Yna, cododd ei phen a gwaeddodd ar ei gŵr—

“’Rwan, Wil, benbwl, tyn y llinyn yma i fyny atat!”

Tynnodd Wil y llinyn i fyny yn chwyrn, ac wedi iddo gael ei ben i’w law,

stopiodd.

“’Rwan ynte,” ebr y wraig, “ble mae y rhaff honno!”

Dygwyd y rhaff iddi rhag blaen, a chylymodd hithau hi wrth flaen y

llinyn.

“Tyn hi i fyny ’rwan, ynte, y catffwl gen ti!” ebr hi.

A thynnodd Wil y rhaff i fyny eto i ben y simnai.

Pan gafodd afael ar y rhaff, neidiodd ar ei draed ar ben y simnai

drachefn, dawnsiodd o gwmpas yr ymyl, safodd ar ei untroed fel o’r

blaen, a’i gap yn un llaw a’r rhaff yn y llall, a gwaeddodd a’i holl

egni—

“Hwre i’r hen wraig, myn cebyst hefyd!”

A gwaeddodd y dynion ar lawr dair hwre egniol i’r “hen wraig.”

Yr oedd hithau yn sefyll ar y darn pren a’i breichiau ymhleth, heb wên

ar ei hwyneb. Cododd ei llais yn sydyn.

“Wil,” ebe hir, “tyrd i lawr, y cena gwirion gen ti. ’Rydw i wedi achub

dy fywyd di chwe gwaith yrwan. Wna i ddim eto, fel mai byw fi!”

Cyn pen dau funud, diflannodd Wil y tu mewn i’r simnai, ac ymhen eiliad

neu ddau wedyn, yr oedd ar lawr yn ymyl ei wraig.

“Myn cebyst!” ebe fo, “wyddost ti be, Catrin, mae’n aflwydd o gwilydd i

mi fod wedi duo dy lygada di fel yna, ydi, tawn i’n marw y munud yma!

Tyrd, wna i byth eto!”

A chan ruthro ati, taflodd ei freichiau am dani, a chusanodd ei hwyneb

hanner glân yn ffyrnig ac yn hir.

Ac edrychodd y bobl ar y ddau mewn syndod.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 19 / 35 题