VI.

Pan welais gyntaf Menna Rhên

Yn myned tua ’r mynydd,

Yr oedd plentynrwydd tyner llon

Yn dirion ar ei dwyrudd;

Ac efo ’i brawd y byddai beunydd,

Yn adsain miwsig hyd y meusydd;

’R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall

I ganu a charoli’n ddiwall,

Ond nid oedd dim yn Menna Rhên—

Ddim mwy na rhywun arall.

Mi welais eilwaith Menna Rhen

Yn myned tua ’r mynydd;

A byth er hynny, coeliwch fi,

Bu ’n boenau imi beunydd.

Yr oedd y dôn a genid ganddi

Fel yn aros gyda myfi;

Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,

A nosweithiau mewn breuddwydion,

Nes credais fod cân Menna lân

Yn ngwaelod isa ’nghalon.

Mi welais wedyn Menna Rhen

I’r mynydd hwnnw ’n myned,

Ac mi ddilynais ôl ei throed

Bob cam a fedrwn weled;

Ond hi o’r diwedd oddiweddais,

Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais

Farddoniaeth dlysach mewn un munud

Na dim a genais yn fy mywyd,

Wrth roddi cangen fedwen ferth

Yn nwylaw fy anwylyd.

Ceiriog · 第 92 / 112 题