IX. Y BARDD.

‟Y BARDD” y byddem i gyd yn ei alw yn y siop. Yr oedd rhywbeth yn debyg

i fardd yn ei olwg, a dyna sut y cafodd yr enw. Yr oedd yn hurt ac yn

syn, a phan ddywedech rywbeth wrtho, caech ateb hollol chwithig yn aml.

Felly, galwasom ef yn “Fardd.”

’Doedd o i hun ddim wedi meddwl i fod yn fardd cyn hynny ychwaith. Ar y

dechre, ’doedd o ddim yn leicio’r enw, ond prin y bu ddeuddydd nad oedd

o wedi’n credu ni. Hynny ydi, yr oedd wedi llwyr benderfynu mai bardd

oedd o.

Gyda’i fod o wedi credu i fod yn fardd, cafodd allan fod i daid yn arfer

gwneud rhigymau yn amal iawn, a bod i dad unwaith wedi bod yn astudio’r

cynghaneddion, ond i fod o wedi rhoi’r gore iddi yn rhy fuan o lawer, a

hynny yn bennaf am nad oedd ganddo amser.

Mwy na hynny. O’r dydd y credodd i fod o yn Fardd, ni thorrodd “Y Bardd”

byth mo’i wallt. Yr oedd o braidd yn hir o’r blaen, ond cyn pen y mis,

yr oedd ganddo wallt a fuasai’n gredyd i Archdderwydd unrhyw ddydd. A

’doedd dim byd i’w gael ganddo wedyn ond son am wneud englynion, a

dywedyd rhyw eiriau gwirion wrthych, a’r rheiny yn ateb i’w gilydd,

rywsut. Meddai fo. Ni byddai neb arall yn clywed eu bod yn ateb i ddim.

Wel, o’r diwedd, cafodd Y Bardd ryw lyfr yr oedd o yn i alw yn “Ysgol

Farddol,” a dyna lle’r oedd o a’i drwyn yn hwnnw o hyd. Bu agos iddo

golli i le lawer gwaith o achos y llyfr hwnnw, canys byddai y meistr yn

ei ddal o a’i drwyn ynddo yn lle bod wrth ei waith.

Bu wrthi gyda’r llyfr hwnnw am fisoedd, sut bynnag. Pan aem ni i gysgu,

byddai y Bardd wrthi gyda’r llyfr, a phan ddeffroem yn y bore, dyna lle

byddai yn darllen y llyfr o hyd. Nid wn i ddim yn iawn a fyddai yn cysgu

ai peidio. ’Doedd dim i’w gael ganddo ond son am ryw reolau a phethau

felly, nes oedd pawb ohonom wedi diflasu arno, ac yn gofidio yn arw ein

bod wedi ei berswadio i gredu ei fod yn fardd. Ond ’doedd mo’r help

bellach. Yr oedd o wedi credu. Ac ni buasai dim yn y byd yn ei

argyhoeddi i’r gwrthwyneb. Dyna’r drwg i ddyn gredu ei fod yn fardd. Ni

fynn byth newid ei feddwl wedyan. A fo yn gyffredin fydd yr unig un heb

ei newid ar y pen hwnnw. Felly yr oedd Y Bardd.

O’r diwedd, meddyliodd un ohonom am ddull i geisio symud tipyn arno. A

dyna oedd y dull hwnnw, gofyn iddo wneud englyn, yn lle son am danynt

fyth a hefyd. Cafodd y peth argraff fawr arno a dywedodd yn y fan y

gwnae o un y noswaith honno, os cai hwyl, neu os doi yr awen ato, fel y

dywedodd i hun.

Bu ar i draed drwy’r nos, ond erbyn y bore, ’doedd yr englyn ddim yn

barod. Ni ddoi yr awen ddim, eb efô. Felly, bu raid rhoi ail gynnyg

arni. Do, a thrydydd a phedwerydd hefyd, a chwaneg na hynny. Bu ar i

draed bob nos am wythnos gyfa, ac o’r diwedd, fore’r seithfed dydd, dyma

fo atom, a’i lygaid yn goleuo gan lawenydd ac athrylith.

“Yr ydw i wedi gorffen yr englyn o’r diwedd!” eb efô.

“Aie?” eb un ohonom, “gad i ni i glywed o, ynte.”

“Na chewch,” ebr y Bardd yn fawreddog, “chewch chi mo’i glywed o, na’i

weld o ychwaith nes bydd o mewn print.”

“Mewn print?” eb un arall, “pwy printiff o, dywed? Wyt ti am i wneud o

yn llyfr?”

Chwarddodd y Philistiaid gennym, ond edrychodd Y Bardd yn ddifrifol

iawn, a dywedodd yn urddasol fod ei englyn ef yn sicr o gael ei brintio.

“Ym mhle, dywed?” ebr un o’r criw.

“Yn _Y Lleuad_, dyna lle bydd o,” ebr y Bardd, “yng ngholofn farddonol

_Y Lleuad_, sydd dan olygiaeth y Bardd Cadeiriol Pastynfardd.”

Edrychasom oll arno gyda chryn syndod erbyn hyn. Tybed mewn difrif y

byddai englyn Y Bardd yn _Y Lleuad_, o dan olygiaeth Pastynfardd? Yr

oeddym braidd yn ameu a oedd y fath beth yn bosibl, ac yn dechreu rhyw

led dybio y gallai ein bod wedi dyfod o hyd i fardd wedi’r cwbl, er mai

o fregedd yr oeddym ni wedi rhoi’r enw arno.

