dafydd heb daeru â’i chwaer, ac mewn gwirionedd yr

oedd arno ofn gwneud hynny. Pan ddechreuai Beti ei ffraeo, y peth goreu

y gallai efô ei wneud fyddai ei gwadnu ymaith rhag blaen, a mynd i

chwilio am Pero, ei gi.

A Phero, y ci, oedd unig gyfaill Dafydd Tomos. Cymerodd y ci ef dan ei

nawdd mewn dull lled anghyffredin. ’Roedd Dafydd wedi mynd i’r ffair un

tro, ac wedi yfed yn o helaeth, ar gost cymydog yn fwy nag ar ei gost ei

hun. Rywsut neu gilydd, aeth Dafydd allan o’r dafarn a chrwydrodd tua’r

stablau. Yno, cysgodd, am oriau lawer, ac erbyn iddo ddeffro, dyna lle

yr oedd y ci yn gorwedd yn ei ymyl, ac yn barod i draflyncu pwy bynnag a

ddeuai yn agos ato. Aeth y ci gydag ef adref. Ar y cyntaf, yr oedd

Dafydd braidd yn awyddus i’w droi ymaith, gan na wyddai sut i gael digon

o fwyd iddo, ond ni fynnai Pero fynd ymaith, a’r diwedd fu i Dafydd

Tomos ac yntau fynd yn gyfeillion mawr. Ni byddai wiw i neb osio gwneud

dim i Dafydd os byddai Pero yn agos, ac yr oedd son fod Dafydd fwy nag

unwaith wedi mentro amddiffyn ei gi rhag cam driniaeth.

Bu’r ddau felly yn gyfeillion am flynyddoedd lawer. Byddent gyda’i

gilydd bob amser. Os gwelid Dafydd yn unman, gellid bod yn sicr fod Pero

yn agos, a lle bynnag y byddai Pero, ni byddai Dafydd byth ymhell. Ni

fwytâi Dafydd byth bryd o fwyd heb ei rannu â Phero, ac nid yfai hyd yn

oed lasied o gwrw heb gynnyg llymed i’r ci. Nid oedd dda gan Bero mo’r

cwrw, ond ni wrthodai byth gymryd arno ei brofi er mwyn plesio Dafydd.

Pan fyddai Dafydd yn mygu ei bibell, eisteddai Pero ar lawr o’i flaen i

edrych arno, cystal a dyweyd fod arno yntau eisiau pibell, ac o’r diwedd

dysgodd Dafydd ef i gario pibell rhwng ei ddannedd. Byddai pobl yr ardal

yn ei ystyried yn beth digrif iawn weled Dafydd Tomos a Phero yn mynd

bob un a’i bibell yn ei geg. Ni byddai dybaco ym mhibell Pero, mae’n

wir, ond byddai’n rhaid iddo ei chael bob amser pan fyddai Dafydd yn

mygu.

Un diwrnod, cafodd Pero flas ar ddal cwnhingod. Yr oedd yn bechod ar

ffarmwr ddal cwnhingen y pryd hwnnw, a chafodd Dafydd Tomos fraw mawr

pan welodd Pero yn dyfod tuag ato a chwnhingen rhwng ei ddannedd.

Meddyliodd am saethu’r ci, druan, yn y fan, ond troes ei galon yn sal

gyda bod y peth wedi mynd drwy ei feddwl. Tybiodd mai gwell fyddai iddo

ei werthu neu ei roi i rywun yn hytrach na’i ladd. Ond ni fedrai

ddygymod ychwaith â’r meddwl am werthu Pero na’i roi i neb arall.

Ceisiodd obeithio na ddaliai Pero ddim rhagor o gwningod, ac nad oedd

neb hyd hynny wedi ei weled yn dal rhai. Ond wedi cael blas arni, nid

oedd Pero am roi’r goreu iddi. Prin yr oedd diwrnod yn mynd heibio heb i

Pero ddyfod â chwnhingen neu ddwy i Dafydd Tomos. Ac ni wyddai Dafydd ar

y ddaear pa beth i’w wneud. Meddyliodd drachefn y byddai raid iddo

saethu Pero neu ynte ei werthu neu ei roi. Un noswaith, wedi i’r ci ddal

dwy gwnhingen a’u dwyn at y ty, aeth Dafydd i’w wely yn dra chythryblus

ac ofnus. Yr oedd rhywbeth fel pe’n dywedyd wrtho fod Pero wedi tynnu ar

ei ben yr hyn y bu efô yn ei ofni ar hyd ei oes—dialedd y meistr tir.

Yr oedd y ceidwad helwriaeth yn sicr o fod wedi gweled Pero yn cario un

o’r cwnhingod at y ty, ac felly yr oedd hi ar ben ar Dafydd Tomos druan.

