YR oedd y simnai fawr wedi ei gorffen, un o’r rhai mwyaf yn yr holl
wlad. Yr oedd mor uchel fel yr oedd edrych arni o’r gwaelod yn ddigon i
godi’r bendro ar ddyn.
Yr oedd yr holl ysgaffaldiau wedi eu tynnu i lawr, ac yr oedd un dyn ar
ben y simnai, un o’r dynion hynny sy’n medru sefyll mewn lle uchel mor
ddi daro âg ar lawr. Yr oedd yn gorffen gosod y wifren oedd yn rhedeg
gyda’r simnai o’r brig i’r bôn i dynnu’r mellt ati a’u harwain i’r
ddaear rhag difrod i’r simnai. Yr oedd ganddo raff oddi mewn i’r simnai
i fynd i lawr pan fyddai yntau wedi gorffen ei waith.
Yr oedd y gweithwyr eraill wrthi yn clirio’r ysgaffaldiau ar y gwaelod,
ac ambell un obonynt yn awr ac yn y man yn edrych i fyny tua brig y
simnai gan gysgodi ei lygaid â’i law, i weled pa fodd yr oedd y dyn ar y
brig yn dyfod ymlaen gyda’i waith.
O’r diwedd, gorffennodd hwnnw ei orchwyl. Cododd ar ei draed, safodd ar
ymyl y simnai, tynnodd ei gap a gwaeddodd “Hwre!” Gwaeddodd y dynion ar
lawr “Hwre!” yr un modd, gan chwifio eu capiau hwythau.
Yr oedd y dyn ar y brig yn un mentrus. Grwaeth na hynny, yr oedd yn un
gorchestol. Safodd ar yr ymyl, ar ei untroed, a’i droed arall allan dros
y dibyn a’i law ar led yn chwifio ei gap, a’r llaw arall yn pwyso ar ei
ystlys, yn ddi-daro.
Troes amryw o’r dynion oedd ar lawr eu golygon draw rhag edrych arno. Yr
oedd fel pe buasai yn herio ffawd yn y fath le, ac wrth wneud y fath
branc. Gwelodd yntau ei fod yn rhoi braw iddynt. Chwarddodd, a
dechreuodd ddawnsio ar yr ymyl, a throi o gwmpas rhimyn cul y simnai,
mor chwim a di-daro ag aderyn.
“Cymer ofal, Wil!” llefodd un o’r dynion oedd ar lawr, “cymer ofal rhag
ofn iti syrthio!”
Ond yr oedd Wil yn ei elfen, chwarddodd drachefn, a daliodd ati i
brancio ar ben y simnai nes oedd ei gydweithwyr yn dechreu mynd yn sal
eu calon wrth ei weled.
Yna, yn sydyn, daeth cyfnewidiad dros Wil. Yr oedd wedi plygu i lawr i
edrych i mewn i’r simnai, ac yna wedi codi a sefyll, ac yr oedd bellach
yn edrych yn syn ar y dyfnder tano.
Pa beth oedd wedi digwydd?