DYCHWELIAD YR HEN FILWR.

PELL, pell, yw telyn Cymru

O fy llaw;

Do, dywedais gan alaru—

Byth ni ddaw,

O’r dydd y cenais ffarwel

A chwi wrth fynd i ryfel,

O’m mewn bu ’r geiriau dirgel—

“Byth ni ddaw.”

A rhuai safn y fagnel,

“Byth ni ddaw.”

Ffarweliais pan yn fachgen

Gyda chwi,

Yng nghanol dyddiau llawen

Rhannwyd ni;

Ond nid yw ’r floedd fu ’n galw

Tros ryddid, gwlad, ac enw,

O fewn fy nglust yn farw,

Na, mae cri

A llais yr amser hwnnw

Gyda mi.

Ond nid yw ’r holl wynebau

Ger fy mron,

Yr hardd rosynaidd ruddiau

Ieuanc llon.

Bu pellder i’n gwahanu,

Bu amser yn ein gwynnu,—

Do, do, mae wedi claddu

Oll o’r bron;

Ac atynt y’m yn nesu

Bawb a’i ffon.

Wyt eto, delyn Cymru,

Yn fy llaw;

Ond ieuanc nerth i’th ganu,

Byth ni ddaw.

Ond clywaf swn dy dannau

Yn murmur megis tonnau,

Ar fôr yr hen amserau

Yn ddidaw;

Yn torri ar hoff lannau—

Pell, pell, draw.

I’th erbyn delyn heddwch,

Pechais i;

Ond eto mewn tawelwch

Wele ni.

Mae llaw a driniodd arfau,

Mae llaw wasnaethodd angau

Yn cyffwrdd gyda’th dannau

Anwyl di;

Os aeth o gof dy chwarau,

Torrer hi.

Na, na, er ei chaledu

Gan y cledd,

Daw rhwng y bysedd hynny

Bennill hedd;

Os gwelir dwfn ysgrifen

Blynyddoedd ar fy nhalcen,

Os ciliodd enw bachgen

O fy ngwedd—

Rwy ’n teimlo eto ’n llawen,

Ger fy medd.

Gwir sylweddoliad breuddwyd

Ger fy mron,

Yw gweled eto ’r aelwyd

Anwyl hon.

Ar faesydd rhuddion angau

Trwy dewfwg y magnelau,

Cyfeiriais fil o weithiau

Tros y don;

At gysegredig furiau

Mebyd llon.

Pell, pell, fu telyn Cymru

O fy llaw;

Do, dywedais gan alaru,—

Byth ni ddaw.

Ond wele ni, gyfeillion,

Yn yfed gwin cysurlon

O gwpan hen adgofion

Yn ddifraw,—

A wele ’r tannau mwynion

Yn fy llaw.

Ceiriog · 第 80 / 112 题