TUAG ADRE.

O DDYDD i ddydd mae melyn haul

Yn pasio yn ei gerbyd;

O nos i nos mae ’r lleuad wen

Yn codi ac yn machlud?

O awr i awr mae ’r ser yn troi

Ar draws yr eangderau;—

Yn wir, mae holl greadigaeth Duw

Yn teithio tuag adre.

Mae ’r ffrydlif fach, ar ben y bryn,

Yn rhedeg megys crwydryn;

Ac afon fawr, y dolydd îs,

Yn rhedeg yn y dyffryn;

Mae ’r gwynt yn crwydro yn y nef,

A symud mae ’r cymylau;—

Ac O! mae holl greadigaeth Duw

Yn teithio tuag adre.

Mae gwynt Diwygiad ar ei daith,

A derw Cymru ’n gildio,

Mae swn gorfoledd yn y dail,—

Mae swn canghenuau ’n cracio;

O! Anadl, tyrd o’r pedwar gwynt,

A chymer y byd mewn hymnau,

Cân a moliant iddo Ef,

I byrth tragwyddol gartre.

Ceiriog · 第 83 / 112 题