WYT ti ’n cofio ’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthet
Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti ’n cofio ’r dagrau gollaist
Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti ’n cofio ’r hen wresogrwydd,—
Wyt ti ’n cofio gwasgu ’m llaw?
“_Hyd fy marw_” oedd dy eiriau,
Y parhaet yn ffyddlon im’;
O fy ngeneth, O fy nghariad!
Nid yw poenau marw ’n ddim.
Er wrth dorri ’th addunedau,
I ti dorri ’m calon i,—
Magi anwyl, mae dy gariad
Eto ’n gariad pur i ti.
Mae ’th lythyrau yn gwneyd i mi
Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
Fel helygen tros dy lun.
Llun dy wyneb, Magi anwyl,
O mae ’n twynnu fel yr haul,
Nes ’r wy ’n teimlo gwae a gwynfyd
Nef ac uffern bob yn ail.
O f’ anwylyd! er mai _cyfaill_
Yw yn awr fy enw i,
Maddeu i mi am ddefnyddio
Yr _hen enw_ arnat ti;
_Cariad_ wyt ti, Magi anwyl,
Bur ddihalog fel erioed;
Troi ’st dy wyneb, cefnaist arnaf,
Minnau garaf ol dy droed.