WRTH weld yr haul yn machlud,
Mewn eurog donog dân;
A mil o liwiau ’n dawnsio ’n deg,
Ar fyrdd o donnau mân.
’Rwy ’n teimlo dwyfol wyddfod—
Shecina Natur yw;
Yn datgan ei ogoniant Ef
Yr Hollalluog Dduw.
Wrth weld yr haul yn codi,
Yn loew lân ei bryd;
Rwy ’n gweld y glaer Shecina fawr,
Yn amgylchynnu ’r byd.
Os gormod gwedd yr heulwen
I lygad marwol ddyn;
Fath ydyw ei ogoniant Ef
Y Crewr Mawr ei Hun!
Ar godiad haul yng Nghymru,
Ces lawer boreu gwiw;
Pan blygai ’m tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw.
Caem eistedd yn y cysgod,
Tra ’r haul yn croesi ’r nef;
Mi gofiaf byth y weddi hwyr,
Ar ei fachludiad ef.