Clywyd llais Wil yn dyfod i lawr o’r uchter,—

“Be wna i ’rwan, hogia? Mae’r rhaff wedi rhedeg i lawr!”

Dychrynwyd hwy i gyd ar y cyntaf. Pa fodd y doi Wil i lawr? Nid oedd ond

un ffordd am dani. Rhaid codi’r ysgaffaldiau i gyd yn eu holau!

Gwaeddasant arno fod yn llonydd yno, a dechreuasant ddyfod a’r coed a’r

rhaffau ar eu holau at fôn y simnai.

Y funud honno, dechreuodd pobl dyrru i’r lle o’r pentref ger llaw. Yr

oedd yr hanes wedi ymledu yn gyflym, ac yr oedd y bobl mewn dychryn wrth

edrych i fyny a gweled lle’r oedd y dyn, heb foddion yn y byd i ddyfod i

lawr oddi yno. Gwyddent am orchestion y dyn, ond yr oeddynt yn awr yn

dechreu meddwl ei fod wedi “ei gwneud hi,” ac wedi mynd i le rhy

beryglus hyd yn oed iddo yntau fedru dyfod ohono yn ddiogel. Yr oeddynt

yn sefyll yn dyrrau o gwmpas ac yn siarad â’i gilydd yn ei gylch, yn

rhyw hanner distaw, fel y bydd pobl yn siarad mewn claddedigaeth neu o

gwmpas gwely dyn ar farw.

Drwy eu canol, rhedodd dynes a hogyn bychan i’r lle. Yr oedd yn amlwg

fod y ddynes mewn cryn gyffro, ond pan welodd hi Wil yn eistedd yn dawel

ar ymyl y simnai a’i droed drosodd, tawelodd hithau hefyd.

“Wedi bod yn chware castie gwirion fel arfer y mae o?” meddai hi.

“Ie, y rhaff wedi rhedeg,” ebr un o’r dynion ger llaw.

“Be wnewch chwi ’rwan, ynte?” ebr hi.

“Codi’r ysgaiffaldie yn ol,” meddai’r dyn. “Beth arall wnawn i?”

Safodd y ddynes o’r neilltu, yn syn.

Gwraig Wil oedd hi. Yr oedd yr hogyn bach wedi bod yn chware o gwmpas

drwy’r dydd. Teulu crwydr oeddynt, ac nid oedd y plentyn yn mynd i’r

ysgol. Pan welodd y bychan pa beth oedd wedi dyfod i ran ei dad, rhedodd

adref ar ei gyfer a dywedodd wrth ei fam pa beth oedd wedi digwydd. A

daeth hithau yno rhag blaen, er mai prin y disgwyliai fedru gwneud dim

ond edrych ar Wil yn ei berigl ymhen y simnai.

Yr oedd y dynion wrthi yn brysur yn paratoi at ail godi’r ysgaffaldiau.

Pa beth arall oedd i’w wneud? Llafur mawr, a hynny o achos gwrhydri

gwyllt y dyn ar y brig!

“Yr hen benbwl gynno fo!” ebr un o’r dynion.

“Ie,” meddai un arall, “mi fase’n hawdd ddigon iddo fo golli gafel i

draed a dwad i lawr ar i ben.”

“Base, ag eitha gwaith a fo, mewn rhyw ffordd hefyd!”

“Ie. Edrych mor ddi-daro y mae’r cena yn y fan acw!”

Tra’r oedd yr ymddiddan yn mynd ymlaen, yr oedd y ddynes wedi eistedd ar

ddarn o bren ger llaw.

Bu hi unwaith yn ddynes hardd, yr oedd yn amlwg. Yr oedd ganddi wallt

melyngoch hir a chyrliog, ond ei fod wedi colli ei ddisgleirdeb oherwydd

bod yn hir heb ei olchi a’i gribo. Yr oedd ganddi lygaid gleision

prydferth, ond yn awr, yr oedd cleisiau duon oddi tanynt. A’r dyn oedd

ar frig y simnai a roes y cleisiau iddi hefyd, yn ei ddiod y nos Sadwrn

cynt. Nid oedd hi eto ond dydd Mercher, ac nid oedd y cleisiau wedi

colli eu lliw dugoch. Yr oedd Wil yn eithaf dyn yn sobr. Ond gwae bawb

rhagddo yn ei ddiod.

Yn sydyn, cyfododd y wraig ar ei thraed ac edrychodd i fyny ar ei gwr yn

yr uchter mawr.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 17 / 35 题