VIII.

ALAW,—_Hob y Deri Dando_.

Mae gan bawb ei brofedigaeth,

Paid a siarad gwirion,

Ond myfi gadd siomedigaeth

Paid a thorri ’th galon;

Rhyfedd iawn os na wnaf farw,

Siwr, siwr iawn,

Siomedigaeth chwerw arw;

Mwyn, mwyn, er ei mwyn,

A fyddai marw er ei mwyn.

Rown i’n meddwl ei bod hi’n ddidwyll,

Paid a meddwl gwirion,—

Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;

Dyna fel mae dynion.

Dynion sydd a’r synwyr cryfa,

Siwr, siwr iawn,

Ond gwrthodwyd fi gan Menna;

Mwyn, mwyn, er ei mwyn,

A fyddai marw er ei mwyn.

Rhoddais iddi gangen fedwen,

Beth ddywedodd Menna?

Gyrrodd imi gangen gollen,

Wel, hi wnaeth yn eitha’.

Ond parhaf o hyd i’w hoffi,

Siwr, siwr iawn,

Pe b’ai ’n gyrru amdo imi;

Mwyn, mwyn, er ei mwyn,

A fyddai marw er ei mwyn.

Ceiriog · 第 94 / 112 题