CYMER hi Annie, o cymer hi heno,
Mae’th fys gyda ’th galon yn crynnu gan fraw;
Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grïo
Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw.
Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,
A’th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddôl—
Wel dyna hi ’n gymhwys, da gwyddwn O Annie,
Na wnaet ti byth dynnu ’th addewid yn ol.
Cymer hi Annie, ’does arni ddim cerfiad,
Na gemau cywreinion i’w gweled yn awr;
Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad,
Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.
Mae gennym ni gariad a leinw ’n holl fywyd,
Yn hwnnw ’r ymffurfia y maen o fawr werth;
Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd,
Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.
Cymer hi Annie, a’r nefoedd ro inni
O fewn ein haur-fodrwy fan fechan i fyw,
Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi,
Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw.
Mae ’r bydoedd yn grynion a’r haul a’u goreura,
Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon;
Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa,
Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.
Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod,—
Dwy enfys fach ydyw a’u deuben ynglŷn;
Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,
A’r ail un yn amod mai ti fydd fy mun.
Mae’n gyfan, mae’n brydferth, heb gymorth y gemau,
Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;
Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,
Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.
Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,
Dyferwlaw ’r amrantau rhag tywallt i lawr;
Mae ’n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,
Roi ’m pen ar dy ysgwydd—rwy’n well Annie ’n awr.
Mae’th ddeigryn fy nghariad, a’m deigryn bach innau,
Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw—
Ond moes imi ’r fodrwy, ti cei hi ’n y boreu
Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.