XX.

Fe ddaeth yr hogyn adref,

A rhoddodd sicrhad,

Fod Menna ’n mynd i aros

Yn nhy ei mam a’i thad.

Os oeddem wedi priodi,

Yn bendant dwedai hi

Nad oedd dim modd cymodi

A dyn o’m tymer i.

Fod i’r holl fechgyn fyned

I’w magu ganddi hi:

Ac i’r genethod ddyfod

O dan fy ngofal i.

’R oedd hi yn ymwahanu,

Ac felly ’n canu ’n iach;

Ond hoffai roddi cusan

Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd

I ddwyn y rhwyg i ben:

Ond O! fe dorrodd dagrau

O eigion calon Men;

Cymerodd Arthur afael

Am wddf ei fam a fi,

Ac fel rhyw angel bychan,

Fe ’n hailgymododd ni.

Ceiriog · 第 106 / 112 题