VII.

Tra ’n cysgu ’r nos ddilynol

Canfyddais trwy fy hun,

Y gangen fedwen honno ’n bleth

Am wddf fy anwyl fûn;

Y dail a ddeuent arni,

Yn wyrdd a llawn bywhad;

A gwelwn hi ’n blodeuo ’n hardd,

Ac yna ’n hadu had.

Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd

O freuddwyd heb ei ail!

Canfyddwn locust melyn ddu

Ymysg y bedw ddail;

Ymlusgodd ac ymrwyfodd

Nes cyffwrdd gwddf y ferch,

Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,

Ond hunllef hagr erch.

Diolchais am gael deffro

Pan ddaeth yn doriad dydd;

Ond cofiais ddechreu’r breuddwyd hwn

Yn fwy na ’i ddiwedd prudd.—

Meddyliais am y blodau

Oedd ar y brigau cain,

Yn fwy nag am y locust erch

Lochesid yn y rhain.

Fy nghalon losgai ynnof

Wrth gofio llygad Men;

Ac adeiladais lawer llys

A chastell yn y nen;

Ond maluriasant ymaith,

Cyn dechreu mynd yn hen,

Oherwydd cangen _gollen_ ddaeth

Oddiwrth fy Menna Rhên.

Ceiriog · 第 93 / 112 题