XII.

Wrth ddychwel tuag adref,

Mi glywais gwcw lon,

Oedd newydd groesi ’r moroedd

I’r ynys fechan hon.

A chwcw gynta’r tymor

A ganai yn y coed,

’Run fath a’r gwcw gyntaf

A ganodd gynta’ ’rioed.

Mi drois yn ol i chwilio

Y glasgoed yn y llwyn,

I edrych rhwng y brigau,

Ple ’r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais

O dan fy medw bren;

Ac yno ’r oedd y gwcw,

Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,

Ein bod ni yma ’n cwrdd—

Mi sychais i fy llygad,

A’r gwcw aeth i ffwrdd.

Ceiriog · 第 98 / 112 题