MYFANWY.

[O “Myfanwy Fychan”.]

“MYFANWY! ’rwy ’n gweled dy rudd

Mewn meillion, mewn briall, a rhos;

Yng ngoleu dihalog y dydd,

A llygaid serenog y nos;

Pan gyfyd claer Wener ei phen

Yn loew rhwng awyr a lli,

Fe ’i cerir gan ddaear a nen.

I f’ enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,

Mil lanach, mil mwynach i mi.

“Fe ddwedir fod beirddion y byd

Yn symud, yn byw ac yn bod,

Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,

Ar obaith anrhydedd a chlod;

Pe bâi anfarwoldeb yn awr

Yn cynnyg ei llawryf i mi,

Mi daflwn y lawryf i lawr—

Ddymunwn i moni, fe ’i mathrwn os na chawn i di,—

Myfanwy, os na chawn i di.

“O! na bawn yn awel o wynt

Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,

I suo i’th glust ar fy hynt,

A throelli dy wallt ar wahan;

Mae ’r awel yn droiog a blin—

Un gynnes ac oer ydyw hi;

Ond hi sy ’n cusanu dy fin.

O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,

Tragwyddol yw ’m serch atat ti.

“Mewn derwen agenwyd gan follt

Draig-fellten wen-lachar ac erch;

Gosodaf fy mraich yn yr hollt

A chuddiaf beithynen o serch.

Ni’m gwelir gan nebun, ond gan

Y wenlloer—gwyn fyd na baet hi,

Er mwyn iti ganfod y fan.

Ond coelio mae ’m calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi—

Eill ddwedyd y cwbl i ti.”

Petrusai Myfanwy _pwy oedd_ a roisai’r beithynen yn gudd?

A dwedai,—“rhyw ffolyn o fardd,” _ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd_;

Disgynnodd ei llygaid drachefn ar “na bawn yn awel o wynt

Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,”—_o churodd ei chalon yn gynt_.

“Mi droellet fy ngwallt—O mi wnaet! wyt hynod garedig,” medd hi,

“A phe bawn yn suo i’th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti;

Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di ’n araf fy ffrynd,”—

Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—_ond O_! _’r oedd ei chalon yn mynd_!

’R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi’r breuddwyd i

ben,

Fod un o g’lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren—

Heb gymar yn agen y pren.

Ceiriog · 第 62 / 112 题