XI.

Gwelais bren yn dechreu glasu

Ei ganghennau yn yr ardd

Ac yn dwedyd wrth yr adar,—

“Wele daeth y Gwanwyn hardd.”

Daeth aderyn bychan heibio,

Ac fe safodd ar ei frig;

Ac fe ganodd gyda deilen

Newydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arall

Ar las gangen yn y coed,

Fe ysgydwodd blu ei aden

Ac fe ddawnsiodd ar ei droed;

Canodd yntau, a dewisodd

Fan lle carai wneyd ei nyth,

O! mae ’r Gwanwyn fel yn cadw

Natur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwen

Ac mi godais fry fy mhen,

Ac mi welais ol y gyllell,

Lle torasid cangen Men.

Gwnaeth adgofion i’m ofidio

Na buasai ’r gainc yn wyw;

Ond canfyddais gangen ieuanc

Yn y toriad hwnnw ’n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,

Meddwyf innau wrth fy hun;

Er fy nhorri gallaf dyfu

Eto yn serchiadau ’r fun.

Troes fy wyneb tuag adref,

Teflais lawer tremiad ffol

Tros fy ysgwydd at y fedwen

Lâs adewais ar fy ol.

Ceiriog · 第 97 / 112 题