XIX.

ALAW,—_Bugail Aberdyfi_.

Mi geisiaf eto ganu cân,

I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,

I’r gadair siglo ger y tân,

Ar fynydd Aberdyfi;

Paham, fy ngeneth hoff, paham,

Gadewaist fi a’th blant dinam?

Mae Arthur bach yn galw ’i fam,

A’i galon bron a thorri;

Mae ’r ddau oen llawaeth yn y llwyn,

A’r plant yn chware efo ’r ŵyn;

O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,

I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion mwliog du

Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:

O! agor eto ddrws y tŷ,

Ar fynydd Aberdyfi.

O! na chaet glywed gweddi dlos

Dy Arthur bach cyn cysgu ’r nos,

A’i ruddiau bychain fel y rhos,

Yn wylo am ei fami;

Gormesaist lawer arnaf, Men,

Gormesais innau—dyna ben:

O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,

I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu cân

I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,

I eistedd eto ger y tân,

Ar fynydd Aberdyfi;

’Rwy ’n cofio’th lais yn canu ’n iach—

Ond ’fedri di, na neb o’th âch,

Ddiystyrru gweddi plentyn bach

Sydd eisieu gweld ei fami.

Rhyw chware plant oedd d’weyd ffarwel,

Cyd-faddeu wnawn, a dyna ’r fel,

Tyrd tithau ’n ol, fy ngeneth ddel,

I fynydd Aberdyfi.

Ceiriog · 第 105 / 112 题