V.

Mi genais gerdd i’r Arad Goch,

A cherdd ar Ddowch i’r Mynydd:

Ond beth be bawn i eto ’n dod

I ganu cân anghelfydd

Ar alaw anwyl “Blodau ’r Cwm,”

Mae pawb yn gwybod honno;

A beth pe bawn yn dewis pwnc

Y gŵyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gŵyr

Am ferch fu ’n flinder iddo;

Ond wn i ddim yn sicr chwaith,

Ai gwyn ei fyd, ai peidio.

Mae’n ddigon hawdd gan ambell un

Sydd wedi cael ei ginio,

Areithio llawer wrth ryw blant

Y gallant aros hebddo.

Fe guchia gwyneb llawer tad,

Pan glywant gân cariadau:

Tra ’u plant eu hunain wrth eu traed

Yn chwerthin am eu pennau;

Ni welais i ’run deryn bach

Yn hoff o fyw yn unig;

Ac ni fu oen yn hoff o’i fam

Nad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn

Na mam yn hoff o’i phlentyn,

Nad ydoedd serch at ferch neu fab

Yn gyntaf wedi ennyn.

Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,

A’i enaid fel yn huno,

Nes daw rhyw lygad fel yr haul

I wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawn

Ar gangen fawr dynoliaeth,

Os bydd ei wedd heb wrido ’n goch,

Yng ngŵydd ei anwyl eneth.

Ond nid athromaeth dâl i feirdd,—

Barddoniaeth ydyw ’r testyn:

Am hynny tyred, Menna Rhên,

Fy awen a fy nhelyn.

Ceiriog · 第 91 / 112 题