BEIBL FY MAM.

Y CYFAN oll sydd genny ’n awr

Yn y cyfanfyd crwn

Yw ’r fendigedig gyfrol hon,

Yw ’r Beibl anwyl hwn.

Mae ’n dechreu gyda dalen deg

Ein pren teuluaidd ni:

Fy mam wrth farw, megis mam

A roddodd hwn i mi.

Rwy’n cofio ’n dda rai enwau hoff,

Ar ddechreu ’r gyfrol hon;

Fy mrawd, fy chwaer, a’r baban bach

Fu farw wrth y fron.

Rwy ’n cofio ’r hwyr darllennai ’nhad,

Am Grist ac angeu loes;

Ac fel y codai ’r Beibl hwn

Wrth son am waed y groes.

Mi dreuliais lawer awr erioed,

I feddwl am y fan;

Rwy ’n gweld y teulu ’n fyw, er fod

Eu beddau yn y Llan.

Rwy ’n gweld y plant ar derfyn dydd,

A’r bychan byr ei gam

Yn myned ar ei ddeulin bach,

Wrth lin fy anwyl fam.

Mae ’r byd yn wag, cofleidiaf di,

Fy Meibl anwyl iawn;

Y fynwent a’th ddalennau di

Yw ’r unig bethau llawn.

Esmwytha di fy ffordd i’r bedd

Trwy ddysgu ’r ffordd i fyw:

Crynedig dwylaw fo ’n dy ddal

Fys anweledig Duw.

[Picture: “Aros mae’r mynyddoedd mawr,

Rhuo trostynt mae y gwynt.”]

Ceiriog · 第 84 / 112 题