TRWY WLEDYDD DWYREINIOL.

[O “Owain Wyn.”]

GADEWAIS fy mhraidd ar y mynydd,

A chefnais ar drumiau fy ngwlad,

Breuddwydiais am fyd o lawenydd

Tu allan i furiau fy nhad;

Yn ol i’r mynyddoedd dychwelais,

Ond dysgais, a’m dagrau yn lli,

Os bywyd y milwr arweiniais,

Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais

Ond cofio gwyllt Walia oedd loes;

O wagedd ieuenctyd yr yfais

Nes chwerwais felusder fy oes;

Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,—

Chwi wledydd goruchel eich bri,

Yn mhell byddoch byth o fy llygad,—

Mynyddau ’r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angau

Ailddringo llechweddau fy mro,

I gasglu y praidd i’w corlannau

Hyd lwybrau cynefin i’m co;

Uwch bedd anrhydeddus y milwr

Mae enfys arddunol o fri;

Ond rhowch i mi farw ’n fynyddwr,

A beddrod y bugail i mi.

Ceiriog · 第 81 / 112 题