Y GARREG WEN.

OS pell yw telyn aur fy ngwlad

O’m dwylaw musgrell i;

Os unig wyf o dŷ fy nhad,

Lle gynt chwareuid hi:

Mae ’r _iaith_ er hynny gyda swyn,

Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,

I ganu cerdd, os nad yn fwyn

I’r byd—mae’n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt

I ardd fy nghartref i,

Lle cododd un o’m teidiau gynt

Ddisgynfa iddi hi.

Mae helyg melyn uwch y fan,

Lle syrthia tros y dibyn ban,

A choed afalau ar y lan,

Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa’r dŵr mae llyn,

A throsto bont o bren;

A charreg fawr, fel marmor gwyn,

Gynhalia’r bont uwch ben.

Fy mebyd dreuliais uwch y lli,

Yn eistedd yno arni hi;

A mwy na brenin oeddwn i,

Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai ’r Gwanwyn teg ei bryd

Ar ol tymhestlog hin,

Ac adfywhau ’r llysieuog fyd

Yn ei gawodydd gwin;

Yn afon fawr ai ’r gornant fach;

Pysgotwn ar ei glennydd iach—

A phin blygedig oedd fy mach

Yn grog wrth edau lîn.

Ni waeth pa ran o’r eang fyd

A grwydraf tra b’wyf byw,

Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,

A’r nant sydd yn fy nghlyw;

A phan hysbyswyf estron ddyn,

Mai ati’ hedaf yn fy hun,

Maddeua ’m ffoledd am mai un

O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,

Serenog fel y nen;

Ac ymysg dynion neb nid oes,

Na hoffa godi ei ben

I edrych draw i’r amser fu—

A syllaf finnau gyda’r llu—

Ac O! fy seren fore gu

Wyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf,

Cyn gollwng arna’r llen;

Os gauaf einioes byth a gaf,

A’i eira i wynnu ’m pen—

Bydd angau imi ’n “frenin braw,”

Nes caffwyf fynd i Walia draw,

At dŷ fy nhad, i roi fy llaw

Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho’

Gyfeillion mud yr ardd;

Nis clywir trystfawr swn y gro

Ar gauad arch y bardd;

A dagrau pur tros ruddiau ’r nen

Fo ’r oll o’r dagrau uwch fy mhen—

Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen

O gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri,

Uchelfawr tua’r nen;

Ond noder fy ninodedd i

Gan garnedd uwch fy mhen;

’Rol gado gwlad y cystudd mawr,

Os byw fy enw hanner awr,

Na alwed neb fi ar y llawr

Ond Bardd y Garreg Wen.

Ceiriog · 第 82 / 112 题