“Wil! Wil!”
“Be sydd?” ebr yntau, gan blygu uwch ben y dyfnder.
“Pa sane sydd gen ti?”
“Y sane gwlan newydd rheiny.”
“O’r gore. ’Roeddwn i yn meddwl. Oes gen ti gyllell?”
“Oes?”
“Wel, tyn dy esgid.”
Tynnodd Wil ei esgid a thaflodd hi i lawr, nes oedd yn ymgladdu mewn swp
o dywod wrth odre’r simnai.
“Yrwan, tyn dy hosan,” meddai’r wraig.
Tynnodd Wil ei hosan, ond yr oedd yn amlwg na wyddai pa beth oedd ym
meddwl ei wraig.
“’Rwan,” ebr hithau, “cymer dy gyllell a datod flaen yr hosan a thyn yr
ede allan dipyn.”
Gwnaeth Wil felly.
“Dyna ti,” ebr y wraig. “’Rwan, cymer dy gyllell a rhwyma hi wrth flaen
yr ede, a gollwng hi i lawr yn ara deg. Cymer ofal, ’rwan, y penbwl!”
Gwnaeth Wil fel y gorchmynnwyd iddo, a dechreuodd y gyllell ddyfod i
lawr yn araf.
Tra yr oedd hyn yn digwydd, galwodd y wraig ar yr hogyn, a dywedodd
rywbeth wrtho. Gwelwyd yr hogyn yntau yn carlamu ymaith yn ddioed.
Cyn pen ychydig eiliadan, yr oedd y gyllell wedi cyrraedd y llawr, a’r
gweddill o’r hosan oedd heb ddatod yn llaw Wil ar ben y simnai.
“Feder o byth dynnu’r rhaff i fyny gerfydd yr ede wlan yna!” meddai un
o’r gweithwyr ar lawr.
“Na feder, siwr,” ebr y ddynes, “ond rhoswch chi funud ——”
Ar hynny carlamodd yr hogyn i’r lle yn ei ol, a phellen o linyn go gryf
yn ei law.
“Dyna fo i’r dim!” ebr y wraig, gan gipio’r bellen o law yr hogyn.
Datododd y gyllell oddi wrth flaen yr edef, a rhwymodd flaen y llinyn
wrthi.