Bu Dafydd yn effro tan y bore, yn ceisio penderfynu pa beth i’w wneud â

Phero. Wedi meddwl a meddwl, daeth o’r diwedd i’r penderfyniad mai yr

unig beth i’w wneud oedd ei werthu os cai rywbeth am dano, ac os na

chai, fod yn rhaid ei roi i rywun. Cododd o’i wely yn y bore wedi

penderfynu, ond cyn pen yr awr yr oedd wedi torri ei benderfyniad

drachefn.

“Be’ gebyst oedd arna i?” meddai wrtho ei hun, “sut na baswn i wedi

meddwl o’r blaen am roi cadwyn am ei wddw fo, a’i gadw fo rhag mynd i

grwydro?”

Wedi i’r syniad hwn ddyfod i’w feddwl, bu Dafydd yn llawer tawelach, a

rhoed coler am wddw Pero, a rhwymwyd ef wrth gadwyn yn ddi-oed. Bu felly

am rai wythnosau, heb gael bod yn rhydd ond pan fyddai yn mynd gyda

Dafydd i hel defaid neu rywbeth felly. O dipyn i beth, aeth ofnau Dafydd

yn llai,: a chai Pero fwy o ryddid drachefn, ond ni wnaeth well defnydd

o’i ryddid nag o’r blaen. Y cyfle cyntaf a gafodd, aeth ati i ddal

cwningod drachefn, a’r tro hwn daeth pethau i ben.

Yr oedd y ceidwad helwriaeth wedi gweled Pero yn dal cwnhingod, ond er

pan gadwasai Dafydd ef wrth gadwyn, nid oedd wedi cael cyfle i’w saethu.

Un diwrnod, yr oedd Dafydd wedi mynd i edrych am y defaid, a Phero gydag

ef. Gofalai gadw y ci yn ei olwg o hyd, ond rywfodd, wrth ddychwelyd

tuag adref, anghofiodd am funud, a rhedodd Pero ar ol cwnhingen. Clywodd

Dafydd ef toc yn cyfarth yn y pellter, troes ei ben, a gwelodd ef yn

rhedeg gyda chlawdd cae beth pellter oddiwrtho. Yr oedd Dafydd ar fedr

chwibanu arno pryd y gwelodd bwff o fwg, clywodd glec, a gwelodd Pero yn

rhoi naid i’r awyr, gwegian yn ei flaen am gam neu ddau, ac yna yn

syrthio ar lawr.

Heb betruso munud, rhedodd Dafydd tuag ato, ac wrth fynd, gwelodd

geidwad yr helwriaeth yn cerdded ymaith a’i wn ar ei ysgwydd.

Cyrhaeddodd Dafydd at Pero o’r diwedd, yn ddigon buan i weld ei lygad yn

cau a’r chwythad olaf bron a’i adael.

“Pero!” ebr Dafydd, a chrec yn ei lais.

Agorodd Pero ei lygad ac edrychodd ar ei gyfaill, gyda golwg drist,

erfyniol, cystal a dywedyd wrtho pa beth oedd wedi digwydd a gofyn iddo

ddial ei gam.

Tyngodd Dafydd ac yna, penlinodd yn ymyl ei gi a’i gyfaill. Yr oedd

gwaed yn llifo o’i ystlys, ac ym mhen eiliad neu ddau, yr oedd Pero wedi

marw. Wylodd Dafydd uwch ei ben, yna cododd a chariodd o yn dyner yn ei

freichiau adref. Torrodd fedd iddo yn yr ardd a chladdodd ef yn barchus.

Wedi ei gladdu, bu’n sefyll yn hir uwch ben ei fodd, ae yna, caeodd ei

ddwrn, a dywedodd,—

“Yfory!”

Drannoeth yn gynnar, yr oedd Dafydd wrth ddrws tŷ Sion Huws, heliwr

pennaf y pentref. Daeth Sion i’r drws, ac wedi ymddiddan byrr, aeth

Dafydd ymaith â gwnn Sion Huws ar ei ysgwydd. Aeth ar draws y caeau, ac

wedi cyrraedd man neilltuol, safodd. Toc, daeth y ceidwad helwriaeth i’r

golwg, a chi mawr, ci tan gamp a gwerth arian mawr, ym marn ei feistr,

gydag o. Cododd Dafydd ei wnn, anelodd, a saethodd. Syrthiodd y ci

gwerthfawr wrth draed y cipar, a bwled drwy ei galon. Cerddodd Dafydd

ymaith heb ddywedyd gair.

Do, collodd Dafydd ei ffarm, ond bu fyw yn llawn gwell ar ol hynny. Ac y

mae son am ei orchest yn yr ardal hyd heddyw.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 22 / 35 题