X.

ALAW,—_Y Melinydd_.

Ond chaiff y gangen fedwen

Ddim gwywo ’n goch ei lliw

Nes af i siarad eto

Yng ngwyneb Menna wiw.

Fa la, &c.

Mae gennyf dŷ fy hunan,

Heb ddegwm, rhent, na threth;

A phan eisteddaf ynddo,

’Rwy’n frenin ar bob peth.

Fa la, &c.

Mae gennyf barlwr bychan,

Ac aelwyd fechan lân;

A’m tegell i fy hunan

Sy ’n canu wrth y tân.

Fa la, &c.

Mae gennyf gant o ddefaid

Yn pori ar y bryn,

A gallaf godi ’m cyfrwy

Ar gefn fy ngheffyl gwyn.

Fa la, &c.

Mae gennyf ferlyn mynydd,

I fynd i weled Men;

Nad all neb ond fy hunan

Roi rheffyn yn ei ben.

Fa la, &c.

Mae ’r ardd, a’r cae, a’r ffriddoedd,

A’r tŷ yn eiddo im’;

Ond heb fy Menna anwyl

’Rwyf fel pe bawn heb ddim.

Fa la, &c.

Fe ’i ceisiaf unwaith eto,

Ac os gwrthodir fi,

Tros fil o weithiau wedyn

Am Fenna ceisiaf fi.

Fa la, &c.

Ceiriog · 第 96 / 112 题