XVIII.

Mi dreuliais wythnos gyfan,

A Menna bach i ffwrdd;

A’r tŷ yn llanast tryblith,

A’r llestri hyd y bwrdd.

’R oedd gennyf was a hogyn

Yn cynhauafa mawn:

Ac eisiau pobi bara

A daeth yn fuan iawn.

’R oedd godro un o’r gwartheg

Yn gasach na phob peth,

Oherwydd Menna ’n unig

Gai gydied yn ei theth.

A throi yn hesp wnaeth pedair

O’r gwartheg mwyaf blith;

A llaeth y lleill a surodd,

A’r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,

’R oedd hi heb drefn na llun:

Y plant ddechreuent grïo,

A chrïais innau f’ hun.

Mi flinais ar fy einioes,

Aeth bywyd imi ’n bwn:

A gyrrais efo ’r hogyn

I Menna ’r llythyr hwn:—

Ceiriog · 第 104 / 112 题