Gwelodd Y Bardd ein bod yn synnu, a dywedodd yn ddifrifol i fod wedi

ysgrifennu’r englyn ar ddarn o bapur te a’i ddanfon i Pastynfardd,

golygydd barddonol _Y Lleuad_.

“Mi fydd i mewn yr wythnos nesaf, yn siwr i chi,” meddai, “englyn i’r

Ysgol Sul ydi o.”

Wel, bu disgwyl mawr ar hyd yr wythnos honno. Yr oedd _Y Lleuad_ yn

codi—hynny ydi, yn dyfod allan ar ddydd Mercher. Ac fel yr oedd y

diwrnod yn nesu, yr oedd Y Bardd yn mynd yn fwy urddasol o hyd. Prin y

gwrandawai arnom ni, yr hogiau ereill, yn siarad, ac ni ddeuai cymaint a

gwên dros ei wyneb pan ddywedem rywbeth mwy neu lai digrif. Yn ystod yr

wythnos honno, rhoes sebon i bobl yn lle siwgr, ac oel paraffin yn lle

ymenyn. Aeth i’w wely heb dynnu am dano un noswaith, a dododd ei wasgod

o tan ei grys un bore. Ni bu erioed y fath ddisgwyl.

O’r diwedd, daeth dydd Mercher.

Brecwest? Na, ni chyffyrddodd Y Bardd damed o fwyd y bore hwnnw, nac o

ginio ychwaith.

’Roedd _Y Lleuad_ yn dyfod allan yn y prynhawn, tua thri o’r gloch, ac

fel yr oedd yn digwydd bod, yr oedd Y Bardd wrthi yn gwneud neges rhywun

i fyny ar y pryd. Cododd ei olwg arnaf fi pan glywodd y cloc mawr yn

taro tri, a deallais innau ei feddwl. Gan fy mod yn rhydd, allan a mi i

nol copi o’r _Lleuad_, er ei fwyn ef a phawh arall ohonom. Nid allasai

neb byth anufuddhau i’r apel fud oedd ar ei wyneb pan edrychodd arnaf fi

wrth glywed y cloc yn taro tri. Yr oedd yr un fath a’r apel a welsoch yn

llygad ambell gi ar dro.

Rhedais i siop Huw Chwe Cheiniog i nol y _Lleuad_, ac yn fy ol â mi a’r

trysor yn fy llaw, heb feiddio ei agor ar y ffordd. Erbyn i mi gyrraedd,

yr oedd y siop yn llawn, a’r Bardd wrthi yn tendio ar Marged Jones y Geg

Fawr, un o’r merched mwyaf anodd i’w phlesio yn y greadigaeth yma.

Gwelodd Y Bardd fi yn llithro i mewn, a bwriodd olwg arnaf, golwg cymysg

o awydd a phoen, o deimlad da ataf fi ac o gasineb marwol at Marged

Jones y Geg Fawr. Yr oeddwn yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Nid oedd raid i

ddyn fod ar frys am weled ei waith mewn print er mwyn dymuno gweled y

Geg Fawr yn mynd ymaith ——, i’r lle fynnoch chi.

Y tro hwnnw, bu’r Geg Fawr wrthi yn waeth nag arfer. Yr oedd arni eisiau

pob math o bethau, a’r Bardd druan yn rhedeg yn ol a blaen ac yn cymysgu

pethau yn ddiobaith o hyd, ac yna yn rhoi ei ddwy law ar y cownter, yn

plygu tipyn ar ei ben at un ochr, ac yn gofyn, “Rhywbeth arall, os

gwelwch chi yn dda,” a’r wên fwyaf drychiolaethus ar ei wyneb llwyd.

Ond o’r diwedd, fel popeth arall yn y byd hwn, fe ddarfu chwedl y Geg

Fawr, ac o dipyn i beth, cliriodd y siop. Bellach, daeth y cyfle. Yr

oedd Y Bardd i weled ei waith mewn print, ac yr oeddym ninnau i gyd i

gael clywed yr englyn i’r Ysgol Sul.

Tyrasom i ben draw’r siop at Y Bardd. Yr oeddym oll yn dal ein gwynt

bron. Yr oedd wyneb Y Bardd yn welw a’i wefusau a’i ddwylaw yn crynu.

Estynnais y papur iddo, ond yr oedd ei deimladau yn rhy gynhyrfus iddo

fedru ei agor ei hun. O leiaf, yr oedd ei ddwylaw yn rhy grynedig.

“Darllen di o, Wil,” meddai wrthyf fi, gan estyn y papur i mi yn ol.

Cymerais innau’r papur ac agorais ef, a throais at y tu dalen lle’r oedd

y farddoniaeth.

Yr oedd pawb yn dal eu gwynt.

Rhedais fy llygaid i lawr hyd y golofn. Nid oedd yno ddim barddoniaeth

i’r Ysgol Sul.

“’Does yma ddim englyn i’r. Ysgol Sul,” meddwn, gan edrych ar Y Bardd.

Gwelwodd ei wyneb dipyn mwy nag o’r blaen.

“O, hwyrach eu bod nhw wedi ei gadw fo tan yr wythnos nesa,” ebr Y

Bardd. “Edrych yn nhop y golofn, ydi’r golygydd ddim yn deyd rhywbeth am

yr englyn?”

Edrychais innau, ac yn wir, gwelwn baragraff am yr englyn.

“Ydi, mae o’n deyd rhywbeth,” meddwn.

“Darllen o,” ebr Y Bardd, a’i wyneb yn troi’n goch fel y tân.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 20 / 35 题