IX.

’R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff,

Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên;

Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi

Fy neheulaw i Menna Rhên.

Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,

Siaradodd â’r llances ei hun—

Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail

Y fedwen a welais trwy f’ hun.

Mae llawer ffordd i lofruddio dyn

Yn y byd llofruddiog hwn;

Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos,

Bydd angau ar ffroen ei wn;

Fe gymer eich arian ar ol eich lladd,

I’w logell losgedig ei hun,

Ac yna fe ’ch tafl i ffos y clawdd,—

Dyna ffordd _lleidr_ i fwrdro dyn.

Mae arall o falais yn dod gyda gwên,

I ro’i i ddyn ddiod yn hael,

Mae yntau ’n cymeryd, ond bychan y gŵyr

Mai cwpan o wenwyn mae ’n gael;

Mae un yn ymdrengu, a’r llall yn boddhau

Rhyw deimlad sydd ynddo fe ’i hun—

Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan i ben,

Dyna ffordd _llofrudd_ i fwrdro dyn.

Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,

Fel cyfaill diffuant bob pryd,

Ac rywfodd i’ch mynwes yn gynnes yr a,

Nes cael eich cyfrinach i gyd.—

Ac yna mae ’n myned i sibrwd ei serch

I galon un garech eich hun—

Yn ennill y llances garasech erioed;

Dyna ffordd _cythraul_ i fwrdro dyn.

Ceiriog · 第 95 / 112 题